Ffarwel i Gemau AAA

gan Elidir Jones

Neithiwr, ro’n i’n chwarae Horizon: Zero Dawn. Mae’n gêm dda. Iawn. Mae wedi rhoi cymaint o bolish ar y fformiwla byd-agored nes ei fod yn sgleinio, mae’n edrych yn wych, mae’r ysgrifennu’n dda – sy’n beth prin iawn mewn gemau mawr fel hyn. A drwy’r holl beth, ro’n i…

… wedi diflasu, braidd.

Mae’n rhyfeddol cyn lleied mae profiadau mawr, AAA – blocbystyrs byd y gemau – yn apelio bellach. Mae ‘na sawl rheswm am hynny. Un ohonyn nhw, mae’n debyg, ydi’r ffaith bod gen i ddim amser i dreulio 70+ o oriau ar gêm anferth ar ôl gêm anferth, dro ar ôl tro. Dwi hefyd yn eu ffeindio nhw braidd yn rhy slic ar adegau, ac yn lot rhy ddibynnol ar yr un hen fecanweithau. Caewch eich llygaid fymryn tra’n chwarae Horizon: Zero Dawn, ac fe allech chi fod yn chwarae Tomb Raider, neu Far Cry, neu Shadow of Mordor, neu gant a mil o gemau tebyg.

‘Da chi’n gwybod sut mae chwaeth cerddorol rhywun yn cael ei rewi yn eich arddegau / ugeiniau, a chithau’n debyg o fod yn gwrando ar yr un math o stwff am weddill eich bywyd? Dwi’n meddwl bod rhywbeth tebyg yn digwydd i fi ar y funud, ond efo gemau. Wrth i fi gamu’n benderfynol ymhellach ac ymhellach i mewn i fy nhridegau, dwi ddim isio treulio lot mwy o fy amser ar brofiadau dwi ddim 100% y tu ôl iddyn nhw.

Dwi’n meddwl ‘mod i wedi penderfynu ar y tri neu bedwar genre sy’n apelio fwya ata i erbyn hyn. Ac felly, y math o beth fyddwch chi’n eu gweld yn cael eu trafod ar f8 o hyn ymlaen. Os ‘da chi ddim yn licio’r math yma o stwff… sori. Dim dyma’r wefan Gymraeg am gemau fideo i chi. Symudwch ymlaen at yr un nesa.

Gemau Cardiau Digidol

Dim syrpreis fan hyn.

Dwi wedi bod yn chwarae Hearthstone bron bob diwrnod ers 2014. Fel dwi’n ei ddweud pryd bynnag ga i gyfle. Dwi wrth fy modd efo natur bersonol, cyffyrddadwy gemau cardiau a gemau bwrdd, ac mae Hearthstone yn ailgreu hynny’n berffaith. Ond ar ben hynny, mae’n ychwanegu llwyth o driciau digidol fyddai’n ei gwneud hi’n amhosib ailgreu’r gêm yn y byd go-iawn. I fi, mae’n uniad perffaith.

O, go on ta. Dyma glip.

A dydi’r hits ddim yn stopio efo Hearthstone. Dwi wedi mwynhau ambell i gêm gardiau eraill yn ddiweddar, o Duelyst Gwent, pob un yn cynnwys nodweddion sy’n eu gwahanu nhw o’r pac. A dyna bac. Hex, Eternal, Shadowverse… tysa ‘na fwy na 24 awr yn y dydd (lot, lot mwy), dwi’n amau mai dyma’r unig gemau fyddwn i’n chwarae. Ond yn anffodus, dydi amser ddim yn anfeidrol.

Mae hynny’n dod fel sioc i’r rhai ifanc yn eich mysg, dwi’n gwbod. Sori.

Roguelikes

Sut i ddisgrifio be ydi roguelike yn Gymraeg, heb gael yr holl gynulleidfa yn rhedeg i ffwrdd i Wikipedia gan sgrechian? Gawn ni weld…

Mewn gemau roguelike…

(Gemau ‘gwalchus’ yn Gymraeg? Diolch, Sioned Mills.)

… mae’r holl lefelau, sydd fel arfer yn retro eu naws, wedi eu creu ar hap. Fel canlyniad, mae nhw’n dueddol o fod yn eithriadol o anodd. Fe wnewch chi farw. Ond wedi gwneud, ‘da chi fel arfer yn cael cyfle i wella eich cymeriad – prynu sgiliau, neu arfau, neu offer, fydd yn gwneud eich trip nesa drwy’r gêm fymryn yn haws. Mae’n broses o brofi a methu, o wthio ymlaen yn ara bach, yn dysgu’r holl systemau yn well na chefn eich llaw… ac mae’n briliant.

Rogue Legacy oedd y gêm wnaeth gyflwyno’r roguelike i fi. Ond ers hynny, dwi wedi trio ambell un arall. Mae Crypt Of The Necrodancer, er enghraifft, yn cyfuno’r roguelike efo gemau rhythm, ac yn hwyl gwyllt. Ac yn ddiweddar, wnes i lawrlwytho Flinthook – gêm newydd sy’n teimlo lot fel Rogue Legacy, ond efo môr-ladron, a ‘da chi’n siglo drwy’r awyr fel yn Bionic Commando.

Felly mae’n well.

Cyn belled ag y mae roguelikes yn datblygu, fydda i yna i’w chwarae nhw. Weithia, mae bywyd yn dda.

Clôns Dark Souls

Tyswn i’n gallu dewis un fformiwla i’w chwarae am weddill fy mywyd, y fformiwla Dark Souls fyddai honno.

Mae ‘na ddigon i’w chwarae yn y brif gyfres ei hun gan From Software, rhwng Dark Souls 1, 2, a 3, a Bloodborne. Ond mae pawb arall a’u mam isio sleis o’r pei hefyd. Mae ambell un (Nioh) yn dwyn y fformiwla’n gyfangwbl, eraill (Salt And Sanctuary) yn gwneud ambell newid, tra bod un neu ddau (Lords Of The Fallen) yn gollwng y bêl yn llwyr. Ond mae pob un yn dal fy sylw, dim ots faint mae nhw’n stompio pethau.

Roedd The Surge allan wythnos diwetha. Dark Souls, ond mewn byd ffug-wydd. Mae’r adolygiadau yn… weddol. Ar y gora. Ond dwi’n gwbod ‘mod i’n mynd i frwydro drwy’r holl beth, yn crenshian fy nannedd, wrth farw am y canfed gwaith.

Dwi’n meddwl bod gen i broblemau.

Nintendo

Cyn belled ag y mae profiadau AAA yn mynd, y rhai sy’n cael eu cynnig gan Nintendo ydi’r unig rai dwi’n medru eu mwynhau’n gyson. Ac mae hynny er y ffaith bod Nintendo wedi bod braidd yn anghyson yn ddiweddar, yn fy marn i.

Oes, mae ‘na ddigon o stwff da ar y Wii U, ond roedd ‘na ambell beth braidd yn siomedig hefyd. Doedd Starfox Zero ddim yn unrhywbeth sbeshal, roedd rhaid i fi frwydro’n galed i fwynhau Pikmin 3, a doedd gemau platfform fel Yoshi’s Woolly World Donkey Kong Country: Tropical Freeze ddim yn cyrraedd uchelfannau’r cwmni. Prin dwi’n cyffwrdd fy 3DS erbyn hyn ‘fyd.

Ond hyd yn oed pan dydi Nintendo ddim ar dop eu gêm, mae ‘na wastad rhywbeth yna. Ryw sbarc gwallgo sy’n eu gwneud nhw’n wahanol i bawb arall. A pan mae nhw’n dda… wel, i fod yn onest, does ‘na neb gwell. Super Mario 3D World, Mario Kart 8, Breath Of The Wild, Splatoon… mae nhw wedi profi’r peth, eto ac eto. Dyna pam fydda i efo nhw am byth. Dim ots faint o Virtual Boys mae nhw’n taflu atom ni.

Dyna lle dwi’n sefyll ar gemau ar y funud. Be amdanoch chi? Oes ‘na genres neu gwmnïau ‘da chi’n mynd yn ôl atyn nhw, dro ar ôl tro? Ydi blocbystyrs AAA yn eich diflasu chi hefyd, ta fi sy’n bod yn snob? Rhowch wybod yn y sylwadau.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s