gan Daf Prys @dafprys
Hen bryd, hen hen hen bryd myn diain, myn diawch a pob myn arall. Mae’r gem nesaf yn y gyfres Valkyria, Valkyria Revolution, wrthi yn cael ei datblygu a bydd yn gweld golau dydd ym mis Mehefin 27 mae’n debyg (yn Siapan a Gogledd America o leia ar hyn o bryd – gwd thing fi’n byw yn Seattle bellach). Mae unrhywun sy’n unrhywun, a Dr Elidir Jones, yn gwybod fod Valkyria yn gyfres hollol wych (os chi’n gallu anwybyddu y bwbs ridiculous, come on Siapan!) gan gyfuno elfennau strategaeth tro-wrth-dro, fps a chymeriadau hollol unigryw a egniol. Mi fydd hon dipyn bach yn wahanol i’r tri cyntaf gan fod fwy o bwyslais ar agweddau ffwrdd a hi (mwy o action hynny yw).
Mae’r gem gyntaf yn y gyfres ar y PS3, Valkyria Chronicles, ymysg fy ffefrynnau erioed, gyda gweithred gem yn cael ei gynorthwyo gan stori pwyllog a defn mewn byd sydd yn wahanol, ond dim rhy wahanol, i hynny o gyfnod yr ail rhyfel byd. Yn cael ei gyflwyno mewn steil penigamp (sy’n digwydd bod yn un o beiriannau meddalwedd Sega, y cyhoeddwyr) hanner ffordd rhwng dyfrlliw a chomig, mae’n dweud hanes gwlad bychan yn amddiffyn ei hun yn erbyn ymosodiad bois y cotiau mawr. Mae elfennau arall-fydol yma efo agweddau hud-a-lledrith lliwgar a phwrpasol.
Ac i neud pethau yn well mae Valkyria Chronicles ei hun wedi ei ail-wampio ac yn cynnig gwawr newydd i’r holl bobl sydd wedi prynu PS4 heb fwynhau’r PS3 gynt, ac i rheiny sydd eisiau profi’r gyfres cyn i Revolution landio yng Nghymru fach (pryd fydd hynny yn union SEGA?).

Mae Valkyria Chronicles wedi cal cryn effaith ar sut ydw i’n gweld naratif yn datblygu o fewn gweithred gem a dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld sut bydd y fersiwn weddol wahanol yma yn adeiladu ar y fformiwla.
Rhaid i fi ddweud eto ddo, ma’r bwbs yn RIDICULOUS … I mean … godratia Siapan!