Le Morte d’Arthur yn wir

gan Daf Prys @dafprys

Digon yw digon nawr. Wedi cael llond bol o hwn. Pwy arall sydd wedi diflasu ar y rhestr hirfaith o ffilmiau, llyfrau, comics, rhaglenni teledu a gemau fideo sy’n disodli cymeriad Arthur megis Brython i fod yn Sais rhonc (neu yn unrhywbeth arall ond am Frython)?

Mae Arthur yn amlwg yn gymeriad o dras Brythonig ac yn cynrychioli mytholeg a chwedlau Cymraeg (dwi ddim yn teimlo fel mod i angen gosod tystiolaeth am hyn fan hyn…). Anodd yw gosod y cymeriad yn hanesyddol felly dyna pam dwi’n defnyddio y gair ‘cymeriad’, ond gan ystyried hynny mae syniadaeth Arthur yn sicr yn cynrychioli agweddau Cymreig ac hefyd yn elfen gref o’r Mabinogion.

Pam felly bod pawb yn meddwl fod o’n Sais?

Dwi ar hyn o bryd allan yn yr UDA yn trio rhoi gêm at ei gilydd sy’n dathlu’r Mabinogi ac ar yr un pryd yn ailfeddianu ein mytholeg. Ailgydio ynddo a rhoi arno stamp y ddraig goch (mwy ar hyn yn yr wythnosau i ddod). Felly diflas yw gorfod esbonio, dro ar ôl tro, i wahanol gyfarfodydd fod Arthur ddim yn Sais:

‘Oh, I thought he was English! With the Holy Grail and Camelot?’

‘I’ve just seen all the films and just thought…’

Mae pawb yn meddwl fod o’n Sais gan bod torreth o ffilmiau tebyg i hwn sydd ar fîn taro ein sinemau:

Nawr dwi ddim yn dweud fan hyn fod pobloedd eraill ddim yn cael defnyddio cymeriad Arthur ar gyfer eu adloniant hwy, mae croeso iddynt, y trafferth yw bod cymaint o ffilmiau a llyfrau yn gosod Arthur fel Sais (neu Ffrancwr, Americanwr etc.) fel bod y stwff gwreiddiol wedi diflannu o’r golwg. Felly da ni angen addysgu pobl yn fwy cryf. Pan mae cwmniau yn defnyddio Arthur neu’r Mabinogion ein baich ni yw sicrhau eu bod nhw’n gosod cyd-destun cywir iddo. Ar hyn o bryd dwi wrthi yn heclo @wbpictures am y ffilm uchod, ymunwch â fi. Ond mae prosiectau eraill o Hollywood ar y gweill a ‘dwi wrthi yn trafod yn uniongyrchol efo’r cynhyrchwyr sut mae gosod cyd-destun cywir.

Mae Comisiwn Ewrop (sob!) wedi hen ddedfrydu taw dim ond teisen o Gernyw sy’n cael yr enw Cornish Pasty. Cig moch o Parma sy’n cael yr enw Parma Ham, caws o Gaerffili a.y.y.b. Tybed yw hi’n amser dechrau amddiffyn ein brandiau diwyllianol ni? Faint o golled ydy ni arni pan fod pobl rownd y byd yn meddwl taw ‘brand’ o Loegr yw Arthur? A bod y syniad yma yn llygru y Mabinogion oll yn y pendraw, fel yn ffilm Disney The Sword in the Stone.

Ni, y Cymry, ddylai fod yn cyflwyno’r straeon yma. Ni yw storïwyr y Mabinogion. Felly dilynwch fi, os ydych chi am, i ddod ac Arthur, a’r Mabinogion, adref.

@dafprys

3 comments

  1. Ond nid yw’r hyn yn broblem mor syml.

    Nid Cymro fu Arthur ond *Brython*, un o’r ynys hon sy’n estyn o’r Hen Ogledd i lawr i Gernyw (heb son am Lydaw!) Mae ‘na cysylltiadau Arthuraidd, e.e. enwau lleoedd, i’w cael drwyddi o ben i ben. A nid yn unig yn y Mabinogion mae’r cymeriad o Arthur yn bresennol, mae o i’w gael fel “den heb parow” yn y ddrama Gernyweg Ganol _Bywnans Ke_ er enghraifft.

    Felly, Brython ydi Arthur, rhan o etifeddiaeth Ynys Prydain, o leia o’r rhannau celtaidd: Cymru, Kernow, rhannau o’r Alban …

    A dyna’r mewn gwirionedd mae’r broblem wir: ym meddwl y Saison, a mae’n debig yr Americanwyr, does dim gwanhaniaeth rhwng ‘Britain’ ac ‘England’, dau air gyfnewidiog ydyn nhw. Fe gredir, heb dim tystolaeth, fod y Sais wedi bod ym Mhrydain ers talwm, ac o achos, rhaid i Arthur fod yn Sais. QED!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s