gan Elidir Jones
Ymddiheuriadau unwaith eto bod hi wedi bod mor dawel ar fideowyth.com yn ddiweddar. Fe fydd y routine arferol yn dychwelyd yn fuan. Gaddo.
Am y tro, be am gymryd golwg yn ôl ar Comic-Con – sioe nyrdi mwya’r byd – sydd newydd orffen yn San Diego?
Ia, efallai mai mewn comics mae gwreiddiau’r sioe, fel mae enw’r peth yn ei awgrymu’n gryf, ond mae’r pwyslais erbyn hyn, yn fwy na dim byd, ar ffilmiau a rhaglenni teledu mwya’r bydysawd. Redwn ni drwy rhai o’r mwya’. Chi a fi.
Thor: Ragnarok
Uchafbwynt Comic-Con, heb os nac oni bai. Uchafbwynt bywydau ambell un ohonom ni, dwi’n siŵr.
Mae’r ffilmiau Thor cynta ymhell o fod ymysg goreuon catalog enfawr Marvel Studios. Ond mae hwn yn edrych yn… waw. Fel Guardians of the Galaxy ar steroids, yn cynnwys yr Hulk (cymeriad gora Marvel – ffaith), ac wedi ei gyfarwyddo gan Taika Waititi, yr athrylith o Seland Newydd y tu ôl i Hunt For The Wilderpeople, What We Do In The Shadows, ac Eagle vs Shark.
Gwyliwch. Rhowch eich llygaid yn ôl yn eich pen. Gwyliwch eto.
Ready Player One
Dwi wedi bod yn chwilfrydig am nofel Ernest Cline, Ready Player One, am sbel. Nid yn aml ‘da chi’n cael nofel safonol, boblogaidd, am gemau fideo.
A bellach, mae’r ffilm bron yma, felly dyna lyfr arall fydd byth rhaid i mi ddarllen.
Jôc. Mae darllen yn cŵl, blantos. Ond mae hwn yn edrych yn eitha cŵl hefyd.
The Defenders
Wyies i’r gyfres Daredevil amser maith ar ôl pawb arall, a mwynhau. Dwi ddim eto wedi gwylio’r ail gyfres… na Jessica Jones, na Luke Cage, nac Iron Fist. Ond dyma’r arwyr yna i gyd wedi ymuno â’i gilydd mewn tîm, fel mae pob arwr da yn hoff o wneud y dyddiau yma. Ac mae Sigourney Weaver yn bril ym mhob dim, felly dwi’n edrych ymlaen at ddal i fyny efo hwn hefyd… flynyddoedd ar ôl pawb arall, debyg.
Panel Game of Thrones
Oedd, roedd ‘na drelyr newydd ar gyfer Game of Thrones wedi ei ddatgelu yn Comic Con. Ond mae’r gyfres newydd wedi dechrau’n barod. Rhy hwyr.
Allwn ni ddim anwybyddu’r sioe orau yn hanes teledu, serch hynny. Felly dyma dri chwarter awr o’r cast yn mwydro. Wedi ei gyflwyno gan neb llai na Kristian “Hodor” Nairn, heddwch ei lwch.
Hodor.
Justice League
Sôn am arwyr yn ymuno mewn tîm, fyddai rhestr fel hyn ddim yn gyflawn heb yr un mawr. Batman. Wonder Woman. The Flash. Cyborg. (A Superman, ond does neb yn cael dweud bod o yn y ffilm, er bod y peth yn gwbwl amlwg.)
Fydd Justice League yn hollti barn fel Batman v Superman? Ella. Fydd o’n gwneud llond tryc o arian beth bynnag? Yn sicr. Dyddiau da.
Www! Mwy o Wonderwoman!