gan Elidir Jones
Mae’n golwg yn ôl ar 2017 yn parhau. Yr wythnos yma, holl oreuon y flwyddyn sydd ddim yn gemau fideo. Ffilmiau, llyfrau, cerddoriaeth, gemau bwrdd, a rhaglenni teledu.
Heb fwy o oedi, felly…
Ffilm: The Disaster Artist
Dim ffilm Star Wars ar frig y rhestr flwyddyn yma. Dwi dal ddim yn siŵr be i feddwl am The Last Jedi. Cyfeiriad dewr newydd i’r gyfres, ta un o’r camau gwag mwyaf yn hanes ffilm? Trafodwch…
Ond, fel ddywedodd Yoda un tro, “There is another”. The Disaster Artist.
A does neb wedi synnu mwy am hyn na fi, achos dwi ddim wedi bod yn ffan mawr o waith James Franco cyn hyn. Ond mae hwn yn arbennig. Y stori wir y tu ôl i The Room, un o’r ffilmiau gwaethaf erioed, ac y tu ôl i Tommy Wiseau, ei seren / chyfarwyddwr cwbwl anesboniadwy.
Ar ben cyfarwyddo’r ffilm yma, mae James Franco yn toddi i mewn i rôl Tommy Wiseau, ac yn troi un o’r dynion mwyaf hurt a welodd y byd erioed yn gymeriad allwch chi wir uniaethu efo fo.
Wel… bron.
Drama gomedi sy’n fwy teimladwy na’r rhan fwyaf o ddramâu, ac yn ddigrifach na’r rhan fwyaf o gomedîau. Ffilm angenrheidiol, hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi clywed am The Room.
Dewis Arall: Guardians of the Galaxy: Vol. 2
Dwi ddim wedi gweld lot o ffilmiau nyrdaidd mwya’r flwyddyn – Thor: Ragnarok, Spider-Man: Homecoming – ond allwch chi ddim mynd yn bell o’i le efo Guardians if the Galaxy: Vol. 2. Fel y Guardians of the Galaxy cynta, ond efo 100% yn fwy o Kurt Russell.
Allwch chi ddim dadlau efo rhesymeg fel’na.
Rhaglen Deledu: Game Of Thrones
Do’n i ddim wir isio rhoi Game of Thrones ar dop y rhestr flwyddyn yma. Mae’n rhy amlwg, yn un peth. Ond yn bwysicach byth, do’n i ddim yn meddwl bod y seithfed gyfres ymysg goreuon y rhaglen. O bell ffordd. Mae dylanwad llyfrau George R. R. Martin ar goll, yn sicr.
Ond Game Of Thrones ydi Game Of Thrones yn dal i fod. Jest. Ar gyfer bob rhan gwirion (lle yn y byd gafodd y White Walkers afael ar y cadwyni ‘na?), mae ‘na ddarnau epig yn dal i fod.
“Tell Cersei. I want her to know it was me.”
Wff. Mae popeth yn iawn, GOT. Alla i ddim aros yn flin efo ti’n hir.
Dewis Arall: Blue Planet II
Dwi ddim yn gwylio lot o deledu. Ond mae gan Blue Planet II stwff ynddo fo sy’n rhyfeddach na’r rhan fwyaf o ffuglen wyddonol. Fel bod H. R. Giger ac H. P. Lovecraft wedi cael plentyn. Mewn â fo.
Gêm Fwrdd: ?
Dwi ddim wedi chwarae unrhyw gemau bwrdd newydd flwyddyn yma. Dwi’n nyrd drwg.
Ond yn ôl Tom Vasel o wefan The Dice Tower, sydd o bosib yn gwybod mwy am gemau bwrdd nac unrhyw un arall ar y blaned, y gorau oedd Gloomhaven.
Digon da i fi.
Llyfr / Comic: Ifan Morgan Jones – Dadeni
Waeth i fi fod yn onest a dweud fy mod i ddim wedi darllen llawer o lyfrau newydd flwyddyn yma. Ond o’r rhai dwi wedi eu darllen, mae ffantasi o Gymru ar frig y rhestr. Sy’n beth hynod o braf.
Does gen i ddim llawer i ychwanegu at fy adolygiad gwreiddiol o Dadeni gan Ifan Morgan Jones, sydd ar gael fan hyn. Mae’n cymryd American Gods gan Neil Gaiman a’i drawsblannu slap-bang i ganol byd y Mabinogi. Syniad syml, ond un sydd erioed wedi ei wneud o’r blaen.
Braf gweld bod nofel ffantasi yn y Gymraeg wedi cael digonedd o sylw hefyd – diolch, yn rhannol, i’r cyfri Twitter sydd wedi ei sefydlu er mwyn hybu’r llyfr.
Syniad da. Meindio os dwi’n ei ddwyn o at y dyfodol, Ifan?
Dewis Arall: Robbie Brewster – The Fight Between Light and Darkness
Rhywbeth arall sydd wedi cael sylw ar f8 o’r blaen – nofel graffeg annibynnol o Gymru, sy’n beth y dylien ni ei drysori bob tro mae un yn ymddangos.
Record: Dropkick Murphys – 11 Short Stories of Pain and Glory
Yn ola, jest achos bod ni’n gallu, bach o gerddoriaeth. Does dim rhaid i bob dim fod yn nyrdaidd bob tro, ‘wchi. Sheesh.
Cafodd fy hoff record o’r flwyddyn ei rhyddhau ar y chweched o Ionawr, ac wedi dal gafael ar dop y rhestr byth ers hynny.
Ac efo caneuon fel hyn, pwy all ddadlau? Mae’r Dropkick Murphys yn briliant.
Dewis Arall: Chuck Prophet – Bobby Fuller Died For Your Sins
Dwi wedi bod yn ffan o’r canwr cwlt Chuck Prophet byth ers y record Temple Beautiful yn 2012, sydd ymysg y rhai mwyaf perffaith i’w rhyddhau yn y degawd diwetha. Ac er dydi Bobby Fuller Died For Your Sins ddim yn cyrraedd yr uchelfannau yna, mae’n cynnwys digon o dad-rock i blesio unrhyw un.
A dyna ni. Be ydi’r stwff gora ‘dach chi wedi ei brofi flwyddyn yma? Rhowch wybod yn y sylwadau.
Cadwch lygad ar Fideo Wyth wythnos nesa, gyda llaw. Rhwng y twrci a’r nut roast a’r paratoadau ar gyfer y flwyddyn newydd, fe fyddwn ni’n datgelu be ydi Gêm y Flwyddyn.
Disgwyliwch ddadlau.