gan Elidir Jones
Mae’n teimlo fel bod rhywbeth mawr yn digwydd.
Rhwng gêm gardiau Chwedlau ac Arwyr Cymru gan Huw Aaron, ac ymdrechion cyson ein Daf ni ac eraill i ailafael yn ein hanes, ein straeon gwerin a’n chwedlau… mae o bron yn teimlo fel ryw fath o symudiad ar y gweill.
Un heb enw ar y funud. Atebion ar gerdyn post.
A bellach, dyma’r nofel newydd Dadeni gan Ifan Morgan Jones, sy’n rhoi sbin newydd ar yr hen chwedlau cyfarwydd, a’u llusgo i mewn i’r byd modern.
Cyn troi at y nofel ei hun, rhaid nodi bod Ifan Morgan Jones yn un o’r awduron Cymraeg prin sy’n deall ffantasi a ffuglen wyddonol. Mae’n amlwg – o’i nofel gynta, Igam Ogam, ymlaen – ei fod yn mwynhau y math yma o beth, sydd ddim yn rhywbeth allwch chi ddweud am bawb. Mae’r dylanwadau yn ddiddiwedd:
- Mae Dadeni yn cynnwys golygfa eglurhadol sydd – oni bai am y ffaith ei bod wedi ei leoli yn y Cynulliad – yn syth allan o Raiders of the Lost Ark.
- Mae ‘na gyfeiriadau gweddol gynnil i Lord of the Rings – sy’n anochel mewn unrhyw waith ffantasi, ddwedwn i – efo’r prif gymeriadau yn cael eu rhoi mewn ryw fath o fellowship er mwyn achub y byd, a grŵp o weision dieflig o’r enw’r Saith sydd ddim yn annhebyg i Nazgul Tolkien.
- Y dylanwad mwya, mae’n siŵr gen i, ydi American Gods gan Neil Gaiman, sydd yn y newyddion ar y funud oherwydd y gyfres deledu newydd, yn seiliedig ar y llyfr. Ond yn hytrach na duwiau fel Odin ac Anwbis yn troedio’r tir, mae Ifan Morgan Jones yn dychmygu be fyddai’n digwydd petasai cymeriadau fel Bendigeidfran, Gwydion, a Ceridwen yn dal i lechu yng nghorneli tywyll yr unfed ganrif ar hugain.
- Mae ‘na hyd yn oed gyfeiriadau at World of Warcraft! Ffordd penigamp o gael cred gan Fideo Wyth. Da iawn Ifan.
Ond mae Dadeni hefyd yn dangos gwybodaeth drylwyr o chwedlau a threftadaeth Cymru. Dwi’n cysidro fy hun yn eitha au fait efo’r Mabinogion, a ro’n i dal yn gorfod troi at Wicipedia er mwyn dod i ddeall pwy oedd ambell gymeriad. Ac mae’r ffyrdd mae’r cymeriadau’n cael eu gwyrdroi a’u moderneiddio hefyd yn dangos dychymyg mawr. Mae’n lyfr sy’n debyg o apelio at rai sy’n lled-gyfarwydd efo chwedlau Cymru, ond yn llawer mwy apelgar, am wn i, at y jyncis chwedlau yn ein mysg.
Dyma nofel, felly, sydd yn parchu ei chynulleidfa – sydd, unwaith eto, yn rhywbeth i’w groesawu. Ac mae’n bwysig nodi hefyd mai nid nofel ffantasi i blant ydi hon. Mae ‘na – fel mae’r llais bach ar ddechrau rhaglenni S4C mor hoff o nodi – “beth cynnwys aeddfed”. Er fy mod i’n gobeithio’n fawr bod ‘na ddyfodol i stwff ffantasi a ffug-wydd i bobol ifanc, ac er fy mod i o’r farn bod gorddefnyddio themâu “aeddfed” yn medru bod yn lletchwith ar adegau, dwi yn ddiolchgar iawn bod nofel ffantasi i oedolion wedi ei chyhoeddi yn y Gymraeg. Dwi’n mawr obeithio y bydd Dadeni yn llwyddiannus. Mae’n hen bryd i gyhoeddwyr Cymru ddeall bod llyfrau ffantasi – os ydyn nhw’n cael eu hyrwyddo’n gywir – yn llawer mwy tebyg o lwyddo a denu darllenwyr newydd na mwy fyth o gyfrolau sych, llenyddol.
Ond mae’n glir hefyd mai nid ffans ffantasi yn unig fydd yn mwynhau Dadeni. Mae’r llyfr yn cynnwys cyfnodau eitha hir lle nad oes unrhyw beth ffantasîol neu arallfydol yn digwydd o gwbl. Yn hytrach, ‘da ni’n cael llwyth o gynllwynio yn y Cynulliad, wedi ei rwygo’n syth allan o House of Cards neu Byw Celwydd. Mae’n gweithio’n berffaith dda – yn well byth oherwydd eich bod yn gwybod bod rhywbeth sbwci / arallfydol yn siŵr o ddigwydd yn y bennod nesa.
Mae’n rhaid dweud fy mod i yn awchu am nofel Gymraeg sydd ddim yn gwneud unrhyw ymddiheuriadau am fod yn ran o’r genre ffantasi – yn ymhyfrydu yn y peth yn llwyr, yn hytrach na thrio apelio at gynulleidfa mor eang â phosib. Mae’n debyg nad Dadeni yw’r nofel honno. Ond dwi yn gwerthfawrogi ymdrechion Ifan Morgan Jones i gyflwyno ffantasi i rai na fyddai’n darllen y math yma o beth fel arfer. Ymunwch â ni, bois. Mae’n braf yn y nyrdfyd.
One of us. One of us. One of us.
Ar y cyfan, mae Dadeni yn cynnwys cyfuniad eidial o ddyfeisgarwch, a pharch at glasuron ffantasi y gorffennol – ac at chwedloniaeth Cymru, wrth gwrs. Mewn oes lle ‘da ni’n dod yn fwy ac yn fwy ymwybodol o gyfraniad Cymru at lên gwerin y byd, mae’n dda gweld bod ambell un yn parhau â’r stori.
Reblogged this on Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf.
O’n i ar fuan prynu fe beth bynnag a dwi’n hollol awyddus i’w wnued nawr!
[…] i ddim llawer i ychwanegu at fy adolygiad gwreiddiol o Dadeni gan Ifan Morgan Jones, sydd ar gael fan hyn. Mae’n cymryd American Gods gan Neil Gaiman a’i drawsblannu slap-bang i ganol byd […]