gan Daf Prys, Elidir Jones, a Joe Hill
2018, eh? Phwoaaar. ‘Na chi flwyddyn. Eh? Phwoaaar. Mowredd. Phwoaaar.
‘Di’r flwyddyn prin ‘di dechra eto, Daf.
Phwoaaar. Ond y gemau, ddyn. Y gemau. PHWOAAAR.
Meddwl ddylsen ni adael e gŵlio lawr am sbel, Elidir?
Aye. OK, Joe.
PHWOAAAR.
Rhestr o gemau mwya’r flwyddyn?
Rhestr o gemau mwya’r flwyddyn.
PHWOAAAR.
Monster Hunter: World
PC, PS4, Xbox One | Ionawr 26
PHWOAAAR.
Ahem. Sori.
Dim syniad beth i neud o hwn efe, ond am y ffaith mod i’n cal y tingles wrth feddwl am gloddio oriau di-ri efo fy ‘sgwod’ (ydw i’n cael dweud hwnna?) fewn i droi ynys hyfryd yn anialwch gan herwgipio anifeiliaid oll yn erbyn ei ewyllys. F**k you anifeiliad!
Daf. Iaith.
You f**kin wot?
Shadow of the Colossus
PS4 | Chwefror 6
Dwi ‘di gorffen y gêm yma’n barod ar y PS2 gwreiddiol yn 2005, ac hefyd ar y PS3 rhyw chwech neu saith mlynedd yn ddiweddarach. Dwi’n edrych ‘mlaen i ail-fyw’r gêm hynod yma efo graphics newydd sgleiniog, efo’r siwrne emosiynol yn apelio mwyaf. Mae jysd angen i mi orffen The Last Guardian, hefyd gan Team Ico, gynta…
Kingdom Come: Deliverance
PC, PS4, Xbox One | Chwefror 13
Y cyntaf o chwech – chwech! – o gemau oedd ar ein rhestr flwyddyn diwetha, ac sydd dal ddim wedi ffeindio eu ffordd ar y silffoedd. Ond o’r diwedd, mae Kingdom Come bron yma. Bron.
Gêm chwarae rôl canoloesol, efo’r pwyslais ar realaeth. Dim o’ch nonsens Orcs a Goblins fan hyn. Naci wir. O’r diwedd, fe allech chi fyw fel y gwerinwyr tlawd o Monty Python and the Holy Grail.
Fydd o’n fwy hwyl nac mae hynny’n swnio. Gobeithio.
Secret of Mana
PC, PS4, Vita | Chwefror 15
Ff*c ie!
O, mam bach…
Lyfio JRPGs, a cofio profi hwn pan o’n i tua 14. Rock on 24 years! Yrm. Iei?
Sea of Thieves
PC, Xbox One | Mawrth 20
Pwy bynnag sydd ddim eisiau môr-ladrata, rhowch eich llaw fyny.
Pawb sydd efo llaw fyny yn cael gadael yr erthygl yma yn syth bin. Isht! Wishgit! Ceroma!
F**k right off!
Gêm cydweithio lladrata ar y moroedd gwyllt. Gêm sydd siwr o fod am neud i fi brynu Xbox. Iyp. That big of a deal.
Ni No Kuni II: Revenant Kingdom
PC, PS4 | Mawrth 23
Nes i ff***n lyfio Ni No Kuni. Gwelediad Studio Ghibli, gwneuthuriad gêm gan Level 5, cymeriadau gwych (gan gynnwys yr acen Gymreig fwya ers y Windsor Davies convention dwetha). Jysd plis, mwy o’r un peth. ‘Sneb yn hoffi newid.
Far Cry 5
PC, PS4, Xbox One | Mawrth 27
Dyma’r gem diweddaraf yng nghyfres Ubisoft, ac mae’n braf gweld yr antur yn dod i ganol yr Unol Daleithiau yn hytrach na gwlad efo arweinydd sydd angen ei glodfori bob eiliad drwy bropaganda a…
… o, wel.
Tro hyn, byddwn yn helpu pobl Hope County, Montana ddianc o grafangau cult Eden’s Gate (tebyg iawn i brofiadau Daf yn ddiweddar yn Seattle…) ac mae ‘na sôn y gallwn chware’r holl gêm mewn modd “co-op” efo ffrind – noswaith perffaith i griw f8!
We Happy Few
PC, PS4, Xbox One | Ebrill 13
Dyma gêm ddiddorol wedi’i seilio yn y 60au, ond yn dilyn Ail Ryfel Byd sydd wedi llusgo ymlaen am dipyn hirach nac y gwnaeth o yn ein byd ni. Mae cymdeithas ar fin chwalu, ac mae pawb yn cymryd y cyffur “Joy” i anghofio’u holl problemau. Nôd y gêm yw helpu eich cymeriad gofio beth oedd yn bwysig iddyn nhw, tra’n osgoi pawb arall. Mae’r elfennau roguelike yn olygu na fydd profiadau dau chwaraewr yn union yr un peth.
A dyna ni’r gemau sydd â dyddiad rhyddhau pendant. Ymlaen at y rhai sy’n dod allan… wel… rhywdro yn 2018.
Faint fydd ddim allan erbyn flwyddyn nesa, sgwn i?
O, c’mon. ‘Dan ni’n well na hynny.
Anthem
PC, PS4, Xbox One
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i…. O, na, nid yr anthem yna.
Siŵr bod hwn am ddod allan yn 2018, Joe?
Hisht. Dyma gêm saethu, sci-fi, co-op am arwyr pwerus sy’n amddifyn y ddynol ryw, ac yn cuddio yn y dinas olaf ar y ddaear. Efo loot. Swnio’n gyfarwydd?
PESWCH Destiny 2 PESWCH.
PESWCH PESWCH Destiny 2 PESWCH PESWCH PESWCH RIP-OFF PESWCH.
PESWCH. PESWCH PESWCH PESWCH. PESWCH. PESWCH PESWCH. F**inel. Sori.
Ahem. Ia. Jest gobeithio na fydd hwn yn llawn micro-transactions hefyd.
Bayonetta 3
Switch
Wele Bayonetta 3 – y diweddaraf yn y gyfres sydd wedi gwneud cartref bach od bellach ar gonsols Nintendo, wedi i Bayonetta 2 ymddangos ar y Wii U yn unig. Mwy fyth o brofiad chwarae llyfn, cicio ellyllon yn y gwyneb, a teimlo fel mymryn bach o byrfyn wrth wneud?
Go on ta.
Cyberpunk 2077
PC, PS4, Xbox One
Rŵan ta. Os ydi hwn yn dod allan flwyddyn yma, wna i fwyta fy het. Ac mae gen i ddiawl o het fawr.
A’i hwn yw’r het ti’n siarad trwyddo?
Ond mae Cyberpunk 2077 jest mor gyffrous. Epig chwarae-rôl ffug-wyddonol, gan yr un tîm roddodd The Witcher 3 at ei gilydd? Dwi ddim yn jocian pan dwi’n dweud y gall yr un yma fod ymysg y gemau gorau erioed.
Aaaaac mae’r cyfri Twitter swyddogol newydd ei ddiweddaru am y tro cynta ers dros bedair mlynedd. Well i fi nôl bach o halen a phupur ar gyfer yr het ‘na.
Darksiders 3
PC, PS4, Xbox One
Bu dwy gêm gyntaf y gyfres hyn yn dilyn brwydrau Rhyfel a Marwolaeth, dau o farchogion yr apocalips wrth iddyn nhw drio clirio’u enwau. Wedi i stiwdio Vigil Games gau fel rhan o chwalfa THQ, nid oedd llawer o obaith am fwy o’r gemau hack’n’slash yma. Yn ffodus, mae stiwdio Gunfire Games, sy’n cynnwys sawl un o’r hen griw Vigil, wedi’i ailgychwyn. Dyma stori Fury, chwaer Rhyfel a Marwolaeth, wrth iddi hela’r saith pechod.
Days Gone
PS4
Gan ddefnyddio ei enw arall, mae Denim Jacket Simulator yn gêm sy’n cyfuno estheteg The Last of Us efo profiad gêm agored The Witcher 3 (drools). Gêm ôl-apocalyptaidd efo ‘Freakers’ yn crwydro di ben draw – yn sicr heb ei ysbrydoli nac yn debyg i sombis mewn unrhyw ffordd.
Ta waeth: moto beics, traps, crossbows, bwyell, denim jackets ac yn y blaen. Trio gore fan hyn i beidio rhegu’n wyllt efo cyffro. Hnnnnngggg.
F**k a d**k!
God of War
PS4
Dyma’ wythfed yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau’r un o’r cymeriadau mwyaf blin yn hanes gemau fideo. Tro hyn, mae Kratos yn rhan o chwedlonaeth Norse, nid Groegaidd fel y saith gêm cyntaf. Bydd mab Kratos yn eich helpu yn y stori, sy hefyd yn cynnwys elfennau RPG ysgafn am y tro cynta’.
The Last of Us: Part II
PS4
Fe ennillodd y gêm wreiddiol ddigon o glod am ei stori a’i chrefft, ac mae’n esiampl wych o sut mae’r cyfrwng gemau fideo wedi aeddfedu. Mae’r pennod yma yn pigo lan y stori pum mlynedd yn ddiweddarach, a tro hyn fe fyddwn yn rheoli Ellie yn hytrach na Joel.
Metro: Exodus
PC, PS4, Xbox One
Ges i dipyn o flas ar chwarae rhai o’r hen gemau Metro ddwy flynedd yn ôl – gemau saethu person-cyntaf wedi eu lleoli mewn twneli sbwci o dan Rwsia ôl-apocalyptaidd. Rhywbeth bach i godi’r galon.
A bellach dyma Metro: Exodus ar y ffordd. Mwy o’r un peth, ond yn brydferthach. Weithia, does ‘na uffar o ddim byd yn bod efo hynny.
‘Sneb yn hoffi newid.
Metroid Prime 4
Switch
Mae Nintendo yn gwybod yn iawn sut i gyffroi rhywun. Yn ystod sioe E3 flwyddyn diwetha, fe ddangoson nhw drelyr byr iawn ar gyfer Metroid Prime 4 – gêm doedd neb yn ei ddisgwyl.
A pan dwi’n deud “trelyr byr”… doedd o ddim llawer mwy na’r rhif 4 ar sgrîn ddu.
Ond os – os – y daw hwn allan ar y Switch flwyddyn yma, mae’n anodd iawn meddwl am gêm fwy.
Wel… oni bai am…
“Project Octopath Traveler”
PC, PS4, Xbox One
Reit. Gawn ni’r amlwg allan o’r ffordd gynta. Na, nid dyna’r enw terfynol.
Gobeithio.
Ond weithia, does dim ots am enwau. Yn enwedig pan mae’ch gêm yn JRPG gwych yr olwg, yn cymysgu steils graffegol retro a modern, wedi ei ddylunio gan Square Enix – meistri’r genre, heb os nac oni bai.
Ond ia. Petase nhw’n digwydd newid yr enw ‘na, fyswn i ddim yn cwyno.
Red Dead Redemption 2
PS4, Xbox One
Roedd gêm byd-agored cyntaf Rockstar yn y gorllewin gwyllt yn gampwaith o ran stori, efo’r thema o obeithion yn cael eu chwalu yn aros yn hir yn ein cof (ac nid oherwydd iddo ein atgoffa o’n bywydau diflas, no siree). Tro hyn fe fyddwn yn chware rhan Arthur Morgan sy’n rhan o’r gang van der Linde. Allwn ni ddim aros am bach mwy o antur ar gefn ein ceffylau.
Shenmue 3
PC, PS4
Un arall oedd ar y rhestr flwyddyn diwetha. Ac yn y cyfamser, dwi ddim wedi dod llawer agosach at ddeall apêl Shenmue, nac wedi chwarae’r gemau gwreiddiol yn y gyfres. Yn bennaf achos bod Sega yn gwrthod eu hailryddhau.
Ond mae gan y gemau fyddin ffyddlon o ffans ar y we, sy’n dilyn datblygiad Shenmue 3 yn awchus. Ac os ‘dan ni wedi dysgu unrhyw beth dros yr ugain mlynedd diwetha, hyn ydi o: bod mobs ar y we byth yn anghywir.
Star Citizen
PC
Ma hwn ar rhestr fi bob blwyddyn. Na, rili, ewch i weld. Geith 2016/2017 fynd i ff***n grafu. A 2018.
State of Decay 2
PC, Xbox One
Gan bod fi’n cal ff***n Xbox nawr man a man i fi bigo fyny State of Decay 2. Gem, yrm, ôl-apocalyptaidd, efo, yrm, sombis.
‘Nice one Daf. Mr Original.’
Total War Saga: Thrones of Britannia
PC
Motsh am y nonsens Rhufain yn brwydro Carthage, Lloegr a Ffrainc ar faes y gâd (ymysg rhyfelau hanesyddol epic eraill). Be mae pawb eisiau yw profi gêm lle ma Seisilwig yn gallu twatio Gwined reit yn y tshops. REIT YN Y TSHOPS!
‘You f**kin wot?’, chi’n dweud. Gêm ryfela wedi ei leoli ym Mhrydain hanner ffordd drwy’r mileniwm cynta (pawb yn gwbod taw honna oedd y mileniwm gorau).
Seisilwig yw Ceredigion wrth gwrs.
(Gwined yw ff***n gogs.)
Wargroove
PC, Xbox One, Switch
Ac yn ola, gêm fach gyffrous sydd ella wedi llithro dan y radar i ambell un.
Allan o holl gyfresi Nintendo, Advance Wars ydi’r un sydd efallai wedi ei hanwybyddu fwyaf yn ddiweddar. Mae’n ddeng mlynedd ers yr un diwetha ymddangos, a does ‘na ddim golwg o un arall ar y ffordd.
Ond oho. Wele’r cwmni Prydeinig Chucklefish, sydd wedi datblygu Wargroove.Advance Wars mewn popeth ond enw, efo côt o baent ffantasi, ac i’w rhyddhau nid yn unig ar y Switch, ond ar y PC a’r Xbox One hefyd.
Dim esgus felly.
Dim. Esgus.
A dyna ni. Yr unig beth ar ôl nawr yw… erm… eu chwarae nhw.
Wna i nôl y Doritos. Joe, ti ar y Mountain Dew.
Got it.
Blwyddyn newydd f***in dda, dyfe.