Dyfodol gemau fideo yng Nghymru

Mae blwyddyn wedi bod ers i Dafydd Prys ymfudo i ardal Seattle yn yr Unol Dalaethiau er mwyn cydweithio efo timau a chwmniau er mwyn datblygu gem fideo wedi seilio ar y Mabinogi. Bellach wedi dychwelyd i Gymru er mwyn cychwyn ail rhan o’r broses i adeiladu gem fideo y Mabinogi, sef adeiladu y gem a chodi arian. Mae ganddo ambell beth i ddweud am ei brofiad.
(See the English version here.)

‘Dwi’n sgwennu hwn prin 12 awr wedi disgyn o’r awyren, ac ar ol taith arteithiol tren o Lundain i Aberystwyth felly mae pethau dipyn yn ffaeth yma. Ond ‘dwi am neidio iddi yn sydyn a nodi fan hyn beth ‘dwi wedi dysgu, a beth sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i gemau fideo yng Nghymru, yn enwedig mewn cyd-destun elfennau Cymreig.

Adnoddau: mae angen pobl

Hen bryd i ni ddechrau dysgu ‘coding’ fel sgil yn gynharach mewn addysg ein disgyblion ifanc. Mae tueddiad o hyd o fewn ein ysgolion, yn enwedig yr ysgolion ddwy-ieithog, i bwysleisio pynciau academaidd fwy traddodiadol. Mae rhain yn bwysig wrth gwrs, ond oes angen i bawb ganolbwynto arnynt? Mae sawl elfen i greu gem fideo: celf, cerddoriaeth a.y.y.b., ond mae ymwybyddiaeth cod yn bwysig iawn.

Gweledigaeth: derbyniant diwydiant gemau fideo

Tra bod digon o unigolion yn yr UDA yn meddwl fod gemau cyfrifiadur yn wast amser mae canran uchel iawn wedi ei derbyn fel rhan annatod o’i cymdeithas. Mae gemau fideo yn cael ei brofi gan dros 80% o boblogaeth yr UDA, dros ystod eang o oedrannau, ac am rhesymau cyffredinol. Mae wir angen deffro i’r diwydiant gemau fideo yma yng Nghymru, hyd yn oed os taw Bardd Simulator fydd hi bob blwyddyn.

Hyder: mynd ati

Mae’n ddigon bosib fod pobl yn fy ngweld fel ‘the bot [sic] that cried wolf’, yn paldaruo mlaen am gemau fideo o hyd, mwydro digon ond dim byd yn dod ohoni (hyd yn hyn). Ond mae gen i ffydd a hyder yn fy mhrosiect. Mae angen mwy o hyn, os ‘dwi’n dweud fy hun. Credwch neu beidio, mae gan bobloedd y byd ddiddordeb mewn pob math o straeon heb angen i ni fod yn ‘little old Wales’. A peidiwch gadael i unrhywun ddweud ffordd arall i chi!

Arian: mae angen arian i neud arian

Mae creu gemau yn ddrud ond, gesiwch beth, mae modd gwneud llawer o arian wrth werthu y cynnyrch. Does dim byd yn bod efo cyfalafiaeth pan fod nod y prosiect yn dryw i’r gymuned, a bod elw yn sbarduno’r prosiect nesaf. Mae arian da i’w wneud mewn gemau fideo bobl. Yn enwedig fy un i. Felly bydd kickstarter yn cychwyn cyn bo hir.

Ymwybyddiaeth: ‘Are you Scottish?’

Er mwyn byw bobl, ewch allan yna a dwedwch wrth bawb eich stori! Wnes i ddim cyfri sawl tro wnes i ddweud ‘there’s one more country you haven’t mentioned‘ pan yn ateb gwynebau ymholgar am fy acen (a diawl ma nhw’n gofyn!) ond petawn wedi… Peidiwch a gadael i bobl fod yn anwybodus: addysgwch, sgwrsiwch, mwynhewch. Mae’n bosib fod miloedd o Americanwyr bellach yn deall mwy am Gymru oherwydd un Cymro brwdfrydig yn byw yn Seattle.

Fe ges hwyl a sbri yn Seattle, ond mi oedd lot o waith caled ac annisgwyl mewn gweithio efo cwmniau a thimoedd datblygu gemau fideo (a bwrdd). Mae’n waith ddi-ddiolch, yr oriau yn hir yn syllu ar sgrin cyfrifiadur ac elfen ansefydlog i’r gwaith. Ond, mae’n werth pob ymdrech gan feddwl y gwahaniaeth medr gem fideo am ein hanes ac ein mytholeg gael ar ein lle yn y byd.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s