Gemau’r Flwyddyn 2017

gan f8

Mae’r twrci a / neu’r nut roast wedi ei orffen. Nain wedi deffro o’r coma ddisgynodd hi iddo fo ar ôl potel gyfan o sheri. The Muppet Christmas Carol oddi ar y teli, a Muppet Treasure Island yn ei le.

Be arall i’w wneud ond edrych yn ôl ar gemau gorau’r flwyddyn, a’u rhoi nhw’n dwt mewn rhestr? Briliant.

Fel arfer, tra bod criw f8 – Daf, Elidir, a Joe – yn hapus i ddelio efo’r dasg anferthol yma ein hunain, y tro yma ‘da ni wedi gofyn am eich help chi. Fe wnaethon ni roi’r galwad am gyfraniadau ar Facebook a Twitter, a rhwng popeth, mae pump o gemau wedi dod yn ddigon amlwg i’r brig.

Dyma, felly, hoff gemau Cymru o’r flwyddyn a fu.

Ciw’r gerddoriaeth epig.

Rhif 5

Dewis Cynta Daf:
Assassin’s Creed Origins

Prequels. Os ydi diwylliant poblogaidd wedi dysgu unrhyw beth i ni dros yr ugain mlynedd diwetha, dydi prequels wastad ddim yn mynd yn dda iawn, o The Phantom Menace Dumb and Dumberer: When Harry Met Lloyd.

Felly pan gyhoeddodd Ubisoft eu bod nhw’n cymryd Assassin’s Creed – gemau sydd wedi cymryd ambell i gam gwag yn ddiweddar – ac adrodd stori cyntaf y gyfres, wedi ei leoli yn yr Hen Aifft, doedd ambell un ddim yn llawn gobaith.

Ond. Ond ond ond. Mae’r flwyddyn ychwanegol gafodd Assassin’s Creed Origins yn y popty wedi helpu eitha dipyn, yn ogystal â chyfeiriad byd-agored newydd y gêm. Yn sydyn reit, roedd Assassin’s Creed yn hwyl eto. Yn ddigon o hwyl i rywun allu anwybyddu’r holl bygs od, eistedd yn ôl, a gwneud dryga efo Cleopatra.

Nid yn y ffordd yna. Moch.

Unwaith eto, ‘dan ni yn f8 yn credu yn Assassin’s Creed.

Rhif 4

Destiny 2

Mae digon o gwyno wedi bod am Destiny 2. Diweddglo twtiach, ond llai hwyl, na llanast hyfryd yr un cynta. Estyniad, Curse of Osiris, sydd ddim yn cynnig llawer newydd. Anallu llwyr Bungie i siarad yn gall efo’r ffans, yn cadw rhai ffeithiau hanfodol am y gêm dan glo. Y tueddiad rhyfedd i ailadrodd camgymeriadau Destiny 1.

Ond ar ddiwedd y dydd, mae’n dal i fod mor hwyl ag erioed i saethu aliens yn y pen. Weithia, dyna’r oll sy’n bwysig.

Rhif 3

Dewis Cynta Elidir:
Super Mario Odyssey

Mae digon wedi ei ysgrifennu am Super Mario Odyssey gennym ni flwyddyn yma. Hwn, er enghraifft. A hwn. Cerwch. Darllenwch. Joiwch, da chitha. ‘Dach chi wedi diodda digon.

Be arall sydd i’w ychwanegu? Oni bai am hwn: mai Super Mario Odyssey ydi un o’r gemau perffeithiaf ers tro byd. Ei fod yn edrych yn wych, yn swnio hyd yn oed yn well, ac yn chwarae fel y breuddwyd gora gawsoch chi erioed. Un o’r gemau Mario rhyfeddaf erioed, sy’n dweud lot.

Ac un o’r goreuon. Mae hynny’n dweud hyd yn oed mwy.

Rhif 2

Dewis Cynta Joe:
Horizon Zero Dawn

Roedd hi’n amhosib peidio cyffroi am Horizon Zero Dawn pan gafodd y gêm ei chyhoeddi gynta. Pa blentyn sydd ddim wedi cyffroi am y syniad o ymladd deinosoriaid, sydd hefyd yn robots? Y peth gwyrthiol oedd bod Horizon ddim wedi siomi.

Mewn byd o gemau byd-agored identikit, fe wnaeth Horizon sefyll allan – ac nid oherwydd y deinosoriaid, coeliwch neu beidio, ond oherwydd rhywbeth hyd yn oed yn fwy cyffrous: y stori. Y cymeriadau. Dyma gêm oedd wir yn gwneud i chi falio am y cynnwys, rhwng cyfnodau (hir) o falu botymau’n wyllt. Gêm oedd yn gwneud i chi ofyn cwestiynau tan y diwedd. Wnaeth roi dychymyg y byd ar dân.

Siom, i ddweud y gwir, bod Horizon wedi ei rhyddhau yr un pryd â gêm anferth arall wnaeth danio ambell i ddychymyg flwyddyn yma. Ond mwy am yr un yna mewn munud…

Ond cyn troi at yr un mawr, dyma’r gemau wnaeth ddim cweit wneud y cyt. A gan ein bod ni mor cŵl, mae’n rhestr – fel pob rhestr da – yn mynd i fyny at unarddeg.

#11
That’s You

#10
Everybody’s Golf
South Park: The Fractured But Whole

#9
Life is Strange: Before the Storm
Metroid: Samus Returns
Sonic Mania

#8
Nioh
Rime
Uncharted: The Lost Legacy

#7
Call of Duty: WWII
Hellblade: Senua’s Sacrifice
Persona 5

#6
Night in the Woods

Tra’n bod ni wrthi, mae ein harbenigwr ar Playstation Plus, Dr Joe Hill, wedi bod yn hamro’r gwasanaeth flwyddyn yma, yn gwledda ar yr holl gemau sydd i’w cael am ddim. Ymysg y gorau yn 2017 oedd clasuron fel Life is Strange, Tales from the Borderlands, Just Cause 3.

Roedd o hefyd eisiau i chi wybod bod Blood Bowl 2: Legendary Edition yn hollol wych. Er ei fod yn fersiwn sgleiniog newydd o gêm gafodd ei rhyddhau yn – *poeri* – 2016. Geith o ddim bod ar y rhestr, felly. Mae’n rhaid ufuddhau i’r rheolau.

Ac eto, mae’r gêm sydd ar frig ein rhestr ni flwyddyn yma, mae’n deg dweud, yn torri’r rheolau i gyd…

Rhif 1

The Legend of Zelda: Breath of the Wild

Er mor bril ydi The Legend of Zelda, does ‘na’r un gyfres sy’n dilyn fformiwla mor slafaidd. Crwydro’r byd am ychydig, mentro mewn i ogof danddearol, casglu eitem arbennig a llond llaw o allweddi, gadael, ailadrodd y broses. Mae’n fformiwla wych, wrth gwrs, ond un sydd wedi para am dros 30 mlynedd bellach.

Daeth hynny i ben efo Breath of the Wild. Dyma fyd agored yng ngwir ystyr y gair. Byd lle rydych chi’n derbyn yr holl arfau a thŵls sydd eu hangen o fewn yr awr agoriadol, a wedyn yn cael pob rhyddid i… grwydro. Mewn unrhyw gyfeiriad. Taclo’r gêm ym mha bynnag drefn ‘dach chi ffansi. A gêm sy’n llawn cyfrinachau ym mhob twll a chornel – rhai yn fach, rhai yn eitha chyffing enfawr.

Os ‘dach chi ddim wedi mentro i Eventide Island yn y de-ddwyrain, gyda llaw… ewch. Ddweda i ddim byd arall.

Gêm sydd mor dda, y teimlad o ryddid mor aruthrol, mae’n gwneud i gampwaith fel Horizon Zero Dawn deimlo braidd yn gyfyng. Fel ei bod yn… wel… dilyn fformiwla.

Mae Nintendo wedi cael eu blwyddyn orau ers degawdau yn 2017. A dyma’r gêm sy’n coroni’r cyfan.

yf0thsnqktiwgikj197t

A dyna ni, felly, am 2017. Ymunwch â ni mewn pythefnos ar gyfer ein rhagolwg arferol o holl gemau 2018.

‘Ere we go again…

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s