gan Elidir Jones
Nodyn: roedd y cofnod yma i fod yn fideo. Wnes i drio. Wir yr. Ond roedd technoleg wedi penderfynu troi yn fy erbyn. Dim am y tro cynta. Doedd ‘na ddim ffordd y byddai’r fideo wedi edrych yn iawn, mae gen i ofn. Felly mwynhewch y sgript, wedi ei ailgreu isod, a dychmygwch fy llais melfedaidd yn adrodd yr holl beth. Ffanciw.
Gawn ni’r peth amlwg allan o’r ffordd gynta – ia, mae’n debyg mai Gwent: The Witcher Card Game ydi’r gêm gora erioed i gael ei henwi ar ôl rhan o Gymru. Gwell, hyd yn oed, na Super Gwynedd Bros, The Legend of Powys, a Grand Theft Conwy. Fydd hynny’n ddigon i lawer ohonoch chi, debyg iawn. Gewch chi stopio darllen rŵan.
Yn gêm gardiau ddigidol fel Hearthstone – fy hoff gêm o’r blynyddoedd diwetha – ac yn spin-off o The Witcher 3, sydd hyd yn oed yn well, dyma gêm sy’n teimlo o’r cynta fel ei bod wedi ei gwneud er mwyn apelio ata i, a fi yn unig. Mae o mewn Beta caeedig ar y funud – cyfle arbennig i rai chwaraewyr lwcus fel fi ei drio cyn i’r pecyn llawn gael ei ryddhau yn nes ymlaen flwyddyn yma, a fydd ‘na ambell newid mawr yn y cyfamser, siŵr o fod. Felly cymrwch unrhyw feirniadaeth gen i efo pinshiad o halen.
Dim byd newydd fan’na.
Wna i ddim esbonio’r holl reolau i chi fan hyn, achos mae bywyd yn rhy fyr. Ond yn ei hanfod, ella bod Gwent – er yn amlwg yn trio casho mewn ar lwyddiant Hearthstone, a Magic: The Gathering, a Duelyst, ac Eternal, a cant a mil o gemau cardiau eraill – yn fwy tebyg i gêm fel Poker. ‘Da chi’n chwarae cardiau sy’n efelychu byd ffantasi, ydych, ond nifer bach ohonyn nhw – fel arfer tua pedwar ar ddeg, ar draws tair rownd. Felly mae blyffio’n ran anferth o’r profiad. Ydych chi’n mynd all-out, yn chwarae’ch holl gardiau cryf yn y rownd gynta? Ta’n dal yn ôl, yn chwarae cardiau gwan, yn trio cuddio’r ffaith bod gennych chi fomiau atomig yn disgwyl yn eich llaw? Mae hynny’n rhoi pethau’n syml, wrth gwrs. Mae ‘na ddwsinau o ffyrdd y gallech chi chwarae’r system. Ac ella bydd y profiad gwahanol yma yn ddigon i apelio at rai sydd ddim fel arfer yn chwarae’r math yma o beth.
Ac eto, fi ydi’r cynta i gyfadde nad ydi Gwent yn edrych yn apelgar iawn. Mae’r graffeg yn eitha syml, y broses o wneud eich ffordd o gwmpas y menus braidd yn drwsgl, ac mae’n sicr yn colli lliwiau a synau ac effeithiau arbennig Hearthstone. Dydi hyn ddim yn hollbwysig, wrth gwrs, ond mae ‘na bethau mwy o ran cyflwyniad o’i le yma hefyd. Pan mae’r chwaraewr arall yn taflu cerdyn newydd atoch chi, does ‘na ddim ffordd o hofro drosto fo i weld be yn union mae’n wneud, a does ‘na chwaith ddim rhestr o’r cardiau diwetha i gael eu chwarae. Ydi, mae’r sgrîn yn eitha llawn fel mae hi, ond mae’r pethau ‘ma reit hanfodol i brofiad fel hyn.
Ar y funud, dim ond cwpwl o ffyrdd gwahanol sy ‘na o chwarae. Allwch chi neidio i mewn i gêm hamddenol, neu drio Ranked Mode, lle mae petha fymryn yn fwy difrifol. Does ‘na ddim golwg ar y funud o fformat cyfyngedig fel Arena yn Hearthstone, ond mae ‘na ymgyrch sylweddol i un chwaraewr ar y ffordd. Sy’n grêt. Fe ddylai hynny fod yn ffordd briliant i ddysgu chwarae, ennill cardiau, ac i gael un blas hyfryd arall ar fyd The Witcher. Ond pan mae o drosodd, mae o drosodd. Y teimlad dwi’n gael ar y funud ydi bod Gwent yn ddigon o hwyl a sbri i ddechrau, ond yn gwneud job eitha gwael o gadw eich sylw.
A dwi’n meddwl bod y datblygwyr, CD Projekt Red, yn ymwybodol o hyn, achos eu bod nhw’n taflu pob math o wobrau atoch chi er mwyn eich cadw chi’n chwarae. Ennill chwe rownd mewn diwrnod? Cymerwch becyn. Ennill deuddeg ar ôl hynny? Dyna becyn arall. A’r un peth os ‘da chi’n ennill 24 – dau ddeg pedwar! – rownd arall wedyn, yn yr un diwrnod. Sy’n hurt o beth i wneud, a dwi’n chwarae gemau’n broffesiynol. Rhwng hynny, mae ‘na ddrip-drip cyson o aur (i brynu cardiau) a ‘sgraps’ (i’w crefftio nhw). Fyddwch chi’n rhoi anrhegion o aur a sgraps i bobol eraill am chwarae’n dda, a nhw’n gwneud yr un peth i chi.
Mae’r weithred o agor pecyn o gardiau yn bril hefyd. Mae ‘na bump o gardiau ym mhob pecyn, efo pedwar yn dod allan ar unwaith. Ond pan mae’n dod at y pumed cerdyn, mae Gwent yn rhoi dewis o dri i chi. System wych, yn rhoi lefel newydd o reolaeth dros eich casgliad, ac un ddylsa gemau eraill ddwyn cyn gynted â phosib.
Mae hyn i gyd yn grêt, ond yn cael effaith digon rhyfedd ar y broses o chwarae. Yn fwy aml na pheidio, ro’n i’n dal i fynd dim achos ‘mod i’n cael hwyl gwyllt, ond achos ‘mod i wastad jyst un gêm arall i ffwrdd o allu fforddio pecyn newydd, neu grefftio’r un cerdyn ‘na fyddai’n rhoi’r edge i fi mewn gemau i ddod. Ro’n i’n teimlo fel rhywun yn eistedd o flaen peiriant slot mewn casino, yn tynnu’r lefer drosodd a throsodd mewn perlewyg. Dwi’n chwarae gemau i ddianc rhag y byd, diolch yn fawr, dim i gael fy atgoffa jyst pa mor bathetig ydw i.
Dwi dal yn mynd i chwarae Gwent eto pan mae’r fersiwn terfynol yn cael ei ryddhau. Dwi isio trio’r ymgyrch storïol ‘na, ac adeiladu fy nghasgliad heb y wybodaeth y bydd popeth yn cael ei weipio ar ddiwedd y Beta. Ond dwi ddim yn siŵr am faint fydda i’n chwarae, os nad oes ‘na gardiau newydd yn cael eu rhyddhau yn gyson. Mae’n dal i fod yn gêm dda, ac yn hollol wahanol i bob gêm gardiau ddigidol arall. Ond, hyd yn oed ar ôl cael ei newid a’i diwnio gymaint ar ôl gwneud ei debut yn The Witcher 3, ydi Gwent yn teimlo fel gêm lawn yn hytrach na difyrrwch bach mewn gêm llawer mwy? Dwi ddim rhy siŵr.
Mae’r Beta caeedig o Gwent: The Witcher Card Game ar gael rŵan ar y PC a’r Xbox One, a’r gêm llawn allan yn fuan ar y PC, yr Xbox One, a’r PS4.
Gawn ni weld… mwy o gemau wedi eu henwi ar ôl rhannau o Gymru. Morgannwg Raider. Ceredigion Kombat. Everybody’s Gone To Pembrokeshire.
No Môn’s Sky.
[…] efo Hearthstone. Dwi wedi mwynhau ambell i gêm gardiau eraill yn ddiweddar, o Duelyst i Gwent, pob un yn cynnwys nodweddion sy’n eu gwahanu nhw o’r pac. A dyna bac. Hex, Eternal, […]
[…] Nid bod ni isio brolio, ond ni wnaeth o gynta. […]
[…] gêm fan hyn. Mae wedi creu byddin o glôns, wedi’r cwbwl, o’r da (Duelyst, Gwent), i’r trychinebus (gormod i’w rhestru). Dim ond mynd ati i drafod sut mae’r gêm […]