Alto’s Adventure: gem ffôn yn Gymraeg

Hywel Llyr Jenkins yn profi gem newydd drwy’r Gymraeg ar ei ffôn symudol, be nesa dudwch? Llyfrau yn Norwyeg? Siapaneg mewn ffilmiau? Pffff…

alto2 copy

Alto’s Adventure: iOS, Android, Microsoft Windows, Linux, Kindle Fire

Dychmygwch harddwch a llonyddwch y wawr yn yr Alpau wrth i natur a’r tywydd newid lliwiau’r byd o’ch cwmpas. Adiwch i hwn anturiaeth eirafyrddio llawn adrenalin ac mae gyda chi syniad o beth sydd o’ch blaen. Mae gwneuthurwyr Alto’s Adventure wedi stopio ar ddim i gyfleu harddwch y dirwedd fynyddig, mae’r graffeg yn gelfwaith yn ei hun.

Does dim llawer newydd yn syniad y gêm ei hun, sy’n atgoffa fi o ambell gêm BMX o’r ’90au cynnar, lle mae’n bosib ennill pwyntiau am driciau a chyfuniad o driciau, ond mae hyn yn enghraifft o’r math yna o gêm sydd wedi ei wneud i’r safon ucha. Does dim allwch wneud ond edmygu’r sylw craff sydd wedi mynd mewn i bob rhan o’r profiad chwarae.

Bydd digon o gyfle ‘da chi i edmygu’r gwaith, gan fod hwn yn gêm sy’n mynd i’ch denu yn ôl ati droeon o weithiau. Mae tasgau gwahanol i bob lefel yn ddigon i apelio i’r mwyaf cystadleuol ohonom gydag ystadegau di-ri i geisio curo ar eich ymgais nesaf, neu i gymharu gyda ffrind. Sawl lama gallwch chi heidio mewn un rhediad? Sawl trosben triphlyg gallwch wneud? Mae cryfderau gwahanol gyda’r cymeriadau amrywiol gallwch chi ddatgloi wrth gasglu pwyntiau. Mae pethau’n anoddach wrth i henaduriaid y mynyddoedd gwrso chi gan ei fod yn dipyn o her i ddianc.

63b9e780-24fc-456d-8ae2-a9615bb3368d

I’r llai cystadleuol mae’r cynhyrchwyr wedi adio rhan ‘zen’ er mwyn i chi eistedd nôl ymlacio gyda’r miwsig atmosfferig a’ch tywys i ffwrdd am brofiad synfyfyriol o lithro’n ddidrafferth drwy goedwigoedd a phentrefi hardd yr Alpau. Ahhhh hyfryd……perffaith i adnewyddu’r enaid mwyaf blinedig.

Mae Alto’s Adventure ar gael mewn 19 o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg. Synnwch chi ddim i glywed fod hyn wedi ei wneud i ansawdd mor dda â gweddill y rhaglen. Ewch ati.

Hywel LLyr Jenkins

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s