gan Elidir Jones
Mae’r Eisteddfod yma. Uchafbwynt y flwyddyn ddiwylliannol, heb os nac oni bai, ac – heb ddefnyddio gormod o hyperbole – y rheswm gorau un i siarad Cymraeg. Briliant o achlysur. Gwych. Rhywbeth wneith newid eich bywyd, heb os nac oni bai.
Os nad oes ‘na rywbeth mawr yn mynd o’i le, wrth gwrs. Ond dwi’n siŵr wneith hynny ddim digwydd. Yn berffaith, berffaith siŵr.
O. Motsh.
Beth bynnag. All criw Fideo Wyth ddim bod yn yr Eisteddfod flwyddyn yma, gwaetha’r modd. Dim bwrlwm i ni. Ond mae posib ailgreu chydig o brofiadau’r ŵyl mewn ffyrdd eraill, wyddoch chi. Drwy chwarae ambell gêm, er enghraifft, fedrwch chi lenwi’r twll siâp Eisteddfod ‘na yn eich bywyd, a hynny’n eitha teidi.
Gadewch i ni esbonio…
Animal Crossing
Mae cychwyn gêm o Animal Crossing mor gyffrous. ‘Da chi’n glanio mewn pentref newydd, ac ar dân eisiau cyfarfod â’r holl anifeiliaid bach ciwt sy’n byw yno. Ddydd ar ôl dydd, ‘da chi’n rhedeg o gwmpas y pentre, yn mynd allan o’ch ffordd i sgwrsio efo’ch holl ffrindiau, hen a newydd.
Ond ar ôl dipyn, mae’r sglein yn dechrau mynd. ‘Da chi’n dechrau osgoi pobol anifeiliad. Yn y diwedd, mae’r holl beth yn mynd yn ormod. A pan mae Julian y ceffyl yn gofyn i chi am grys newydd am y canfed tro, ‘da chi jyst isio ei daflu o i mewn i’r môr.
Dos i grafu, Julian.
Y tro nesa ‘da chi’n colli’r Eisteddfod, felly, ac isio ailbrofi’r teimlad ‘na o fynd o ewyllys da at anobaith llwyr o fewn mater o ddyddiau, Animal Crossing ‘di’r boi.
Guitar Hero
Fyddai’r un Eisteddfod yn gyflawn heb dipyn o roc a / neu rôl, wrth gwrs. Ond ‘da ni ddim yn sôn am Glastonbury na Gŵyl Reading fan hyn. Mae ‘na ddigon o stwff da yn Maes B a’r cyffiniau, oes, ond mae ‘na hefyd noson ar ôl noson o blant yn eu harddegau, mewn pabell fawr fwdlyd, yn strymio Fender Squiers ac yn edrych yn bôrd.
Mae trio ailgreu hyn i gyd efo Guitar Hero yn dipyn o no-brainer, felly. Ond dim un o’r rhai mawr, slic. Mae angen un dipyn bach mwy grybi. Dipyn bach mwy cyt-preis. Dipyn bach mwy…
A. Ia. Wneith yr un yna’r tro’n berffaith.
Conker’s Bad Fur Day
Mae meddwdod, wrth gwrs, yn ran amlwg iawn o’r Eisteddfod erbyn hyn. A does dim gêm yn crisialu’r profiad o fod yn feddw yn well na lefel cynta Conker’s Bad Fur Day. ‘Da chi’n baglu eich ffordd o amgylch y lle, y system reoli’n ymddwyn yn llawer arafach nag y dylai, eich llygaid bach diniwed yn goch gan waed. Jyst fel pawb sydd wedi mynd i Faes B erioed.
O, ac efo’i gyfeiriadau diddiwedd at bethau fel The Matrix a Saving Private Ryan, mae Conker’s Bad Fur Day hefyd ryw 20 mlynedd ar ei hôl hi. Jyst fel yr Eisteddfod.
Dair mlynedd ar ôl i Daf ysgrifennu’r darn yma, does ‘na dal ddim unrhyw fath o gystadleuaeth yn ymwneud â gemau fideo. Doeddech chi ddim wir yn meddwl ein bod ni am adael i hynny fynd?
Desert Bus
Jôc o gêm, lle ‘da chi’n gyrru bws ar draws anialwch fflat, hynod o ddiflas, am wyth awr. A dyna ni.
Yn dal holl gyffro’r Pafiliwn, fyswn i’n ddeud.
The Witness
Mae The Witness yn gêm lle ‘da chi’n styc ar ynys, a ddim cweit yn siŵr pam. Posau o’ch cwmpas chi ym mhob man, fydd yn llenwi’ch breuddwydion ymhell i mewn i’r nos. Lle rhyfedd. Cripi. Bron nad allech chi ddweud bod ‘na rywbeth mawr yn bod efo fo.
Ac efo’r ŵyl ar Ynys Môn flwyddyn yma, alla i ddim meddwl am unrhyw gêm mwy Eisteddfodaidd na hynny. Oni bai – ella – am…
Gêm y Steddfod
Ynys Mon: The Witness?