gan f8
Mae wedi bod yn sbel ers ein podlediad diwetha. Ymddiheuriadau. Ond pwy well na’n Daf ni i gamu i mewn i’r adwy? A tro ‘ma, mae ganddo westeion arbennig iawn yn ymuno â fo…
O’i sedd gyfforddus yn Seattle, mae Daf yn sgwrsio gyda Miriam Elin Jones ac Elan Grug Muse am gynrychiolaeth merched mewn ffuglen wyddonol, ffantasi, a gemau fideo.
Dwi (Elidir) ddim wedi gwrando ar hwn eto. Felly gwnewch baned, gwisgwch eich clustffonau, ac ymunwch efo fi wrth i ni fwynhau sgwrs nyrdaidd o’r radd flaenaf.
Pa mor cŵl ydi o ein bod ni’n medru sgwrsio am y pethau yma’n Gymraeg, gyda llaw?
Eitha chyffing cŵl.
Un diddorol dros ben y tro ‘ma.