gan Elidir Jones
Er bod lawnsiad y Switch wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus i Nintendo, mae’n deg dweud bod ‘na lot o snobyddiaeth yn dal i fod ynghylch y consol – y rhan fwyaf ynghylch y ffaith bod ‘na “ddim lot o gemau” ar y system, a bod y Switch yn ddim byd mwy na “peiriant Zelda“.
Digon gwir, mae’r math yna o siarad wedi tawelu fymryn ers rhyddhau Mario Kart 8, ond ‘na ni.
Tra bod ‘na brinder o gemau mawr AAA yn dal i fod, mae honni bod dim digon o gemau ar y Switch braidd yn hurt erbyn hyn, fel mae un olwg ar y siop ar-lein yn ei brofi. I ddeud y gwir, dwi’n meddwl bod ‘na leinyp llawer gwell ar y system ar ôl cwpwl o fisoedd nag oedd ‘na, er enghraifft, ar y PS4 a’r Xbox One yn ystod yr un cyfnod. Yn dawel bach, mae’r Switch yn dod yn gartref i bob math o brofiadau indie – rhai’n weddol gyfarwydd, ac eraill yn gwbwl newydd.
Ymunwch efo fi, wnewch chi, i gymryd cipolwg ar rai o’r goreuon?
Mr Shifty
Bob tro dwi ‘di gweld rhywun yn sôn am Mr Shifty, mae nhw’n defnyddio’r yr un gymhariaeth. Ond mae’n un sy’n gweithio. Felly if you can’t beat ’em…
Dychmygwch yr olygfa agoriadol ‘na o X-Men 2. Yr un lle mae Nightcrawler yn ymosod ar y Tŷ Gwyn. Neu, yn well byth, gwyliwch hi eto:
Rŵan dychmygwch gêm gyfan sy’n teimlo’n union fel hynny. A dyna chi Mr Shifty.
Does ‘na ddim byd arbennig o ddwfn yma. O ran plot, mae’n teimlo dipyn bach fel diweddariad o hen gemau ymladd y gorffennol fel Kung Fu neu Smash TV, efo dôs ychwanegol o hiwmor hunan-ymwybodol. Ond mae’n hwyl gwyllt. Dydi’r brwydro byth yn stopio dros gyfnod o bump neu chwe awr sy’n debyg o’ch gadael chi’n chwys domen erbyn y diwedd.
Yr unig drafferth ydi bod ‘na ambell broblem technegol yma. Ges i grashys ambell waith, yn enwedig yn agos at y diwedd pan mae pethau’n mynd yn wirion o brysur ar-sgrîn. Ond mae ‘na batsh ar y ffordd, medden nhw. Ac yn y cyfamser, os allwch chi anwybyddu problemau felly, fe gewch chi un o’r profiadau mwya pwerus ar y consol.
Blaster Master Zero
Wnes i erioed chwarae’r Blaster Master gwreiddiol ar yr NES. Felly wnes i ddim chwarae’r reboot / dilyniant yma efo unrhyw synnwyr o nostalgia neu hiraeth. Ond roedd o’n flippin’ dda beth bynnag. Yn flippin’ dda, cofiwch.
I’r rhai (fel fi) sy’n newydd i’r gyfres, mae Blaster Master yn dilyn ymdrechion bachgen i achub ei lyffant, sydd wedi rhedeg i ffwrdd i ddimensiwn arall. Yn y broses, mae’n ffeindio ryw fath o siwt robotaidd a thanc, ac yn brwydro llwyth o elynion sydd ar ôl ei waed. Oherwydd Japan.
Pan yn y tanc, fe fyddwch chi’n gwneud eich ffordd o gwmpas lefelau 2D sy’n dod ag atgofion cynnes o Metroid yn ôl, ond fe allwch chi hefyd neidio allan o’r tanc a mentro mewn i ogofâu, lle mae’r gêm yn troi mewn i fersiwn ffug-wyddonol o Zelda. Mae’r holl brofiad bron mor wych ag y mae’n swnio.
Mae Blaster Master Zero yn ran o draddodiad newydd o gemau retro sy’n cymryd graffeg a theimlad hen gemau 8-bit, ond yn defnyddio holl wersi’r 30 mlynedd diwethaf i wella ar y fformiwla. A sôn am hynny…
Shovel Knight: Treasure Trove
Ella’ch bod chi’n cofio ein hadolygiad o Shovel Knight, nôl yn… o, mam bach. 2014. Amser, rwyt yn fistres lem.
Dair mlynedd yn ddiweddarach, mae casgliad o’r gêm a’i holl estyniadau – Plague of Shadows a Specter of Torment – wedi taro’r Switch. A hynny cyn unrhyw system arall. Wel drychwch posh.
Dydi’r gêm ddim wedi heneiddio, chwaith. Eitha anodd heneiddio, deud y gwir, pan mae’ch holl ddylanwadau chi wedi eu rhwygo’n syth o’r 80au. Mae’n un o’r gemau platfform puraf dwi’n ei gofio o’r blynyddoedd diwetha, ac os ‘da chi erioed wedi profi Shovel Knight, rŵan ydi’r amser.
Voez
Mae Voez yn gêm rhythm sydd wedi mwynhau dipyn o lwyddiant ar ffonau a thabledi, ond wedi diodde achos ei fod wedi dilyn fformiwla sinigaidd free-to-play, lle ‘da chi’n gorfod talu pres gwirion am draciau newydd.
Ond bellach, mae’r holl becyn, efo nifer di-rif o ganeuon, ar gael am y Switch am £19. Ac mae’n edrych yn biwt… hyd yn oed os allwch chi ddim diodde J-Pop.
Un peth nodedig am Voez ydi ei bod hi’n amhosib chwarae’r gêm efo’r Switch wedi ei gysylltu i’r teledu, oherwydd bod angen cyffwrdd y sgrîn er mwyn chwarae. A dim jyst cyffwrdd… symud eich bysedd a’ch bodiau ar draws y sgrîn fel octopws ar gyffuriau.
Mae ‘na don newydd o gemau rhythm diddorol sydd wedi ymddangos yn ddiweddar (gweler hefyd: Thumper). Ydi Voez yn ddigon da i wneud ei ffordd tua top y rhestr? Dim ond un ffordd sydd o ffeindio allan. Cynheswch y bysedd ‘na…
Kamiko
Mae Kamiko yn gêm sydd wedi llithro o dan y radar, braidd. Do’n i yn sicr ddim yn ymwybodol ohoni tan yn ddiweddar. Ond mae’n cael adolygiadau da iawn gan bawb, i fi allu gweld. Dyna ddangos be dwi’n wbod.
Mae’n edrych fel croes rhwng Zelda (dyna’r gair yna eto…) a gemau annibynnol diweddar fel Titan Souls. Ac yn well na dim, mae’n brofiad sydd ddim yn para mwy na chydig o oriau. I fod yn berffaith onest, dwi mor brysur y dyddiau yma, dyna’r criteria pwysica oll.
Dwi am fynd i weithio rŵan tra’n breuddwydio am yr holl gemau does gen i ddim amser i’w chwarae. Tra dwi wrthi, oes ‘na unrhyw beth ar y Switch dwi ‘di anghofio’n llwyr amdano fo? Ac oes dim Switch gennych chi… ‘da chi wedi’ch temtio erbyn hyn? Ydych chi? Ydych chi?
G’wan…
[…] i ddarn am y catalog gwych o gemau indie sydd ar y Switch yn barod. ‘Ma fo. Dwi’n sôn yn fanno am Blaster Master Zero, y diweddariad gwych i’r clasur Blaster […]