Pigion o’r Nyrdfyd

gan Elidir Jones

Mae’n brysur yma yn f8 HQ. Yn brysur iawn. Felly, yn hytrach na ni’n eich diddanu chi, fel ‘da ni’n ei wneud yn ddi-ffael bob wythnos, be am i ni droi’r ddyletswydd enfawr yna drosodd at bobol eraill? Ia?

Ia.

Sori.

Dyma ambell erthygl a fideo sydd wedi gwneud ein wythnos ni fymryn bach llai hunllefus.

Rock Paper Shotgun

Allwch chi wastad ddibynnu ar wefan Rock Paper Shotgun i gynhyrchu darnau gwych am gemau PC. Tro ‘ma, dyma nhw yn dilyn datblygiad y gêm gardiau Gwent, o gêm mini yn The Witcher 3 i gêm sydd, erbyn hyn, yn sefyll ar ei thraed ei hun.

Nid bod ni isio brolio, ond ni wnaeth o gynta.

Ac mae’n Daf bach ni wedi bod yn hamro Gwent yn ddiweddar, felly disgwyliwch fwy am y gêm ar f8 yn fuan, siŵr o fod.

IGN

Wnaethon ni ddewis Destiny fel gêm y flwyddyn yn 2014. Wnaeth o ddwyn cyfnodau anferth o’n bywydau. Byth eto, medden ni. Byth eto.

Ond dyma Destiny 2 ar y ffordd. A wyddwch chi be?

… ‘Da ni’n barod am fwy. O diar.

Diolch i IGN, dyma’r olwg gynta ar ardal agored canolog Destiny 2, ‘The Farm’, lle fyddwn ni’n treulio oriau… dyddiau… wythnosau… yn bownsio rownd y lle, yn cicio pêl, ac yn mwydro efo’n mêts.

Weithiau, mae bywyd yn dda.

Kotaku

Mae’r byd wedi dal mymryn bach o SNES-mania ar y funud, yn arwain at ryddhau’r SNES Mini fis Medi. Dyma’n hymateb ni, gyda llaw.

Ond dyma ni stori neis ar Kotaku am brofiadau rhywun arall efo’r SNES nôl yn y dydd – stori sy’n siŵr o ddod ag atgofion chwerw-felys yn ôl i unrhyw un sy’n cofio chwarae gemau yn nyddiau tywyll yr 80au a’r 90au, pan doedd pawb yn y byd ddim yn rhannu eich hobi…

Eurogamer

Mae pawb yn cytuno bod The Elder Scrolls III: Morrowind yn glasur o gêm.

Mae pawb yn cytuno bod The Elder Scrolls Online fymryn yn rybish.

Felly be sy’n digwydd pan mae ffan enfawr o Morrowind yn neidio i mewn i’r darn newydd o The Elder Scrolls Online sy’n deyrnged i’r gêm wreiddiol?

‘Co ni Eurogamer efo’r ateb.

Geek and Sundry

Allwch chi wastad ddibynnu ar Wil Wheaton a Tabletop – y rhaglen am gemau bwrdd sydd wedi gwneud gymaint i adfywio’r hobi – i godi gwên.

Dyma’r bennod ddiweddaraf, am y gêm chwarae rôl Misspent Youth.

Dwi ddim ‘di gwylio hwn eto. Eisteddwch lawr efo paned a gwyliwch o efo fi, wnewch chi?

Ymddiheuriadau am eich pasio chi draw at bobol eraill wythnos yma. Fydd gwasanaeth arferol yn cychwyn eto’n fuan. Gaddo.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s