gan Daf Prys
Ah, Ionawr, y mis ble mae’r gemau gofidus yn ymddangos, y gemau ddaru osgoi Tachwedd a Rhagfyr er mwyn cuddio rhag y ‘big boyz’, ac ydw, dwi wedi defnyddio ‘z’ er mwyn wmff. Dyma rhestr o gemau sy’n dod allan wythnos 22 Ionawr.
The Inpatient: PS4 VR
Arswyd mewn VR, felly niche mewn niche. Os ‘da chi’n gofyn i mi, mae arswyd ar ei hun yn ormod heb sôn am strapio fo ar eich pen, ond mae digon allan yna efo diddordeb mewn sgrechian yn uchel.
Lost Spere: PS4, NS, PC
RPGS (RPG o Siapan), edrych yn hyfryd, olynydd i I am Setsuna (oedd yn bril), rhywbeth i’r aficionados sy’n awchu am y profiad cyntaf anturiaethu 2018.
Celeste: PS4, X1, NS, PC
Mae pob Cymro wedi bod ar ben rhyw fynydd felly beth am gem amdani? Gem retro (hen ffasiwn mewn modd dda) am ddringo mynydd. Profiad gem platfform efo cerddoriaeth 8-bit. Dim byd o’i le hyd yn hyn!
Dragon Ball Fighterz: PS4, X1, PC
Z! Dyna pam nes i ddefnyddio ‘z’ gynnau, neud i popeth edrych yn snazzy. Z eto! Gem ymladd o’r gyfres hir wyntog. Tybiwn i bod y rheiny sydd am brofi hon ddim angen ei weld ar y rhestr yma.
Monster Hunter: World: PS4, X1 (PC i ddod)
Gem fawr yr wythnos. Wedi bod yn llwyddianus tu hwnt ar y PS Vita (yn Siapan) gan ddod a commuters oll at ei gilydd er mwyn brwdro bwystfilod mewn timau arlein. Y gobaith yw bydd yr un diddodeb gan bobl wneud ar consôlau.
Railway Empire: PS4, X1, PC
Creu rheilffyrdd ar draws yr UDA, rheoli adnoddau a.y.y.b. – ‘da chi’n gwybod sut mae’r pethau yma yn mynd. Wedi profi llwybr Llundain in Aberystwyth yn ddiweddar ‘dwi’n oce heb hwn yn fy mywyd am nawr…
Gadewch i ni wybod @fideowyth neu ar facebook neu yn y blychau islaw os am brofi un o rhain, a peidiwch a bod yn swil os da chi’n care trenau! Twwt twwwwwwt!