Diwrnod Yng Nghymru Fydd

Os ‘da chi ddim wedi bod yn byw o dan garreg…

… ac oes ‘na unrhywun erioed wedi gwneud hynny, gyda llaw? Mae o i’w weld yn beth eithriadol o wirion i wneud, i fi…

… fyddwch chi’m ymwybodol o ŵyl Diwrnod Yng Nghymru Fydd, sydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth, dydd Sadwrn yma.

Be? Poster? O, go on ta.

CTm5fjpXAAE-csQ

Mae DyNgF (fel mae’r kids yn ei alw) yn smorgasbord o gelf, cerddoriaeth, sgwrsio, sinema, a hwyl o bob math… efo ryw dinc dyfodolaidd / nyrdaidd i’r holl beth. Mae manylion a thocynnau i’w cael fan hyn

Ac wrth gwrs, mae deuawd hoffus Fideo Wyth yn ran o’r peth. Ond ar wahân. Fedrwch chi goelio’r fath ffwlbri?

Felly. Fe fydd Daf yn cynnal sgwrs Skype unigryw iawn efo Elizabeth LaPensée, sy’n gwneud lot o waith mewn gemau i hybu traddodiadau brodorol. Sydd wrth gwrs o ddiddordeb i ni yng Nghymru. Gewch chi ddim trafodaeth fel’ma ar Radio Cymru. Na chewch wir, syr / madam.

Ac yna fe fydd ein Elidir bach ni yn trafod ffuglen wyddonol / arswyd / ffantasi (neu wyddonias, os hoffech chi) yn y Gymraeg. Yng nghwmni Miriam Elin Jones, Ifan Morgan Jones, a Gareth Llŷr… Evans.

Ac oes, mae gan Elidir lyfr newydd allan. Ond wneith o ei orau glas i beidio troi’r peth yn hysbyseb mawr. Er y bydd y llyfr ar werth yno, am bris rhad.

Welwn ni chi yno! Bleep blorp. Set phasers to stun. Mesa called Jar-Jar Binks. Ac yn y blaen, ac yn y blaen.

– f8

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s