gan @dafprys
Teclyn pwerus iawn ar flaen eich bysedd yw’r gallu i codio: dwi wedi ymbalfalu dros sawl blwyddyn nawr i’r gallu i rhoi gwefan ymatebol syml i fyny ond dyw hwnna’n ddim byd i’r gallu i rhestru llinynau rhesymeg gan ddefnyddio c++ neu Visual Basic (neu Fortran os chi’n ancient).
Os chi’n weddol gyfarwydd efo prif lif y wefan yma, yna fyddwch yn gwybod ein bod ni’n galw am addysg materion digidol yn frwd, mae’n weddol hawdd os yn dysgu yn ifanc, a mae codio, mwy neu lai, ddim wir yn newid. Dyna’r gobaith i’r dyfodol ta waeth ond beth am nawr, beth am heddiw a’r plant a’r bobl yna sydd efo dim clem sut mae codio dim byd?
Wel, i’r rhai sydd dal i fyw yn nuwch y nos digidol mae help ar y ffordd, mae code.org wedi bod yn gweithio tuag at rhoi cyfle i bawb ddysgu efo hyd yn oed Obama yn rhoi go i’w mantra: ‘An hour of code for every student.’ Mae mwy neu lai yn esbonio yn union beth mae nhw’n trio neud, sef jysd rhoi awren i bawb yn codio. Syml.
Ond fi’n clywed chi’n dweud gret gret ie ie dafprys shut up, na gyd yw code yw nonsens ar y sgrin sneb ond am IT pobl yn deall. Digon teg (wel, falle), ond am tan nawr hynny yw, achos mae code.org wedi cyfuno efo Minecraft ac wedi gwneud y peth mwya slic fi erioed wedi gweld: codio efo Minecraft. Mambach dangoswch hwn i’ch plant wir dduw, ac i bawb.
Fel oedd hen athrawes ysgol sul fi’n dweud, dim ond twpsyn sy’n troi lawr cyfle i ddysgu rhywbeth newydd.
Dabo bois bach – dp