gan Elidir Jones
Unwaith eto, mae Nintendo wedi taflu grenâd fach hamddenol i mewn i blaniau pawb dros yr Hydref, ac wedi cyhoeddi’r SNES Mini – neu, i roi’r teitl llawn, Nintendo Classic Mini: Super Nintendo Entertainment System. Dwedwch hynny efo ceg yn llawn tatws stwnsh.
Gan roi fy sinigaeth parhaol i un ochr am y tro, mae’n edrych yn hollol wych. Dewis o 21 o glasuron y SNES, ar un consol bach sy’n plygio i mewn i’ch teledu ac yn ffitio yng nghledr eich llaw. Ac mae pob un gêm yn glasur go-iawn, heb yr un dud yn eu mysg. Y rhai amlwg, wrth gwrs, fel Super Mario World ac A Link To The Past. Gemau mymryn llai amlwg fel Kirby Super Star a Super Ghouls ‘n’ Ghosts. Fy hoff gêm erioed, Earthbound. Hyd yn oed Starfox 2 – sydd erioed wedi ei rhyddhau yn swyddogol cyn hyn. O gwbwl.
Mae’r SNES Mini ar gael o Fedi 29 ymlaen… a fwy neu lai wedi gwerthu allan ym mhobman yn barod. O, wel. Bob lwc tro nesa.
Ond be am yr holl stwff sydd ddim wedi ei gynnwys yn y pecyn yma? Yr holl gemau ar y system sydd ddim cweit yn glasuron, ond yn werth eich amser beth bynnag?
Y Super Nintendo oedd y consol wnaeth wir wneud i fi ddisgyn mewn cariad efo gemau go-iawn, ac ro’n i’n ddigon ffodus i gael siop gemau gwirioneddol briliant ar stepan fy nrws. Heddwch eich llwch, Acme Games, Bangor. Dwi’n cysidro fy hun, felly, yn dipyn o arbenigwr ar y maes uffernol o benodol yma.
Wel, mae’n rhaid i bawb fod yn arbenigwr ar rhywbeth, does?
Pocky & Rocky 2
Tan yn ddiweddar, roedd hi’n glir mai Earthbound oedd y gêm mwya gwerthfawr yn fy nghasgliad. Dydi’r pris ddim yn ffôl heddiw, ond mae’r ffaith bod y gêm bellach ar gael yn ddigidol wedi arafu’r cynnydd mewn pris, a gadael i gemau eraill ddal i fyny.
Wele Pocky & Rocky 2. Gêm digon di-nod ar y pryd, sydd bellach yn gwerthu am… faint??
Ond dwi ddim yma i frolio. Y gwir plaen ydi bod Pocky & Rocky 2 hefyd yn lot fawr iawn o hwyl.
Mae’n chwarae fel croes (eithriadol o Siapaneaidd) rhwng gêm saethu hen-ffasiwn fel Ikari Warriors, a shmup fel Pop ‘n’ Twinbee. Cyfuniad gwych. A pan ‘da chi’n cysidro wedyn bod y gêm hefyd yn cynnwys racŵn bach ciwt sy’n ymladd wrth eich ymyl, does dim rhyfedd bod pobol yn talu prisiau gwirion er mwyn ei chwarae.
Equinox
Mae’n bosib iawn mai’r Super Nintendo oedd y system gorau erioed ar gyfer gemau chwarae rôl, ond mae’r rhan fwyaf yn dilyn fformiwla digon cyfarwydd – er mor dda ydi’ch Chrono Triggers a’ch Secret of Manas, mae nhw’n medru teimlo’n ddigon tebyg ar adegau.
Roedd Equinox yn gwneud pethau’n wahanol, ac yn teimlo llawer mwy fel gemau’r Commodore 64 a’r Spectrum. Ond yn edrych lot neisiach, thgwrs.
Uwchfyd syml, oedd yn ei gollwng chi mewn i ogofeydd oddi tano, yn llawn bwystfilod a bwci-bôs (a bwci-bosys). Yr holl beth wedi ei ddarlunio ar ongl isometrig hyfryd.
Ac, er mwyn cael y teimlad retro ‘na’n hollol iawn, roedd Equinox hefyd yn wirion o anodd. Dwi ddim yn cofio’n iawn pa mor bell es i, ond mae’r synau roedd y prif gymeriad yn wneud tra’n marw yn dal i fownsio rownd fy mhen hyd heddiw, ddydd a nos. Byth yn fy ngadael lonydd.
Roedd o’n dda. Onest.
Tiny Toon Adventures: Buster Busts Loose
Nôl yn y dydd, roedd gemau’n seiliedig ar ffilmiau a rhaglenni teledu, os nad yn cyrraedd lefel Mario a Sonic, weithiau’n dod yn ddigon agos. Y rhai Disney o’r oes yma ‘da ni’n tueddu i’w cofio fwyaf, ond fe roddodd Warner Bros. stab eitha da arni hefyd, efo Buster Busts Loose.
Alla i ddim cyfri faint o weithiau wnes i chwarae drwy’r un yma. Roedd popeth yn dod at ei gilydd yn berffaith, o’r graffeg lliwgar, i’r gerddoriaeth yn syth o’r rhaglen deledu, i’r profiad chwarae slic ac amrywiol.
Yr uchafbwynt i fi? Y lefel pêl-droed Americanaidd, wnaeth – ynghŷd ag un bennod arbennig o’r Simpsons – fy ngyrru i ddysgu’r rheolau. Ac wedyn es i ati i wylio gêm go-iawn, ac… o diar. Does ‘na ddim llawer o ddiweddglo hapus i’r stori yna.
Knights Of The Round
Ar wefan sy’n gwneud gymaint o ffys o barchu chwedlau Cymru, fyddwch chi’n meddwl y byddai gêm ymladd lle mae Arthur a’i farchogion yn mynd rownd y wlad yn smacio pobol rownd y pen efo cleddyfau, heb siw na miw am Culhwch ac Olwen, ddim at ein tâst ni. Ond wir. Sbiwch.
Fyswn i’n medru chwarae gemau fel hyn am ddyddiau. A dwi wedi gwneud. Mae ‘na rywbeth mor hypnotig am gerdded o un ochr o’r sgrîn i’r llall, ffrind wrth eich ymyl os yn bosib, yn malu botymau ac yn malu gelynion ar yr un pryd. Ac er bod gemau eraill o’r math ar y SNES wedi cael mwy o sylw – Turtles In Time, Final Fight – mae ‘na rywbeth am Knights Of The Round sy’n pwyso’r holl fotymau cywir i fi.
Rŵan, petasa ‘na gêm Culhwch ac Olwen yn ymddangos allan o nunlle, fydden ni ddim yn cwyno chwaith…
Ghoul Patrol
Does dim rhyfedd bod dim llawer o sylw wedi ei roi i Ghoul Patrol. Doedd gan hwn ddim llawer o siawns o lwyddo, i ddweud y gwir, yn gorfod cystadlu efo’r gêm flaenorol yn y gyfres, Zombies Ate My Neighbours. Am deitl.
Unwaith eto, dyma gêm oedd ddim yn rhoi’r byd ar dân, ond ddim yn rhoi troed o’i le chwaith, wrth i chi redeg yn wyllt rownd cyfres o lefelau yn trio achub pawb a phopeth rhag y meirw byw. Yr un hen stori.
Ac mewn oes lle doedd gan gemau ddim llawer i’w ddweud am ddiwylliant poblogaidd (nac unrhyw beth arall, o ran hynny), roedd cael un yn talu teyrnged mor amlwg i B-movies y 50au yn ei osod fymryn bach ar wahân, o leia. Gêm grindhouse, os hoffech chi, flynyddoedd cyn i Tarantino cael ei ddwylo budur dros y term yna.
A dyna ni fy newisiadau i, o leia. Ond o gatalog mor gyfoethog, mae’n siŵr bod cymaint mwy o glasuron coll y SNES yn cuddio, jest allan o’r golwg. Nodwch nhw yn y sylwadau, da chithau.
[Nodyn: bythefnos yn ôl, fe wnaethom ni addo bod rhywbeth mawr ar y ffordd. Ac mae o. Ond mae o hefyd yn brosiect mawr, fydd (gobeithio) werth y disgwyl, ac mae’n eithriadol o brysur yma yn f8 HQ beth bynnag. Byddwch yn amyneddgar efo ni. Fyddwch chi’n gwybod am be dwi’n sôn pan mae’n cyrraedd…]
[…] byd wedi dal mymryn bach o SNES-mania ar y funud, yn arwain at ryddhau’r SNES Mini fis Medi. Dyma’n hymateb ni, gyda […]