The Witcher 3: Gêm y Genhedlaeth?

gan Elidir Jones

Neithiwr, wnes i orffen.

Wnes i hamro bos ola The Witcher 3: Wild Hunt, ar ôl bangio fy mhen yn erbyn y wal am awr, a setlo lawr i wylio epilog hir, hir, Return Of The King-esque, yn haeddiannol o siwrne mor epig.

Ar ôl misoedd – misoedd! – o chwarae, roedd fy mhrofiad o chwarae The Witcher 3 ar ben. Ac er bod ‘na flynyddoedd maith ar ôl ym mywyd y PS4, yr Xbox One, a’r genhedlaeth yma o gemau, mae’n berffaith bosib na fydd pethau’n mynd yn well na hyn. Gadewch i fi (drio) esbonio pam.

Ro’n i’n hir iawn yn dod at The Witcher 3. Yn disgwyl i gael gafael ar y pecyn llawn – un disg sgleiniog yn cynnwys y prif gêm a’r ddau estyniad, er mwyn i fi gael eistedd lawr a mwynhau’r holl brofiad ar unwaith. Wnes i rygnu fy nannedd yn gwylio adolygiad Daf, a’i honiadau gwyllt bod y gêm ymhlith y gorau roedd o erioed wedi chwarae…

… ac wnes i hyd yn oed drio chwarae’r gemau cynta yn y gyfres, er mwyn cael deall y stori.

Peidiwch chithau a gwneud hynny, gyda llaw. Dydi’r gêm cynta ddim wedi heneiddio’n dda iawn, a gewch chi ddim llawer mwy o wybodaeth wneith ambell i fideo Youtube ddim ei roi i chi. Mae The Witcher 3 yn swnio’n ddigon cymhleth i ddechrau, wrth i enwau anghyfarwydd gael eu taflu atoch chi – Nilfgaard, Sigismund Dijkstra, Skellige, Sheala de Tancarville –  ond mae’r ysgrifennu gwych yn gwneud i bethau suddo mewn yn dipyn haws nac y dylien nhw.

A’r ysgrifennu, dwi’n meddwl, ydi’r peth gorau  am y gêm. Dwi’n ffan mawr o suddo’n ddwfn i gadair freichiau efo bricsen o nofel ffantasi yn fy nwylo, ac mae chwarae The Witcher 3 yn brofiad tebyg iawn. O’r cychwyn, mae’n creu byd sy’n teimlo’n hollol fyw, ac un ‘da chi wir yn malio amdano fo. A dros y dwsinau – neu gannoedd – o oriau wnes i chwarae, roddodd y gêm ddim troed o’i le. Dim unwaith. Dyma, dwi’n meddwl, ydi pinacl ysgrifennu mewn gemau hyd yn hyn.

Fe ddaeth y foment dyngedfennol i fi, pan newidiodd The Witcher 3 o “eitha chyffing da” i “chyff mi, mae hwn yn gampwaith”, yn gymharol gynnar i mewn i’r profiad. Mae’r rhannau o’r gêm yn ymwneud â’r cymeriad Philip Strenger – aka “The Bloody Baron” – yn aml yn cael eu disgrifio fel uchafbwynt yr holl beth, a dwi ddim am ddadlau. Wrth ddod i ddiwedd stori’r Barwn, yn ymwneud â’i wraig a’i ferch goll, a thrasiedi teuluol, a brwydro ambell fwystfil gwirioneddol annymunol, a’r gwrachod Cymreig od ‘ma…

… ro’n i’n digwydd siarad efo’n Daf Prys ni dros rwydwaith y Playstation. Ac wrth i’r rhan yma o’r gêm orffen, fe wnaeth y Barwn druan ei grogi ei hun. Ond yna daeth y bombshell – yng ngêm Daf, doedd hynny ddim wedi digwydd. Roedd y Barwn yn fyw ac yn iach.

Doeddwn i ddim yn gwybod bod hynny’n opsiwn. Rywdro ar hyd y daith, roeddwn i wedi gwneud penderfyniadau oedd yn newid y gêm yn ei hanfod… ond hyd heddiw, alla i ddim dweud wrthoch chi lle wnes i eu gwneud nhw. Do’n i ddim hyd yn oed yn gwybod fy mod i’n gwneud rhai. Cymharwch hwn i gemau fel Mass Effect, lle mae’r dewisiadau i gyd yn eithriadol o amlwg, yn ddu-a-gwyn, ac ella y deallwch chi pa mor wyrthiol ydi hyn.

Ac mae ‘na ddarnau yr un mor dda, bron, yn yr estyniadau. Mae Hearts Of Stone yn eich taflu chi slap-bang i mewn i frwydr rhwng dau greadur goruwchnaturiol – un dyn wedi ei dyngedfennu i fyw am byth, a’r genie sy’n ei boenydio fo. Mae’n cynnwys un darn sy’n agos iawn at gyrraedd safon stwff y “Bloody Baron”, lle mae Geralt – y prif gymeriad stoic, swta, gweddol ddihiwmor – yn cael ei feddiannu gan ysbryd sy’n mynnu mwynhau un parti olaf cyn gadael y byd am byth. Mewn gêm eitha difrifol, mae’n ddarn gwirioneddol ddigri, ac yn lot fawr iawn o hwyl.

1477112762482711699

Ac os doedd y prif gêm ddim yn ddigon enfawr yn barod, mae’r ail estyniad – Blood And Wine – yn cyflwyno rhan newydd sbon o’r byd, wedi ei seilio ar dde Ffrainc, ac yn gofyn i chi ddelio efo pob math o gynllwynio Game Of Thrones-aidd. A vampires. Lot o vampires.

Felly mae’na ddylanwadau o’r byd i gyd wedi eu gwasgu i mewn i’r gêm – o Ffrainc, i Ddwyrain Ewrop, lle mae’r gyfres yn cael ei wneud… i Gymru fach. Mae ‘na gymaint o enwau Cymreig yn y gêm – cleddyfau o’r enw Melltith a Disglair, cymeriadau o’r enw Emhyr a Cerys, a hen iaith yr Elves bron iawn yn ddealladwy os ‘da chi’n siarad iaith y nefoedd. Mae syniad y Wild Hunt ei hun, wrth gwrs, canolbwynt y gêm, yn seiliedig ar chwedlau o Gymru, efo’r prif baddie, Eredin, â’i wreiddiau yn y ffigwr chwedlonol Gwyn ap Nudd. Ddim yn beth y byddai’r rhan fwyaf yn ei sylweddoli, ond mae’n ffitio snyg i mewn i’n niche bach ni yma yn f8 HQ yn sicr.

A wedyn dyna Gwent. Na, dim y sir, ond y gêm gardiau lawn sydd wedi ei wasgu i mewn i’r pecyn. Mae’n weithred bron yn ddigywilydd gan y datblygwyr, CD Projekt Red. “Ia, ‘da ni’n gwbod, ‘da ni wedi creu un o’r gemau mwyaf a chyfoethocaf erioed. Neis iawn. Ond dyma gêm gardiau ar wahân i chi fwynhau hefyd. Am ddim. O, ac mae’n briliant. Reit, ta-ra ‘wan.”

Mae’n wir bod gan Gwent ei broblemau. Mae’n grêt ar gyfer un chwaraewr i frwydro yn erbyn y cyfrifiadur, ond fyddai’r gêm – fel mae hi – ddim yn gallu bodoli yn y byd go-iawn, gan bod hi’n eitha hawdd llwyddo jyst drwy ecsbloetio’r un triciau. Peth da felly bod y gêm lawn, ar wahân, sydd allan yn fuan –  Gwent: The Witcher Card Game – wedi ail-gynllunio’r peth o’r top i’r gwaelod, tra’n cadw’r systemau chwarae syml a chaethiwus.

Disgwyliwch fwy am hynny’n ddigon buan, gyda llaw. Achos pwy sydd wedi cael trio’r fersiwn Beta caeedig o’r gêm? Ni. Dyna pwy.

Beth bynnag. Dwi fil o eiriau i mewn i’r darn yma, a fyswn i’n medru mynd ymlaen am filoedd eto. Ond mae’n rhaid stopio yn rhywle. Digon yw dweud bod The Witcher 3 bron yn berffaith. I fi – ffan o gemau ffantasi byd-agored sy’n rhoi pwyslais mawr ar ysgrifennu – mae’n ticio’r bocsys cywir i gyd. Ond ar lefel arall, hollol wrthrychol, mae’n rhaid cyfadde mai ychydig iawn, iawn o gemau sy’n cyrraedd y lefel yma. Yn weledol, yn gerddorol, yn emosiynol, yn fecanyddol, mae’n gwbwl fawreddog. Yr unig beth all ddisodli The Witcher 3 fel gêm y genhedlaeth, yn fy marn i? Gêm mawr nesa CD Projekt Red, sef Cyberpunk 2077. Dwi’n cyfri’r dyddiau.

Jyst cyn gadael, mae’n rhaid i fi nodi cwpwl o wendidau, mae’n debyg, er mwyn ymddangos fel newyddiadurwr gemau go-iawn, di-duedd. Un ydi’r system ymladd, sydd yn ei hanfod ddim yn lot dyfnach na system digon arwynebol y gemau Assassin’s Creed. Dim dyna gwir bwynt y gêm, wrth gwrs, na’r prif atyniad, felly wna i adael i hynny fynd.

A’r wendid arall? Wel, fel ddywedais i, mae’n cymryd cannoedd o oriau i orffen y gêm yn llawn. I ymweld â phob marc cwestiwn pryfoclyd ar y map, i frwydro drwy’r prif stori a’r nifer gwirioneddol hurt o straeon byrion sydd wedi eu cynnwys yma, i chwarae drwy’r estyniadau, i gasglu pob cerdyn Gwent. Wnes i ddechrau nôl yn mis Awst, a dim ond rŵan, bron i chwe mis yn ddiweddarach, dwi’n gorffen.

Y broblem?

Wel… mae gen i ofn bod The Witcher 3 jyst yn rhy fyr.

2 comments

Leave a comment