Mellten yn Taro (am y bedwaredd waith…)

gan Elidir Jones

Mae comic Mellten wedi bod allan am bron i flwyddyn erbyn hyn, a rhifyn #4 newydd ei ryddhau. Trwy hyn i gyd, ‘da ni yn f8 wedi byw yn ein bybl bach ac anwybyddu’r ffenomenon yn llwyr. Rhag. Ein. Cywilydd.

Ond efo bwndel trwchus o’r comics wedi cyrraedd f8 HQ yn ddiweddar, diolch i olygydd Mellten, Huw Aaron, allwn ni ddim bod mor esgeulus bellach. Ac wedi treulio bore hapus yn darllen y pedwar rhifyn, mae’n rhaid i fi ddweud ‘mod i ddim yn gwybod be gymerodd mor hir i ni ddod rownd at hyn.

gwil

Felly, y pethau sylfaenol: Mellten ydi’r comic Cymraeg cyntaf mewn 20 mlynedd. Fydd y rhai ohonom ni yn ei 30au…

Och. Och. Gwae.

… yn cofio comics fel Penbwl Cip nôl yn y dydd. Mae’n hen bryd i gomic arall o’r un math ddod heibio. Wel, nid yn unig ydi Mellten yn cymryd y baton, ond yn gadael y gweddill yn y llwch ac yn rhedeg yr holl ffordd i Brestatyn.

‘Di hwnna ddim yn ddywediad. Wna i symud ymlaen.

Yn fras, allwn ni wahanu cynnwys y comic yn ddau fath o stribed: stwff ysgafn, digri, fyddai ddim allan o le yn y Beano neu’r Dandy (dyna fi’n dangos fy oed eto), a stribedi dipyn mwy sylweddol, ffantasïol, sy’n dweud un stori hir o rifyn i rifyn.

Ymhlith y stwff ysgafnach mae:

Gari Pêl – stribed am bêl-droed, efo cymeriad canolog sy’n debyg (ond, am resymau cyfreithiol, ddim yr un peth â) Gareth Bale.

Beth Sydd Yn Y Barf? – stribed byr, hurt bost, am guddio pethau mewn gwahanol farfau. Fysa’r Elidir ifanc wedi bod wrth ei fodd efo hwn. Ac mae’r Elidir 32 oed yn teimlo’n union yr un peth.

barf

Ble Mae Boc? – fel Where’s Wally?, ond efo draig. Alla i byth ffeindio’r ddraig. Dos i grafu, Boc.

Ac wedyn dyna’r stwff hirach. Fel:

Gwil Garw – stori ffantasïol, wedi ei seilio ‘mewn cyfnod cyn hanes, cyn straeon a chyn y chwedlau’, am fachgen ifanc sy’n teithio’r wlad mewn ymgais i lenwi sŵ efo anghenfilod. Fel Pokemon, ond efo llwyth o ddylanwad chwedlau Cymraeg a Cheltaidd. Bril.

Rali’r Gofod: 4002 – fel ffan o’r gyfres F-Zero, mae rasio dyfodolaidd yn pwyso fy holl fotymau. Gwnewch yr holl beth yn Gymraeg, a sticiwch gath fawr mewn siwt gofodwr i mewn yn rhywle, ac mae gennych chi fy holl sylw.

Straeon o’r Cysgodion – mae hwn yn wych, a’r math o beth dwi isio lot mwy ohono fo. Yn cychwyn yn rhifyn tri, mae Straeon o’r Cysgodion yn ail-ddweud hen chwedlau a straeon gwerin, a’u cyflwyno i genhedlaeth newydd. Tywyll, sbwci, ac yn berffaith i blant ac oedolion ill dau.

Mae ‘na lot mwy na hynny, wrth gwrs, ar ben llwyth o gystadleuthau, jôcs ac ati. A rhwng hyn i gyd, mae Mellten yn gwneud y peth prin yna o apelio at gynulleidfa eang, tra’n llwyddo i fod yn wirioneddol dda ar yr un pryd.

Felly mae’r stwff byrrach, ysgafnach, yn dueddol o apelio at blant ieuengach, a rhoi cyflwyniad cyffredinol i gomics iddyn nhw. Does dim digon o’r math yma o beth bellach, dwi’m yn meddwl. Ond mae’n rhaid i ni gyd gychwyn yn rhywle cyn symud ymlaen at stwff aeddfetach. Gobeithio bydd y rhannau yma o Mellten yn magu cariad oesol tuag at gomics ymhlith ieuenctid Cymru, ac y byddwn ni ddim yn gorfod disgwyl ugain mlynedd arall am gomic tebyg.

Ond y peth sy’n cyffroi fi mwy na hynny, hyd yn oed, ydi’r straeon hirach sy’n parhau o rifyn i rifyn. Fel ‘da chi’n gwybod os ‘da chi wedi bod yn dilyn ein colofn “Clwb Llyfrau f8”, dwi wedi bod yn chwilio’n hir iawn am ddeunydd ffantasi Cymraeg sy’n teimlo’n ddilys, fel ei fod wedi ei wneud gan rhywun sy’n deall y genre. Efo amser, dwi’n meddwl y gall stwff fel Gwil Garw ddatblygu i lenwi’r bwlch yna, dim ots pa mor ifanc ydi’r gynulleidfa darged.

Felly dyma’r ryb: os oes gennych chi blentyn, a dydyn nhw ddim yn darllen Mellten, mae ‘na rywbeth mawr iawn o’i le. Ond mae’r comic hefyd yn haeddu bod yn lwyddiant yn fwy cyffredinol hefyd. Mae’n werth cefnogi deunydd fel hyn er mwyn dangos i’r to llenyddol bod mwy i lenyddiaeth Gymraeg…

… ac ydyn, mae comics yn lenyddiaeth…

… na jyst cynganeddu sych, di-baid.

Dwi’n edrych ymlaen at weld lot mwy o rifynnau o Mellten yn y dyfodol. A pwy a ŵyr? Os ydi comic safonol i blant yn bosib, a fydd ‘na – ryw ddydd – nofel graffeg gwreiddiol i oedolion yn y Gymraeg? Allwn ni ond breuddwydio.

5 comments

  1. Diolch o galon am y geiriau caredig. Mae’n hyfryd i gael darlleniad ac adolygiad gan rhywun sy’n hoffi/deall/gwerthfawrogi comics! O’dd yr adolygydd yn Barn o’r old-school, yn anffodus.

    Jysd cwpl o bethe i nodi – mae yna sôn am ‘GAri Gwyllt’ tua diwedd y darn – ife Gwil Garw ti’n sôn am? A hefyd, se’n grêt os allet ti sticio linc i mellten.com fyna rhywle hefyd!

    Diolch eto,

    Huw

  2. Dwi wedi bod yn mwynhau Mellten ers y rhifyn cyntaf – a ie hoffwn i weld rhwybeth debyg i unrhuwyn un o’r strips hirach very novel graffeg eu hun!

Leave a comment