Chwedlau Cymru: Cardiau Brwydro

gan Elidir Jones

Fyddwch chi’n ymwybodol, dwi’n siŵr, mai 2017 yw ‘Blwyddyn Chwedlau’ yng Nghymru – neu’n hytrach, dyma’r ymgais ddiweddaraf gan y llywodraeth i ddenu pobol yma, tro ‘ma drwy bwysleisio bod ein chwedlau ni’n bril (ac yn boncyrs).

Mae’n ddrwm ‘da ni yn f8 wedi bod yn ei daro am sbel. Dyma Daf yn trafod y feri thing ar wefan Americymru, er enghraifft. Dwi, yn y cyfamser, wedi bod yn llunio nofel ffantasi, mewn ymdrech i sgwennu ‘chwedl’ newydd sbon. Ond fydd hi ddim yn barod flwyddyn yma. Da iawn fi.

Ond mae ‘na rai yng Nghymru sy’n medru amseru pethau’n well, diolch byth. Yn ffresh ar ôl i ni drafod ei gomic, Mellten, mae’r arlunydd Huw Aaron wedi gyrru pecyn arall i f8 HQ yn cynnwys rhywbeth cyffrous iawn – gêm gardiau! Yn Gymraeg (a Saesneg)! O’r enw Chwedlau ac Arwyr Cymru! Waw!

MONSTERS-IMAGE-10

Fydd unrhyw un oedd yn blentyn ar unrhyw bwynt yn y 50 mlynedd diwetha yn deall y gêm yn syth. Ar ei ffurf symlaf, gêm Top Trumps sydd yma, yn cynnwys 30 o fwystfilod wedi neidio’n syth allan o chwedlau Cymru. Fyddwch chi’n eu gyrru nhw’n erbyn ei gilydd, ac yn gwneud iddyn nhw frwydro ar sail Cryfder, Medr, Swyn, Ofn, ac yn y blaen. Mae’n fformiwla syml, ond un sy’n berffaith ar gyfer cynulleidfa ifanc.

Ond disgwyliwch! Mae ‘na fwy! Yn y pecyn o gardiau – ac ar chwedlaucymru.com, lle allech chi gael gafael ar gopi – mae ‘na set arall, mwy cymhleth o reolau wedi eu cynnwys. Tra’n dal i fod yn addas ar gyfer rhai ifanc, mae’r rheolau yma hefyd yn siwtio rownd o chwarae hegar rhwng nyrds dipyn hŷn, a ddim yn annhebyg i gemau drafftio fel 7 Wonders.

Rhwng hynny i gyd, mae’r wefan yn cynnwys amrywiadau ar gyfer tri a phedwar chwaraewr, ac yn gaddo rheolau newydd i ddod ar gyfer ‘Rhyfela, Antur, Twrnamaint a mwy!’ Ia plis. Siarad fel’na sy’n fy nghyffroi i, bois.

Os dydi hynny ddim yn ddigon, dwi wedi gwneud mymryn o waith ymchwil fy hun. Hoffech chi fwy byth o ffyrdd o chwarae’r gêm? ‘Ma chi. Croeso.

Ac ar ben popeth, dim ond y set cyntaf o gardiau ydi hwn. Os allwn ni roi unrhyw goel yn y wefan – a dwi’n meddwl y medrwn ni – mae ‘na fwy fyth o setiau ar y ffordd. Fel rhywun sy’n mynd chydig bach yn obsesd efo gemau cardiau casgladwy, alla i ddim disgwyl i sticio Bendigeidfran mewn brwydr yn erbyn Tegi – y bwystfil hollol wir sy’n byw o dan Lyn Tegid – a gweld pwy fydd yn ennill.

Mae’r gwaith celf hefyd, fel y gallech chi ddisgwyl, yn wirioneddol grêt hefyd. Mae’n siŵr o apelio at blant, ond hefyd yn cynnwys digon o fanylion bach cywrain i dynnu cynulleidfa hŷn i mewn.

Afagddu ydi’r gora.

DSC_0201

Yn ola – ac yn bwysicach na dim, ella – mae’n rhaid canmol Huw Aaron am wneud defnydd mor dda o chwedlau Cymru. Mae’n cynnwys bwystfilod o chwedlau Arthuraidd (Cath Palug), o goel gwerin (Gwrach y Rhibyn), o’r Mabinogion (y Twrch Trwyth)… yr union bethau y dylen ni fod yn eu dathlu a’u mawrygu.

Mae rhain yn gymeriadau sy’n haeddu mwy na chael eu gadael yn y gorffennol. Mae nhw’n haeddu cael straeon cwbwl newydd wedi eu crefftio amdanyn nhw. Ac mae pob math o straeon bach personol yn dod allan o chwarae gemau, wrth gwrs. Dyna un o’r rhesymau pam eu bod nhw mor bwysig yn gyffredinol. ‘Da ni yn f8 mor, mor hapus bod y math yma o beth bellach ar gael yn y Gymraeg.

Darllenwch fwy am y gêm ar y wefan swyddogol, yna ewch am dro draw i atebol.com er mwyn cael gafael ar gopi eich hun. Ac ar ôl chwarae, ymunwch â ni yn yr alwad am fwy.

 

7 comments

  1. Dw i wedi bod yn chwarae hwn efo’r plant dros y dyddiau diwethaf. Mae’n wych. Dwi’n ei garu gymaint a’r plant. Ond dw i bach yn obsesd efo chwedloniaeth Cymru. Dim ond dau feirniadaeth hynod fach – a) mae’n blincyn anodd curo yn Tom Trumps os oes gan dy elyn y Ddraig Goch!!! O dynnu hwnna allan o’r pac roedd y gem dipyn yn fwy hafal. b) Nid coeden yw’r Angelystor ond creadur bach sbwci sy’n ymddangos o dan y goeden yn Llangernyw. Ond problemau bychain iawn yw’r rhain! Edrych ymlaen am y set nesaf! – Ifan MJ

  2. Diolch Elidir – hapus bod y gêm (a’r cynlluniau pellach) yn plesio! Y set nesa’ wedi ei benderfynu – jysd angen gweld shwd derbyniad geith yr un yma cyntaf.

    Ac mae’n grêt i glywed bod Ifan yn caru’r gêm cymaint a mae’n caru ei blant ei hun, os dwi’n darllen hwna’n gywir 😉

    re Angelystor – o’n i ar ddeall taw rhyw lais di-gorff o dan/o gwmpas y goeden oedd e? Cam o ddychymyg oedd i sticio fe *yn* y goeden, fi’n cyfadde!

  3. Wel, datblygu mae chwedlau ynte! Y peth gret yw bod llwyth o blant yn mynd i ddod ar draws y chwedlau yma, a gobeithio y bydd yn tanio eu dychymyg nhw ac yn hybu eu diddordeb nhw mewn hen chwedlau hefyd.

  4. Mae’n bosib i chwarae’n dwyieithog hefyd – dw i wedi bod yn chwarae gyda fy nai bach sy’n dysgu Cymraeg yn y ysgol ac mae e’n dysgu nifer o eirau dwy’r gem! Dw i dwli ar y lluniau a wedi dysgu tipyn mwy am nifer o chwedlau – wneud i fi gwglo lot!

Leave a comment