Adolygiad Assassin’s Creed: Syndicate
gan Joe Hill
Wedi ei brofi ar PS4 a’r gem wedi ei anfon i f8 gan Ubisoft
Mae’r gemau Assassin’s Creed yn achlysur mwy neu lai flynyddol ers 2007. Roedd yr Assassin’s Creed gwreiddiol yn fwy o “tech demo” yn hytrach na gem gyflawn. Ers ‘ny, mae Ubisoft wedi trio gwireddu’r breuddwyd o dringo unrhywbeth, cyrraedd unrhywle yn anweladwy a lladd templars pesci (dynion drwg, mae’n debyg) cyn diflannu nol i’r cysgodion. Syndicate yw’r nawfed brif gem yn y gyfres, ac ar y cyfan mae’n un o’r ymgeision gorau. Mae yna newidiadau croesawgar o ran elfennau’r gem ac hefyd agwedd Ubisoft.
Mae’r lawnsiwr rhaff yn teclyn newydd sy’n trawsffurfio eich symudiad drwy Llundain yn yr 1860au. Gellir cyrraedd tô adeilad agos mewn eiliad efo gwasgiad botwm, ac mae ail gwasgiad yn eich lawnsio draw i’r adeiliad nesaf. Gellir hefyd ei ddefnyddio i ddiflannu i’r cysgodion uwchben eich gelynion; teimlad braf ac yn debyg iawn i’r “predator challenges” yn y gyfres Arkham. Efallai fuasai rhai yn argymell fod angen yr elfen newydd yma oherwydd fod hen broblemau’r gyfres dal i fodoli; ar sawl achlysur roedd diffyg manylrwydd y mewnbynnau yn rhwystredig i ddweud y lleiaf. Gall ymdrech i ddringo droi’n naid hunanladdol o flaen tren, ac mae sawl rhan o’r stori yn teimlo mwy fel brwydr yn erbyn y rheolydd (controller) yn hytrach na byddin y templar.
Ychwanegiad arall newydd yw cerbydau, efo cefyllau a chart yn llewni strydoedd prysur Llundain. Gellir ddwyn rhain megis Grand Theft Auto Fictorianaidd, ond maent braidd yn lletchwith i’w reoli, ac yn sicr yn dull teithio llai hwylus na’r lawnsiwr rhaff. Mae ‘na trophy Playstation am chwalu 5000 (ie – 5000) o stondinau ayyb trwy gyrru trwyddynt – hwn oedd yr unig rheswm i’w ddefnyddio tu allan i’r stori. Teimlad eitha tebyg i yrru yn y gem gynta i mapio prifddinas Lloegr, The Getaway (a na, doedd hwnna ddim yn syniad da iawn chwaith).
Wedi chwalfa Unity (wele ein adolygiad fan hyn) blwyddyn diwetha, mae’n glir fod Ubisoft wedi gwrando ac ymateb efo agwedd wahanol i’w cwsmeriaid a menywod yn arbennig. Roedd problemau arswydus Unity wedi digio mwyafrif o’r chwaraewyr teyrngar, ac roedd angen sicrhau fod hyn ddim yn camgymeriad farwol i’r gyfres. Er mae ‘na dal glitch digri o bryd i’w gilydd, dyw rhain ddim yn agos i problemau enfawr Unity – ac roedd patch hanner Gb ar y diwrnod cynta yn hytrach na’r 4 Gb roedd ei angen i drwsio Unity hefyd yn destament i ansawdd well y gem. Mae rhai hefyd yn amau fod yr Helix glitches (glitches e fewn fframwaith y gem sy’n eich tynnu allan o’e amser cyfredol ac yn ‘torri’r gem) sydd yna i’w gasglu led-led y ddinas yn ryw fath o in-joke o ran pwyllgor cynllunio’r gem.
I sicrhau ansawdd gwell, tynnwyd sawl elfen o’r gem wrth gymharu a’i rhagflaenyddion. Yn hytrach na rhannu ymdrechion dros ddau cenhedlaeth o beiriannau, fe ganolbwyntwyd tro hyn yn unig ar un gem i’r PS4, Xbox One a PC. Aberthwyd hefyd y darn multiplayer; mae hyn braidd yn siom gan fod Assassin’s Creed yn cynnig profiad digon wahanol i’r holl Calls of Battlefront a Medals of Destiny (#dychan). Colled arall fydd yn siomi neb yw’r darnau cyfoesol. Dim ond ambell cameo sydd gan Shaun ‘sarcasm’ Hastings a’i griw tro hyn, o’r diwedd!
Er hyn i gyd, y newidiad mwyaf hoffus yw’r ffaith fod yna dau brif gymeriad tro hyn: Jacob a Evie Freye. Blwyddyn dwethaf ar ol cyhoeddi Unity roedd ymateb weddol gadarn yn sgil geiriau cyfarwyddwr technegol Unity, yn honni y bydd yn cymryd ‘gormod o amser’ i animeiddio cymeriad benywaidd. Roedd hyn hefyd braidd yn chwerthinllid wrth feddwl am Aveline, brif cymeriad AC: Liberation ar y PS Vita. Mae’n hen bryd i gyhoeddwyr gemau sylweddoli fod merched a menwod yn gyfran helaeth o’i gynulleidfa a’i chwsmeriaid. Mae Evie yn gymeriad cryf a diddorol sydd yn credu mewn arfwisg addas yn hytrach na bikini, sy’n efallai yn rhywbeth na fydd Hideo Kojima yn deall yn dda iawn.
Mae hi’n gyfartal a’i brawd, Jacob, efo pwyslais y stori mwy neu lai yn hafal rhyngddynt. Gobeithio gawn ni weld mwy o’r efeilliaid Freye yn y dyfodol, yn ogystal a rhagor o brif cymeriadau benywaidd yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant.
Nodyn golygyddol:
Mae @dafprys yn dweud fod o eisiau gweld mwy o Edward Kenway achos, wel, achos ma fe’n for-leidr, ac yn Gymro. Felly pawb yn ennill.
[…] Bydd ail antur Corvo Attano yn fwy o’r gymysgedd ffantastig o stealth a phwerau lledrith mewn byd steampunk. Tro yma, cawn hefyd cymryd rhan Emily Kaldwin sydd â phwerau gwahanol ac yn siawns arall am gymeriad cryf benywaidd. […]