gan Elidir Jones
(Nodyn: mae ein rhagolwg o gemau 2018 yn dod wythnos nesa. Am y tro, mwynhewch y sleis sylweddol yma o nyrdrwydd.)
Ddwy flynedd yn ôl – i’r diwrnod – fe wnes i ddarn am Hearthstone, y gêm gardiau ar-lein gan Blizzard yn seiliedig ar World of Warcraft. Ar y pwynt yna, ro’n i wedi bod yn chwarae am ddwy flynedd. Roedd hynny’n dilyn darn arall, pan ddaeth y gêm allan gynta, pan ofynnais i ai Hearthstone oedd gêm gorau 2014.
Wel. Mae hi bellach yn 2018. Dwi dal yn chwarae. A dwi’n eitha siŵr erbyn hyn mai Hearthstone ydi fy hoff gêm erioed.
Wna i ddim mynd ati i gyflwyno’r gêm fan hyn. Mae wedi creu byddin o glôns, wedi’r cwbwl, o’r da (Duelyst, Gwent), i’r trychinebus (gormod i’w rhestru). Dim ond mynd ati i drafod sut mae’r gêm wedi newid dros y ddwy flynedd diwetha. Achos mae ‘na lot wedi newid, dros chwe estyniad.
Y peth symlaf i’w wneud ydi rhedeg drwyddyn nhw, mwn.
Whispers of the Old Gods
Daeth estyniad cynta 2015 – wedi ei ysbrydoli gan fytholeg H.P. Lovecraft, yn gadael i chi reoli “hen dduwiau” byd Warcraft – â’r newidiadau mwyaf mae Hearthstone wedi eu gweld erioed.
Ddwy flynedd yn ôl, ro’n i’n poeni bod chwaraewyr newydd am ei chael hi’n anodd neidio i mewn i Hearthstone. Wel, mae’n rhaid bod rhywun o Blizzard wedi bod yn darllen, achos fe gafodd y broblem yna ei ddatrys yn syth. Whispers of the Old Gods oedd yr estyniad cynta i gyflwyno “fformat” newydd i’r gêm. Bellach, fe all chwaraewyr old-school chwarae efo bob un cerdyn erioed, yn y fformat “Wild”. Ond, efo’r estyniad cynta bob blwyddyn, mae’r fformat “Standard” yn tynnu pob cerdyn allan o’r gêm, oni bai am y casgliad cychwynnol, a’r rhai sy’n llai na blwyddyn oed.
Bob gwanwyn, felly, mae gan chwaraewyr newydd, neu rai sydd ddim wedi chwarae Hearthstone am sbel, y cyfle perffaith i neidio i mewn i’r gêm. Ac mae’r amser yna yn dod i fyny unwaith eto…
Ar ben hynny i gyd, roedd Whispers yn chwip o estyniad, gan gynnwys rhai o’r cardiau mwyaf gwyllt erioed. Fel…
Cerdyn yr estyniad
Yogg-Saron, Hope’s End
One Night in Karazhan
Mini-estyniad, wedi ei seilio ar hud, lledrith… a disgo.
One Night in Karazhan oedd yr “Antur” olaf un i Hearthstone – estyniadau llai, yn cynnwys rhwng 30 – 50 o gardiau, yn hytrach na’r 130+ arferol, ond yn cynnwys ymgyrch i un chwaraewr ar ben hynny. Roedd hanner estyniadau Hearthstone yn ystod y tair mlynedd cynta yn “anturiaethau”, ac mae’n drist eu gweld nhw’n mynd, yn sicr. Ond bellach, ‘da ni’n cael tua 400 o gardiau newydd bob blwyddyn, yn hytrach na’r tua 300 roedden ni’n eu cael bryd hynny. Dwi ddim yn cwyno.
Fel arall, doedd One Night in Karazhan ddim yn arbennig iawn. Y cynnwys i un chwaraewr yn ddigri, ac yn llawn cymeriad, ond y cardiau eu hunain ddim yn gadael llawer o argraff. Er bod ambell un wedi gwella eitha dipyn ers ymddangos am y tro cynta.
Ond disgo. Allwch chi ddim dadlau efo disgo.
Cerdyn yr estyniad
The Curator
Mean Streets of Gadgetzan
Dyma estyniad yn canolbwyntio ar dair carfan wahanol – y Jade Lotus, y Grimy Goons, a’r Kabal – sy’n trio rheoli strydoedd y ddinas fawr ddrwg. Dipyn bach fel y Sopranos. Ond efo goblins. Lot o goblins.
Swnio’n dda. Ond roedd cardiau’r Jade Lotus gymaint gwell na phob un arall, doedd ‘na ddim lot o bwynt trio sefyll yn eu herbyn. Byth ers hyn, mae’r “Jade Druid” – steil o chwarae sy’n mynd yn gryfach ac yn gryfach wrth i’r gêm fynd yn ei flaen, a byth yn rhedeg allan o stêm – wedi profi’n eithriadol o bwerus. Rydych chi’n dal i ddod yn eu herbyn nhw hyd heddiw – tan i gardiau’r estyniad ddiflannu yn y gwanwyn, beth bynnag.
Ar y cyfan, dyma’r estyniad gwaetha’ dros y ddwy flynedd diwetha.
Dal yn hwyl gwyllt, serch hynny. Achos mae Hearthstone yn briliant. Peidiwch ag anghofio. Wna i ddim gadael i chi wneud.
Cerdyn yr estyniad
Jade Idol
Journey to Un’Goro
‘Co ni off.
Yr estyniad gorau erioed, siŵr o fod. Roedd Journey to Un’Goro yn cymryd Hearthstone, ac yn ychwanegu deinosoriaid. Sut allech chi fynd o’i le?
O, ac fe wnaeth cyfarwyddwr y gêm recordio rap er mwyn hybu’r peth. Dwi’n deud dim.
Ar ben hynny, fe ddaeth y cardiau “Quest” i’r gêm – yn anhygoel o bwerus, ond yn gofyn i chi neidio drwy hŵps hurt er mwyn eu chwarae nhw. A math arall o gardiau newydd sy’n addasu eu hunain i’ch siwtio chi. A dwi’n mynd bach yn nyrdi fan hyn, felly mae’n debyg ddylswn i stopio.
Jyst i ddeud eto: deinosoriaid. Dyna’r oll.
Cerdyn yr estyniad
Vicious Fledgling
Knights of the Frozen Throne
Estyniad gwych arall, oedd yn rhoi’r cyfle i chi droi yn fersiynau rhewllyd, sombiaidd o’r prif gymeriadau.
Mae rhywun wedi bod yn gwylio gormod o Game of Thrones.
Ond ta waeth. Dyma estyniad sydd wedi mynd a dod yn eithriadol o llyfn – dim cardiau gor-bwerus, a chyfle teg i bob steil o chwarae ffynnu. Er fy nghariad tuag at y gêm, mae’n rhaid cyfadde nad ydi dylunwyr Hearthstone yn cael pethau’n iawn bob tro. Ond tro ‘ma, roedd popeth i’w weld yn gweithio’n syth allan o’r giât, a’r ffans ar y we i’w gweld yn hapus.
Wel. Mor hapus ag y gallai ffans ar y we fod.
Hefyd, Knights of the Frozen Throne oedd yr estyniad llawn cynta i gynnwys ymgyrch i un chwaraewr hefyd, fel yr hen anturiaethau ‘stalwm. Roddodd o ddim y byd ar dân, ond roedd o’n ragflas bach neis o be oedd i ddod…
O. Ac roedd ‘na hyd yn oed rap arall.
Cerdyn yr estyniad
Ultimate Infestation
Kobolds and Catacombs
Mae Hearthstone a Warcraft wastad wedi ei ddylanwadu gan fawrion ffantasi, o Tolkien i GoT. Roedd y penderfyniad, felly, i wneud estyniad wedi ei ysbrydoli gan Dungeons & Dragons yn un braidd yn od. Ar y cyfan, mae Kobolds and Catacombs yn teimlo’n eitha generic, a ddim yn gwneud y mwyaf o’r syniad.
Ond mae’r peth mawr gafodd ei gyflwyno yma mor arbennig, fe allwn ni faddau hynny’n llwyr.
Fe wnaeth yr estyniad yma ychwanegu’r “Dungeon Run” – ffordd o chwarae Hearthstone, i un chwaraewr, sydd fwy neu lai yn teimlo fel gêm hollol newydd. Yma, fe fyddwch chi’n gorfod brwydro drwy wyth o fosys – allan o 42 (!) o rai posib – yn dechrau efo dec pitw o ddeg o gardiau, yn ychwanegu ato fo ar ôl trechu bob bos, ac yn defnyddio rhai cardiau arbennig sydd ddim i’w cael yn y prif gêm. Mae o’n briliant, ddim yn costio ceiniog, a ddim yn dibynnu ar eich casgliad o gardiau i chwarae. Fe allwch chi lwytho’r gêm am y tro cynta, neidio’n syth i mewn i hwn, a chael dyddiau – wythnosau – o hwyl.
Fyswn i’n argymell y Dungeon Run i bawb. Mae’n gyflwyniad perffaith i’r pethau gwallgo all ddigwydd yn Hearthstone, ac yn cyffroi rhywun am be ddaw nesa.
Cerdyn yr estyniad
Corridor Creeper
Mae ‘na waith i’w wneud ar Hearthstone eto. Does ‘na dal ddim cweit digon o ffyrdd o chwarae, efo rhai o’r ffyrdd llai poblogaidd – Arena, Tavern Brawl – fwy neu lai yn cael eu hanwybyddu gan Blizzard.
Er bod mesurau wedi eu cymryd i wneud y profiad yn brafiach i chwaraewyr newydd – gewch chi lot llai o gopïau o gardiau bellach, er enghraifft – mae’n dal i fod yn anodd dal i fyny efo 400 o gardiau bob blwyddyn, hyd yn oed os ‘dach chi’n chwarae’n aml. Mae’r dylunwyr yn gwybod bod bod eu gêm nhw ymysg y mwya’ poblogaidd yn y byd, felly’n llai tebyg o roi gwobrau i chwaraewyr er mwyn eu cadw nhw’n hapus. Mae’n rhaid i hynny newid.
Ond ar y cyfan, mae’n gêm sy’n parhau i wella, ac newydd brofi’r flwyddyn orau erioed. Os oes awydd mymryn o Hearthstone arnoch chi, fe fyddwn i’n dechrau chwarae’r Dungeon Run cyn gynted ag y gallwch chi, a pharatoi eich hun ar gyfer y gwanwyn, pan fydd popeth yn newid. Eto.
A fi? Wel, dwi wedi bod yn chwarae am bedair mlynedd bellach. Peth gwirion fyddai stopio rŵan…