Mae @dafprys wedi cyffroi yn lan gyda gem arswyd newydd gan Nippon Ichi (datblygwyr Disagea). Mae’r gem yn digwydd dros noswaith mewn tref bychan yn Siapan a does dim angen gweud llawer mwy na hynny, gyda’r lluniau islaw yn siarad am y gem yn well nac unrhyw destun. Wedi dweud hynny ma Daf yn teimlo fod y ffaith fod o ar y Vita yn unig (gan adael i chi chwarae’r gem gyda’r nos dan y dillad gwely) yn mynd i neud y peth yn ‘ace’. Da ni’n cymryd taw gair cwl yn Siapan yw hwnna ar hyn o bryd.