E3 2017: Ymateb Elidir

gan Elidir Jones

Mae sioe E3 – digwyddiad mwyaf y flwyddyn pan mae’n dod at gemau – yn dirwyn i ben draw yn Los Angeles. Er bod ‘na ddiwrnod arall o hwyl a sbri a synau uchel a goleuadau’n fflachio i ddod eto, mae’r rhan fwyaf o’r gemau newydd wedi eu datgelu. Oni bai bod Nintendo yn gwneud rhywbeth nyts a chyhoeddi Breath of the Wild 2 awr cyn i’r sioe orffen.

Pa amser gwell, felly, i ddewis fy uchafbwyntiau personol i?

Rhaid dweud, do’n i ddim yn meddwl bod E3 flwyddyn yma yn glasur o ran cyhoeddi gemau newydd. Gwir, fe gafodd Microsoft a Nintendo sioeau eitha da, ond roedd lot o’r wefr yn dod o glywed mwy o fanylion am gemau roedden ni’n gwybod am eu bodolaeth yn barod.

Ta waeth, mae ‘na ddigon i’w chwarae dros y misoedd nesa, yn amlwg. A digon i’w drafod. Heb oedi mwy, felly… ‘co ni off.

Mario + Rabbids Kingdom Battle

Roedd bodolaeth y gêm yma wedi ei ddatgelu mewn camgymeriad cyn y sioe, gan achosi un shryg enfawr ledled y byd. Gymaint ag y mae Ubisoft yn trio, does neb llawer yn malio am y Rabbids, eu masgots bach fflyffi, a doedd eu gwthio nhw i mewn i gêm Mario ddim yn debyg o newid pethau, siŵr iawn?

Ia. Am hynny…

Mae hwn yn edrych yn briliant. Maeae gemau chwarae rôl Mario yn grêt beth bynnag, ond mae Kingdom Battle yn troi’r holl beth ar ei ben. Dyma gêm o ymladd tactegol, dipyn bach fel X-Com.

Na. Lot fel X-Com. Dyma Mario X-Com, mewn gwirionedd, ond efo synnwyr digrifwch, mwy o sgôp ar gyfer gwallgofrwydd llwyr… a chwningod. Waw.

Ydi o’n od ‘mod i’n edrych ymlaen at hwn mwy nag unrhyw gêm arall gafodd ei datgelu yn E3? Gawn ni ddarganfod yn union pa mor hurt ydw i pan mae Mario + Rabbids Kingdom Battle yn cael ei rhyddhau ar ddiwedd Awst.

Super Mario Odyssey

A sôn am Mario…

Os oedd Kingdom Battle fymryn bach yn nyts, mae gwylio trelyr Super Mario Odyssey fel llyncu llond bwced o fadarch hud ac eistedd lawr o flaen cystadleuaeth dawnsio disgo Eisteddfod yr Urdd.

Pam bod Mario yn edrych mor wahanol i weddill y ddynol ryw? Os ydi ei fyd o’n cynnwys deinosoriaid realistig, be ddiawl ydi Yoshi i fod? Pam bod Pauline o Donkey Kong yn canu cân swing? Wyt ti wir yn gallu troi i mewn i dacsi? Pam? Be? Hy?

Ond cliriwch eich meddwl fymryn bach, ac mae hwn yn edrych yn hyfryd. Gwir, dwi yn gweld eisiau lefelau cryno’r gemau Super Mario Galaxy, ond mae ‘na le hefyd i rwbath fel hyn, sy’n trio ailgreu hud gemau platfform enfawr y 90au hwyr… a gobeithio yn rhoi gwell stab ar y peth na Yooka-Laylee. Wff.

Skyrim VR

Do’n i ddim eisiau prynu Skyrim eto. Do’n i wir ddim. Dwi wedi gwneud hynny unwaith yn ormod yn barod. Ond… Skyrim VR. Os dydi’r geiriau yna ddim yn eich gwneud chi fymryn bach yn chwilfrydig, mae ‘na rywbeth mawr o’i le.

Ac eto. Mae ‘na farciau cwestiwn mawr dros hwn. Y mwyaf, i fi… pa mor sâl, yn union, fydda i’n teimlo tra’n chwarae?

Dwi wrth fy modd efo VR, ond mae gan y cyfrwng ei gyfyngiadau pendant ar hyn o bryd. Os ydch chi’n sefyll yn llonydd mewn gêm, neu wedi eich strapio i mewn i gerbyd, mae popeth yn iawn. Ond dwi wedi trio gemau VR lle ‘da chi’n cerdded o gwmpas, a… chwysu. Cyfog. Dydi o ddim yn neis.

Os – os, os, os – gall Skyrim ddod dros y broblem yna, dyna ni wedyn. Dyna’r gêm sy’n diffinio VR, ac yn gwneud i bawb fod eisiau strapio’r helmed stiwpid ‘na ar eu pennau. Mae’n brofiad sy’n gyfarwydd i lot o bobol, yn un o hoff brofiadau sawl un, ac yn union mor wyllt / hamddenol ag y hoffech chi.

Leisans i brintio arian? Ta un o’r ffolinebau mwyaf yn hanes y byd? Amser a ddengys…

Age of Empires: Definitive Edition

Dwi’n hoff iawn o gemau strategaeth.

Pan dwi’n dweud hynny, be dwi wir yn ei feddwl ydi… dwi’n hoff iawn o Age of Empires, ac ambell un arall. Mae’r rhan fwya’ ohonyn nhw’n gwneud i fy ymennydd frifo.

Felly pan welais i’r trelyr ar gyfer y fersiwn newydd o’r Age of Empires gwreiddiol – efo graffeg HD, gwelliannau i’r profiad chwarae, a phob math o syrpreisys eraill – bosib iawn fy mod i wedi gwneud dawns fach hapus yn fy nhrôns.

Mae jyst y llais bach ‘na ar ddechrau’r trelyr yn gwneud i’r atgofion lifo’n ôl. Dwi’n gwbod bod Age of Empires 2 yn disgwyl yn fy nghasgliad Steam, heb ei chwarae, ond dwi’n sicr am chwarae hwn. Mae’n debyg. Ella.

Star Wars Battlefront 2

Chydig iawn wnes i chwarae o’r Battlefront cynta. Doedd ‘na ddim llawer yn bod efo’r profiad, ond doedd ‘na ddim llawer i’r profiad chwaith. Mae’n edrych ar y funud fel bod Battlefront 2 yn gwneud ei orau i newid pethau.

Mewn ffordd, ddyliwn i ddim cyffroi gymaint am hwn, achos mae’r ychwanegiadau yn bethau a ddylai fod wedi ymddangos yn y Battlefront cynta beth bynnag. Ymgyrch i un chwaraewr! Y gallu i fflio yn y gofod! Oll yn stwff elfennol iawn.

Ond mae Star Wars hefyd yn elfennol. Dyna be sy’ mor grêt amdano fo. Da vs drwg, du vs tywyll… robots vs Wookiees. Blas y peth sy’n bwysig. Slapiwch gêm hanner-call ar ben yr holl ddelweddau a synau cyfarwydd ‘na, ac mae gennych chi winar.

Roedd ‘na fwy na jyst y gemau yma, wrth gwrs. Fydda i, mae’n siŵr, yn siglo ac yn fflipio fy ffordd rownd Efrog Newydd fel nytar yn Spider-Manyn helpu cael gwared ar sgym adain-dde Montana yn Far Cry 5yn gwynebu byddinoedd y meirw byw yn State of Decay 2ac ella yn samplo profiad newydd Destiny-aidd Anthem gan Bioware. Ac mae ‘na lond sioe o brofiadau eraill sy’n sicr o fod wedi llithro o dan fy radar.

Sioe fymryn yn siomedig? Ella. Ond ‘da ni’n dal i fyw mewn oes aur o gemau. Mwynhewch o efo ni… ac os oes ‘na rywbeth arall o E3 wnaeth ddal eich llygad, sticiwch o yn y sylwadau.

Gyda llaw… cadwch olwg ar fideowyth.com. Wythnos nesa, fe fyddwn ni’n cychwyn ar brosiect mawr. Rhywbeth sydd wedi bod ei angen ers i ni ddechrau. Ac fe fyddwn ni angen eich help CHI.

* Dyn dyn dynnnnnn. *

 

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s