Gemau Diweddar, Rhan 17

gan Elidir Jones

Amser, unwaith eto, i gymryd golwg ar y gemau sydd wedi eu gorffen gen i dros y misoedd diwetha, a’u taflu ymaith, er mwyn gwneud lle i fwy. Mwy. Wastad mwy.

Dydi o ddim yn gorffen. Dydi o jest ddim yn gorffen.

Sine Mora EX (PC / PS4 / Xbox One / Switch, 2017)

Fersiwn newydd o gêm saethu shmup o 2012, sydd bellach ar gael ar fwy neu lai bob system modern.

Sine Mora EX oedd fy uchafbwynt o sioe EGX Rezzed flwyddyn yma. Roedd yn gêm berffaith i’w chwarae mewn digwyddiad o’r fath, dros gyfnod byr. Mewn cyfnod dipyn hirach, serch hynny, mae ambell wendid yn dod i’r amlwg.

Mae’r stori a’r deialog – pwy sydd angen stori mewn gêm fel’ma, ta waeth? – braidd yn pants. Y lefel o galetwch dros y top ar adegau, a’r teimlad o golli’r holl welliannau i’ch awyren fach wrth farw yn gwbwl rwystredig.

Fel arall, mae’n efelychu hen fformat yn ddigon teidi, er nad oes ‘na unrhyw beth newydd yma, mewn gwirionedd. Gêm grefftus, heb fod yn gyffrous.

Everybody’s Golf (PS4, 2017)

Dyna welliant.

Dwi wedi sôn o’r blaen am fy hoffter anesboniadwy tuag at gemau golff, ac wedi aros mor hir am un gwerth chweil.

Dwi’n falch o ddweud nad oedd Everybody’s Golf yn siomi. Ar y cyfan.

Does ‘na ddim digon o gyrsiau, mae’n wir, a rheini’n cael eu datgloi’n lot rhy ara deg. Mae ‘na steil anime sydd yn debyg o droi ambell un i ffwrdd, os nad ydych chi wir yn hoff o’r math yna o beth. Ond fel arall, dyma well gêm o golff na chwaraeodd Tiger Woods erioed.

Yr allwedd yma ydi’r system RPG ysgafn sy’n gwella eich clybiau a’ch cymeriad wrth i chi fynd ymlaen, ac yn gwneud i chi deimlo nag oes moment yn cael ei wastio. Hyd yn oed pan ‘dach chi’n chwarae’r un hen gyrsiau am y canfed gwaith.

A prin wnes i gyffwrdd y rhannau aml-chwaraewr o’r gêm, lle mae Everybody’s Golf – yn ôl pob sôn – yn disgleirio go-iawn. Hanfodol i unrhyw ffan o’r genre.

Destiny 2 (PC / PS4 / Xbox One, 2017)

Mae mwy o gwyno wedi bod am Destiny 2 nac am unrhyw gêm arall llynedd, fwy na thebyg (oni bai am Battlefront 2, wrth gwrs). O’m rhan i, wnes i eitha mwynhau’r profiad, er y ffaith – neu ella oherwydd y ffaith – fy mod i wedi ei chwarae yn y ffordd hollol anghywir.

Fe chwaraeais i drwy’r rhan fwya o’r peth yn solo. Nid be ‘dach chi i fod i’w wneud mewn gêm gymdeithasol fel hon. Ro’n i’n chwarae dros gyfnodau byr. Dim sesiynau hir, yn cymryd rhan mewn raids ac yn gwylio pwerau fy nghymeriadau yn ticio i fyny. Wnes i chwarae’r Destiny 2 – gêm mae lot o bobol yn ei gymryd o ddifri – yn achlysurol, ac yn ffwrdd-â-hi.

Felly pan roedd cwynion am y gêm – a’r ymddiheuriadau roedd yn dod ar eu holau nhw – yn rhoi’r we ar dân, do’n i ddim wir yn malio. Be oedd yn bwysig i fi oedd yr hanner awr fach ro’n i’n ei gael ar ôl brecwast, yn rhedeg rownd y lle efo fy nghymeriad bach pitw, yn saethu aliens yn y pennau ac yn eu gwylio nhw’n ffrwydro.

Does ‘na ddim gêm yn gwneud hynny’n well na Destiny 2. Dyna rhywbeth all neb ddadlau efo fo.

Super Mario Odyssey (Switch, 2017)

Fy newis personol i ar gyfer gêm y flwyddyn, ac un o’r gemau – ynghŷd â Breath of the Wild – sydd nid yn unig wedi rhoi’r Switch ar y map, ond wedi llosgi twll enfawr yn y map, gan roi’r ystafell fapiau i gyd ar dân.

Sori. Y metaffor yna wedi mynd allan o reolaeth, braidd.

Mae ‘na ddigon wedi ei ysgrifennu ar Mario Odyssey – gan gynnwys fan hyn, ar Fideo Wyth. Wna i ddim adio gormod ato fo. Dim ond dweud ei fod o ymysg y gemau Mario gorau erioed – ac yn sicr yn un o’r mwyaf. Dwi wedi gweld y credydau’n rowlio, ond ddim hanner ffordd drwy’r profiad eto. Mae ‘na fwy i ddod am Mario Odyssey eto ar Fideo Wyth, siŵr o fod. A fydd o ddim jest yn restr o luniau o Mario yn ei drôns. Gaddo.

2017103010045900-8AEDFF741E2D23FBED39474178692DAF-615x346

Gaddo gaddo.

Sonic Mania (PC / PS4 / Xbox One / Switch, 2017)

Y gêm Sonic gora ers Sonic 3. (Nid bod hynny’n dweud lot.)

Y peth gora am Sonic Mania ydi bod y gêm yn cadw pethau’n syml. Mae’n 2D, yn un peth. Yn serennu’r triawd sanctaidd – Sonic, Tails, a Knuckles – a ddim yn ychwanegu unrhyw gymeriadau rybish eraill. Yn cynnwys rhai o lefelau gorau’r gyfres (Chemical Plant Zone! Ies!), ond yn eu diweddaru a / neu yn rhoi ryw sbin newydd arnyn nhw.

Fel lot o gemau Sonic, mae’n mynd yn rhwystredig o anodd erbyn y diwedd. Does ‘na ddim teimlad llawer gwaeth na gorfod cychwyn set o lefelau o’r cychwyn ar ôl colli i’r bos. Geith Titanic Monarch Zone fynd i grafu.

Ond ar y cyfan, dyma’r union fath o gêm Sonic ddylai Sega fod yn ei gynhyrchu. Petasen nhw ddim wedi sbwylio pethau efo Sonic Forcesrai misoedd wedyn…

Splatoon 2 (Switch, 2017)

Mae rhestr hirfaith y Switch o gemau bril yn ymestyn efo Splatoon 2. Dyma gêm sydd ddim yn gwneud llawer yn wahanol i’r Splatoon cynta – ond roedd hwnna’n brofiad gwych, wnaeth ddim digon o bobol ei chwarae. O’r lobïau llawn dop ar y Switch, mae’n deg dweud nad ydi hynny’n broblem bellach.

Yr unig ychwanegiad mawr, deud y gwir, ydi’r Salmon Run – ffordd newydd o chwarae lle fydd criw o bedwar yn gweithio efo’i gilydd i drechu ar ôl ton o elynion ciwt Nintendo-aidd, yn sblasho paent lliwgar dros y lle, wili-nili, fel rhaglen CITV i blant o’r 90au cynnar, ac yn ennill offer arbennig am wneud.

Mae’n ffordd neis o dynnu sylw am awr fach, a’r profiad i un chwaraewr yn ddigon i lyncu tua 8 – 10 awr ar ben hynny. Ond y profiad craidd, aml-chwaraewr, ydi’r prif atyniad fan hyn. Mae o mor hwyl ag erioed i redeg a llithro rownd y meysydd brwydro, sgwyrtio’ch gelynion efo inc (wir, os oes unrhyw gêm yn cystadlu efo Destiny 2 o ran saethu petha yn y gwyneb, dyma hi), a datgloi arfau a dillad i wneud eich cymeriad mor “ffresh” â phosib.

Dyma gêm brin sydd gymaint o hwyl i blant ac ydi o i oedolion, yn chwistrellu hwyl pur yn syth i mewn i’ch llygaid fel gwn paent yn nwylo hanner-dyn, hanner-sgwid.

splatoon2_review3

Os na ‘dach chi wedi chwarae Splatoon, fydd hynny ddim yn gwneud unrhyw sens o gwbwl. Jest gwnewch, da chitha.

One comment

  1. Oedd Sonic Mania yn ffab. Fel bod yn 14 eto a llawn Easter Eggs i atgoffa fi! ond Chemical Plant? Ych a fi! Wi’n casau y lle – mae’n rhoi i fi flashbacks am foddi yn y stwff pinc cas ‘ma! Y blydi lle yn Forces eto! Pan mae pawb yn ei hoffi??? Argh!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s