Clwb Llyfrau f8: The Fight Between Light And Darkness

gan Elidir Jones

Mae’r hen gwyn mor wir ac erioed. Does dim digon o ddeunydd nyrdaidd yn dod allan o Gymru, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ac mae hynny sy’n cael ei ryddhau yn cael y nesa peth i ddim o sylw gan brif ffrŵd y cyfryngau.

Dyma lle ‘da ni’n dod i mewn. Achos mae ‘na nofel graffeg annibynnol newydd ei chyhoeddi yma yng Nghymru fach. Ac mae’n un y dyliech chi wybod amdani.

4f

Mae The Fight Between Light And Darkness yn un rhan o brosiect amlgyfrwng sy’n cael ei gynhyrchu gan yr awdur, arlunydd a cherddor Robbie Brewster o Gaerdydd. Yn y man, fe fydd yn cynnwys deunydd fideo ar Youtube, ond fe allwch chi ymweld â gwefan swyddogol y prosiect rŵan er mwyn darllen blog storïol sy’n cydfynd â’r llyfr.

Ar y funud, ella bod cael gafael ar y llyfr ei hun yn dipyn o dasg. 50 o gopïau sydd wedi eu printio, a minnau’n berchen ar rif #15, diolch i’n cyfaill Rhodri ap Dyfrig, roddodd y llyfr i mi ar noson stormus (diwrnod oer) mewn stryd gefn dywyll (cynhadledd Hacio’r Iaith). Diolch, Rhodri. Os hoffech chi gopi eich hun, ella mai’r peth gorau i’w wneud ydi gofyn yn neis i’r awdur ar Twitter – neu obeithio bod ‘na fwy o gopïau ar y ffordd.

Fe fyddai’n dasg braidd yn ddi-bwynt trio esbonio plot y llyfr. Yn ei hanfod, mae’n stori am dad a mab, y ddau yn rhannu obsesiwn â Superman, sy’n mynd ar drip gwallgo o gwmpas y byd wedi i’r tad ddarganfod ei fod yn dioddef o gancr. Ond dydi hynny ddim yn dechrau disgrifio’r holl stori. Tra’n ei ddarllen, roedd yn fy atgoffa’n aml o ffilmiau Studio Ghibli fel Spirited Away, sy’n cynnwys ambell dro yn y gynffon neu naid storïol sy’n teimlo’n hollol naturiol pan ‘da chi’n eu gwylio, ond yn dipyn anoddach i’w disgrifio a’u deall wedi cymryd cam yn ôl. Digon yw dweud y byddech chi wir wedi cael eich tywys ar siwrne erbyn i chi gyrraedd y dudalen olaf, a dim i’r lle yr oeddech chi’n ei ddisgwyl.

Er bod unrhyw fyfyrdod ar gancr yn bygwth bod yn llethol ac yn drymaidd, mae The Fight Between Light And Darkness yn osgoi hynny trwy wneud yn glir o’r cychwyn mai stori ffantasi ydi hon. Does dim llawer o deimlad naturiolaidd yn agos at y peth, ac mae hynny’n cynnwys y deialog. Mae pawb yn siarad mewn datganiadau mawr epig sy’n atgoffa rhywun o oes aur comics superhero. Mae’n ddewis dewr ac effeithiol, er ei fod yn taflu rhywun fymryn bach i ddechrau.

Ac mae’r gwaith celf hefyd yn eich tynnu chi ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o’r byd go-iawn. Mae’n syml – bron yn elfennol, i ddweud y gwir  – ac ar ei orau, dwi’n meddwl, pan mae’r delweddau yn mynd yn fwy ffantasïol tua diwedd y llyfr.

jac-knife-web

Bron nad o’n i’n medru eu gweld nhw’n symud yn fy mhen tra’n darllen – fyswn i yn cynnig bod rhywun yn gwneud addasiad cartŵn o’r llyfr, petasai ‘na ddim digon o gyfryngau gwahanol yn cael eu cyffwrdd gan y prosiect yn barod. Mae’n rhaid stopio yn rhywle.

Ar ben y gwaith celf gan Robbie Brewster, mae ‘na waith ffotograffaidd wedi ei gynnwys yn y llyfr, ac mae meibion ifanc yr awdur wedi cynnig eu dadansoddiadau eu hunain o’r darluniau. Mae hyn, yn enwedig, yn ddyfais digon syml unwaith eto, ond sydd hefyd yn pwysleisio’r thema o dadolaeth sy’n ganolog i’r peth.

Mae ‘na ambell beth y gallwn i feirniadu yma – fe fyddai dipyn bach mwy o waith golygyddol, er enghraifft, wedi mynd ymhell. Ond hel beiau fyddai hyn, yn y pen draw. Mae’r ffaith bod Robbie Brewster wedi creu’r holl brosiect yma fwy neu lai ar ei ben ei hun yn syfrdanol – a hynny yng Nghymru, gwlad sydd ddim yn adnabyddus iawn am ei sîn gomics annibynnol. Gobeithio wir y bydd o’n parhau i gynhyrchu gwaith fel hyn, ac y bydd eraill yn ei ddilyn.

A, hei, os wyddoch chi am unrhywbeth nyrdaidd o Gymru – yn gomic neu’n ffilm neu’n gêm neu’n lyfr – sy’n haeddu chydig bach mwy o sylw, rhowch wybod. Dyna be ‘da ni’n wneud orau yma yn f8 HQ, wedi’r cwbwl – llusgo’r petha ‘ma allan o’r tywyllwch, ac i mewn i’r goleuni.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s