gan Elidir Jones
Mae hi wedi bod yn rhy hir.
Rhwng bob dim, dwi ddim wedi cael llawer o gyfle i orffen gemau’n ddiweddar. Chwarae, do. Gorffen, na. Mae’r pentwr o gemau sydd ddim wedi eu gorffen gen i’n mynd yn fwy ac yn fwy cywilyddus, gan gynnwys chync enfawr o leinyp y Nintendo Switch.
Ond dwi wedi llwyddo brwydro fy ffordd drwodd at gredydau ambell beth. A dyma nhw…
The Witcher 3: Wild Hunt (PC / PS4 / Xbox One, 2015)
Wnes i sgwennu’n helaeth ar The Witcher 3 ar ôl gorffen y gêm, felly wna i ddim ailddweud fy hun. Darllenwch fy holl sylwadau fan hyn.
Spoilers: roedd o’n hollol briliant.
Nioh (PS4, 2017)
Pam ailddweud fy hun eto? Cymerwch fideo.
Crypt Of The Necrodancer (PC / PS4 / Xbox One / Vita, 2015)
Ro’n i isio rhywbeth syml, ffwrdd-a-hi i’w chwarae cyn i’r Switch ryddhau nôl yn nechrau Mawrth. Crypt of the Necrodancer oedd fy newis. Dewis da, os ga i ddeud.
Mae’n gêm roguelike (neu ‘walchus’, sef y term Cymraeg swyddogol – ffaith), ac felly yn brofiad eithriadol o anodd, ond yn lot fawr iawn o hwyl hefyd. Fel cymaint o roguelikes y gorffennol, fyddwch chi’n gwneud eich ffordd o gwmpas cyfres o lefelau wedi eu cynllunio ar hap, ond yr hwc mawr fan hyn ydi’ch bod chi’n gorfod gwneud bob dim i guriad cân sy’n chwarae yn y cefndir, fel cyfuniad o Gauntlet a Guitar Hero.
Mae’n cymharu o ran ansawdd efo rhai o glasuron y genre, fel Rogue Legacy neu The Binding of Isaac, ac yn wych o beth i’w brofi ar y go. Profwch Curse of the Necrodancer ar y Vita os oes gennych chi un yn casglu llwch yn rhywle. Neu’n well byth… gawn ni fersiwn ar y Switch, plis?
Blaster Master Zero (Switch / 3DS, 2017)
Sôn am y Switch…
Wnes i ddarn am y catalog gwych o gemau indie sydd ar y Switch yn barod. ‘Ma fo. Dwi’n sôn yn fanno am Blaster Master Zero, y diweddariad gwych i’r clasur Blaster Master ar y NES. A hefyd…
Mr. Shifty (PC / PS4 / Xbox One / Switch, 2017)
… sef fersiwn o’r olygfa agoriadol o X-Men 2, ond ar ffurf gêm. Llwyth o hwyl, a’r problemau technegol efo’r fersiwn Switch wedi eu trwsio erbyn hyn, yn ôl y sôn.
Dwi ddim wedi cael o lot o amser i ddeifio’n ôl i mewn i gatalog y Switch yn ddiweddar. Ond efo wythnos i ffwrdd o ‘mlaen i, disgwyliwch i hynny newid. Arms, Splatoon 2, a thrio gorffen gêm fach o’r enw Breath of the Wild ella. Dyddiau da.
Horizon Zero Dawn (PS4, 2017)
Strapiwch eich hunain i mewn. Mae gen i deimladau cymysg am hwn.
Felly, mae Horizon Zero Dawn yn gêm dda. Iawn. Mae’r syniad yn dda, i ddechra. Fersiwn ôl-apocalyptaidd o’r dyfodol, lle mae gweddillion y ddynol ryw yn gorfod ymladd llwyth o deinosoriaid mecanyddol i aros yn fyw? Ia plis.
Mae’r ysgrifennu’n wych. Peth anodd iawn ydi dal sylw rhywun yn ystod gêm byd-agored, efo gymaint o dasgau a llinynnau storïol yn mynnu eich sylw ar unwaith. Ond mae Horizon Zero Dawn yn llwyddo gwneud. Jest.
A’r profiad chwarae? Teidi. Dim byd eithriadol o newydd, ond mae ‘na system ymladd dyfnach na’r disgwyl yma, a system grefftio dda iawn.
Ac eto. Ac eto. Wnes i chwarae Horizon yn fuan ar ôl The Witcher 3, ac ar yr un pryd â Breath of the Wild. Pan mae’n dod at gemau byd-agored, does ‘na ddim cymhariaeth. Mae’r gemau yna wedi haeddu eu lle ar Mount Rushmore yn barod, gan adael popeth arall yn y cysgod. Gan gynnwys profiad mor slic â hwn.
Ges i fy ngyrru i mewn i dipyn o banic pan yn chwarae Horizon. Ar ôl The Witcher a BotW, oes ‘na lot o bwynt boddran efo gemau byd-agored eto? Ydyn ni wedi cyrraedd y pinacl? Ac oes ‘na ormod ohonyn nhw yn barod? Ydi’r fformiwla, mor dda ag ydi o fan hyn, yn dechrau mynd yn ddiflas?
Disgwyliwch i fi anghofio am y theori fach yma’n llwyr pan mae Far Cry 5 allan flwyddyn nesa. Ond dyma lle ydw i ar y funud, beth bynnag. Fydda i’n troi at dipyn mwy o brofiadau byr, indie, yn y dyfodol agos, dwi’n meddwl.
Disgwyliwch un arall o’r rhain yn fwy buan, gobeithio, wrth i fi drio taclo’r baclog ‘na. Ac wrth i ni weithio ar y peth mawr ‘na ‘da ni wedi bod yn ei addo am wythnosau…
Gwyliwch y gofod hwn.