Clwb Llyfrau f8: Samhain

Tro diwetha yn y Clwb Llyfau, fe wnaethon ni droi at lyfrau ffantasi, a Seren Wen Ar Gefndir Gwyn. Ffantasi sydd ddim yn draddodiadol iawn, ac un dwi ddim yn hoff iawn ohoni.

‘Da ni’n newid cyfeiriad yn llwyr wythnos yma, wrth drafod y nofel Samhain (1994) gan Andras Millward. Dyma lyfr gan awdur sy’n amlwg yn gyfarwydd â gweithiau Tolkien, a’r awduron ddaeth ar ei ôl, a thraddodiadau Dungeons & Dragons, ac yn y blaen. Mae rhain yn bethau prin iawn, iawn mewn awduron Cymraeg. Gawn ni weld sut siâp sydd ar y nofel…

0862433193

Y peth cyntaf i’w nodi ydi’r blurb ar gefn y llyfr. Dyma fo yn ei gyfanrwydd – a dyma, cofiwch, sut wnaeth Y Lolfa ddewis disgrifio’r nofel.

“‘Trodd Samhain yn chwim ar ei sawdl a gostwng ei ben fymryn. Chwibanodd cleddyf Elai drwy’r awyr wag. Sythodd Samhain a’i ergyd yn saethu mewn hanner cylch am frest Elai gan rwygo trwy’r lledr trwchus…’ Am wybod beth sy’n digwydd nesaf? Darllenwch Samhain!

Os ydych yn gwybod beth yw orc fe fyddwch yn gwybod beth yw hanner-orc. Os nad ydych, darllenwch Samhain!

Ydych chi’n mwynhau chwarae gêmau [sic] cyfrifiadurol fel Mortal Combat [sic] a Street Fighter? Os ydych chi, fe gewch hwyl o ddarllen Samhain!”

Reit. I ddechra, does ‘na ddim to bach yn y gair ‘gemau’. A dim fel’na ‘da chi’n sillafu Mortal Kombat.

Yn ail… o, mam bach. Wel, dydi’r ail baragraff ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Dyna bwynt arall. Ac am y drydedd baragraff… sut i ddweud hyn… o ia.

Dydych chi ddim yn hysbysebu gêm beat-em-up. Nofel ffantasi ydi hon. Mae ‘na wahaniaeth reit sylfaenol.

Well i fi symud ymlaen cyn i fi fyrstio gwythïen. ‘Da chi’n cael y pwynt.

At y nofel ei hun, felly. Mae’n dilyn anturiaethau Elai – bachgen digon di-nod o bentre gwledig – sy’n darganfod ei fod yn dod o linach hir o farchogion pwerus, yn dod o hyd i gleddyf hud, ac yn cychwyn ar daith hir ar draws y wlad efo criw o anturiaethwyr, yn dod ar draws coblynnod, sombis, dreigiau, dewinod, cewri wedi eu gwneud o dywod, a mwy.

Fel y gallwch chi ddweud yn barod, mae’n debyg, mae hon yn nofel sy’n dilyn lot o’r confesiynau sydd wedi eu defnyddio droeon mewn gweithiau ffantasi. Fe ddylai ffan o’r math yma o beth allu pwyntio at fwy neu lai bob un elfen o’r stori, ac enwi rhywbeth gweddol debyg mewn llyfr, ffilm, neu gêm arall. Mae ‘na gymeriad sydd fwy neu lai yn gopi o Aragorn o Lord Of The Rings, ac mae’r llinach o farchogion enwog yn debyg iawn i’r Jedi o Star Wars, ac yn y blaen.

Dydi hyn i gyd ddim yn swnio’n rhy addawol… ond y gwir ydi, mae ‘na lot o bethau sy’n achub Samhain.

Yn un peth, mae’n nofel (fel mae’r blurb ar y cefn yn trio esbonio) sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc. Er mai’r trend erbyn hyn ydi i bob nofelydd ffantasi drio efelychu A Song Of Ice And Fire George R.R. Martin, dwi’n meddwl bod nofelau i’r ifanc yn medru bod yn llawer mwy syml a phwlpaidd. Wedi’r cwbwl, petasai rhywun yn darllen Samhain cyn unrhyw lyfr ffantasi arall, fe fydden nhw’n ei chysidro’n hynod o wreiddiol. Fy nghyflwyniad personol i lyfrau ffantasi oedd y gyfres Fighting Fantasy, ac mae nhw hefyd yn dwyn syniadau o bob man, ond es i mlaen i lyncu holl stwff Tolkien beth bynnag.

A hefyd, wrth gwrs, mae’r nofel wedi ei sgwennu yn Gymraeg. Ac er bod ‘na lwyth o bethau fel’ma yn Saesneg, dwi erioed wedi dod ar draws unrhywbeth tebyg i hyn yn iaith y nefoedd. Fel rhywun sydd wrthi’n sgwennu nofel ffantasi yn y Gymraeg ar y funud, fedra i dystio pa mor anodd ydi sgwennu rhywbeth fel hyn, a pheidio gwneud i bopeth deimlo braidd yn gawslyd – ond ar y cyfan, mae Andras Millward yn llwyddo. Er dwi’n meddwl bod y stori’n gwanhau wrth iddi fynd ymlaen, ac yn llawn tyllau yn y plot a throadau braidd yn ddibwys, mae’r darnau cynnar – efo Elai yn gadael ei bentre ac yn gwynebu’r byd mawr gwyllt sydd o’i flaen – yn rhoi’r un wefr â phenodau cynnar The Hobbit neu Lord Of The Rings. Peth anodd iawn ei wneud.

Pan yn trafod y nofel yn ddiweddar efo ffrind, fe wnaeth o ddatgelu ei fod – fel ffan o ffantasi a ffuglen wyddonol yn gyffredinol – wedi dod o hyd i’r llyfr yn yr ysgol flynyddoedd yn ôl, a’i fod wrth ei fodd â’r peth. Dwi’n meddwl y dylai clodfori unrhyw lyfr all greu’r ymateb yna mewn plentyn.

Y gwir plaen ydi bod Samhain yn cynnwys rhai elfennau da, ond bod ‘na lot yn bod efo’r nofel. Ar ben yr elfennau wedi eu ‘benthyg’ o straeon eraill, mae’n teimlo ar adegau fel bod Andras Millward wedi trio stwffio gormod i mewn, gan wneud i rai darnau deimlo braidd yn rhuthredig. A fel ddywedais i, mae’r diweddglo dipyn yn wan. Mae’n gosod y seiliau ar gyfer ail gyfrol, wnaeth byth ymddangos (i mi wybod).

Ond mae’n biti wnaeth yr ail gyfrol yna ddim dod, achos mae’r llenyddiaeth Gymraeg – a llenyddiaeth Gymraeg i blant, yn enwedig – angen mwy o stwff fel’ma. Mae pobol ifanc dros y byd yn hoff o ffantasi. ‘Da ni yng Nghymru ddim mor wahanol â hynny, siawns. Ac mae’n hawdd anwybyddu unrhyw wendidau pan ‘da chi’n ifanc ac yn frwdfrydig am bob dim.

Os ydych chi’n gwybod am unrhywbeth tebyg yn y Gymraeg, rhowch wybod yn y sylwadau. Ond tan i fi glywed am unrhywbeth, mae’n rhaid canmol Andras Millward am ei wreiddioldeb… er mai Samhain ydi un o’r nofelau mwya adleisiol dwi erioed wedi ei ddarllen.

Gwnewch be fynnwch chi o hynny.

– Elidir

Advertisements

7 Comments Add yours

  1. Sioned says:

    Mae gennai hon yn y bocsys diddiwedd o stwff wedi cadw yn tŷ Mam a Dad! Eithaf siŵr dwi heb ei darllen ers 1996 cofia, falle roi tro arall arni rwan, methu cofio lot o’r plot (dim sboilyrs felly)

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s