gan Elidir Jones
Mae Cymru allan o’r Ewros, mae’r Deyrnas Unedig yn rhwygo ei hun yn ddarnau yn frawychus o gyflym, a dwi’m yn meddwl bod ‘na unrhyw gemau gwerth eu halen yn cael eu rhyddhau tan No Man’s Sky fis nesa. Croeso i Haf 2016. Ond hei. Mae ‘na ddigon o ddarllen i wneud, does?
Fe ges i fy mhwyntio yn ddiweddar tuag at nofel Arwel Vittle, Y Ddinas Ar Ymyl Y Byd, gyda’r awgrym ei fod o’n beth prin iawn, sef nofel ffantasi o’r iawn ryw yn y Gymraeg. Dwi wedi bod yn reit barticiwlar o ran diffinio nofelau fel ffantasi go-iawn ar f8. Mae Seren Wen Ar Gefndir Gwyn yn sicr yn nofel ffantasi, ond un sy’n anwybyddu lot o gonfensiynau a thraddodiadau’r genre. Mae Gardag yn ticio lot o’r bocsys cywir, ond mae o hefyd yn nofel i blant am lwynogod sy’n siarad yn hytrach na nofel ffantasi draddodiadol. Yr unig un i mi drafod hyd yn hyn sy’n nofel ffantasi heb ymddiheuriad, ac sy’n dangos dealltwriaeth iawn o’r genre, ydi Samhain gan Andras Millward.
Wel, gewch chi ychwanegu Y Ddinas Ar Ymyl Y Byd i’r rhestr (fer) yna.
Mae ‘Argyfwng’ a ‘Haint’ rhyfeddol wedi lladd rhan helaeth o boblogaeth y byd, heb sôn am ran helaeth o fyd natur, ac mae’r ychydig o bobol sy’n dal yn fyw wedi eu corlannu mewn dinas hunllefus, Orwellaidd, wedi ei reoli gan ffigwr o’r enw ‘Y Ceidwad’. Yn gweithio yn ei erbyn mae dilynwyr ffigwr dirgel arall o’r enw ‘Y Proffwyd’. I ganol y pair yma mae Lluan yn cael ei thynnu – merch yn ei arddegau hwyr â chysylltiadau dyfnach na’r disgwyl i’r frwydr ffyrnig o’i hamgylch.
Dyfodol ein byd ni sy’n cael ei ddarlunio yma, ond ar wahân am ychydig o gyfeiriadau bach at hen dechnoleg, waeth i’r nofel fod wedi ei leoli mewn byd cwbwl wahanol ddim. Er bod Y Ddinas Ar Ymyl Y Byd yn cynnwys ychydig o elfennau ffug-wydd / rhai sydd ddim wastad i’w gweld mewn gweithiau ffantasi – cerbydau modur, gynnau, ac ati – nofel ffantasi ydi hon, yng ngwir ystyr y gair.
Yn ddiweddar ges i’r fraint o sgwennu cofnod yn ddiffinio ffantasi ar gyfer wici newydd yr Esboniadur (dydi o ddim wedi ei gyhoeddi eto, felly peidiwch a boddran chwilio). Drwy wneud, ges i ddealltwriaeth llawer gwell o’r genre, ac mae nofel Arwel Vittle yn ffitio’n berffaith i mewn iddi.
Yn y rhan fwya o nofelau ffantasi, mae ganddoch chi:
– Fyd sydd wedi dirywio, neu wedi ‘teneuo’ yn ôl yr eirfa feirniadol gywir, efo’r cymeriadau yn trio ffeindio ffordd o’i ddychwelyd i’w hen ogoniant. Check.
– Criw brith o gymeriadau yn crwydro’r byd, yn cael eu gyrru ar gyrch i wneud pethau’n iawn. Yn gynnar yn y nofel yma mae Lluan a’i chyfeillion yn cael eu gyrru ar siwrne i ddarganfod y ‘Proffwyd’ sydd i fod i achub y Ddinas. Felly… check.
– Diweddglo sydyn, dyrchafol, os nad fymryn yn chwerw-felys – be roedd Tolkien yn ei alw yn ‘ewcatastroffi‘. Check.
Mae ‘na hyd yn oed olygfa lle mae rhai o’r prif gymeriadau yn ymladd llygoden fawr (fawr, fawr) mewn carthfosydd o dan y ddaear. Oes ‘na unrhywbeth yn fwy Dungeons & Dragons na hynny? Ac mae un prif gymeriad yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sydd, mae’n siŵr gen i, yn homage bwriadol i gyflwyniad Aragorn / Strider yn Lord Of The Rings:
“Er gwaethaf y rhialtwch meddw, synhwyrais fod rhywun yn fy ngwylio… Dyn rhyfedd yr olwg ydoedd, yn eistedd yn y cysgodion ger y wal, yn gwrando’n astud ac yn edrych yn graff ar bawb o’i gwmpas. Roedd ganddo gostrel o gwrw o’i flaen, ond doedd dim golwg arno ei fod yn yfed, chwaith… Amhosib oedd dweud beth oedd ei oed. Gallai fod yn ddyn ifanc, canol oed neu hen o dan y trwch o ddillad trawiadol. Ond doedd dim modd osgoi’r llygaid craff hynny a ddilynai symudiadau pawb ar draws yr ystafell. Llygaid cudyll.”
Mae o hyd yn oed yn perthyn i griw o ddynion – Y Garddwyr – sy’n teithio’r byd, yn byw ac yn bod yng nghanol y tir gwyllt, yn union fel ‘Rangers’ Tolkien. Imitation is the sincerest form of flattery, myn diani.
Ond ddyliwn i ddim bod yn rhy feirniadol, achos bod gweithiau ffantasi yn dueddol o fwyta cynffon ei gilydd beth bynnag. Ac mae ‘na rai elfennau o’r nofel ffantasi dwi’n gweithio arni ar y funud sy’n debyg i Y Ddinas Ar Ymyl Y Byd, felly fysa’n well i fi gau fy ngheg.
Un feirniadaeth wirioneddol sydd gen i, i ddweud y gwir: ei bod hi ddim yn hollol glir at bwy mae’r nofel wedi ei hanelu. Mae’n ran o ‘Gyfres y Dderwen’, sef cyfres gan y Lolfa wedi ei hanelu’n bendant at bobol ifanc. Eto, mae ‘na eitha dipyn o drais gwaedlyd yma, ac un cymeriad sy’n hoff iawn o regi fel trwpar bob cyfle geith o. Ond mae ffuglen i oedolion ifanc yn symud i’r cyfeiriad yma bellach, fel mae’r gyfres The Hunger Games wedi ei brofi. Ac unwaith eto, dwi’n gwynebu problemau tebyg yn fy ngwaith fy hun ar y funud, felly shhhh.
Mae’n rhaid dweud, wrth garlamu tuag at ddiwedd Y Ddinas Ar Ymyl Y Byd, fy mod i’n mwynhau’r nofel eitha dipyn, ac yn gweld y dudalen olaf yn dod braidd yn gynnar. Do’n i ddim yn gweld bod posib i Arwel Vittle roi diweddglo bach twt i bob un llinyn stori heb frysio pethau. Dyma oedd fy mhroblem fwya i efo Samhain gan Andras Millward – ei fod o’n trio pacio lot gormod i mewn i’r tudalennau ola.
Ac mae’n falch gen i ddweud bod pethau ddim wedi eu brysio yma, oherwydd bod y diwedd yn benagored. Iawn. Mae ‘na ddigon i’w wneud eto os ydi Lluan am achub y Ddinas yn y pen draw, ac mae ‘na le amlwg ar gyfer dilyniant fan hyn. Dwi’n mawr obeithio y bydd Arwel Vittle yn llunio un. ‘Da ni wedi gweld bod ‘na ambell enghraifft o ffantasi yn Gymraeg, ond dydi’r gyfres ffantasi – bara menyn y genre, os ‘da chi’n gofyn i fi – ddim yn bodoli yn yr iaith. Eto.
Dwi’n trio fy ngorau i newid hynny, ond fydda i ddim yn meindio os ydi rhywun arall yn fy nghuro i. Onest.
Felly dyna ni. Nofel arall i’w ychwanegu at y corpws o ffuglen wyddonol a ffantasi yn Gymraeg, ac un dwi’n llawn ei hargymell. Nesa plis.
[…] o rifyn i rifyn. Fel ‘da chi’n gwybod os ‘da chi wedi bod yn dilyn ein colofn “Clwb Llyfrau f8”, dwi wedi bod yn chwilio’n hir iawn am ddeunydd ffantasi Cymraeg sy’n teimlo’n […]