gan Elidir Jones
Dwi’n casau golff.
Dwi’n casau popeth amdano fo. Y snobyddrwydd, yr agweddau hen-ffasiwn sy’n frith yn y gêm, cost yr holl beth… mae’r ffaith bod Donald Trump yn ffan yn dweud y cyfan. Nid ‘mod i isio gor-ddweud, ond os ‘da chi’n golffiwr, ‘da chi’n ddim iws i neb, a ddylsech chi gymryd golwg go-iawn arnoch chi’ch hun yn y drych.
Gemau golff, ar y llaw arall… os ‘da chi’n ffan ohonyn nhw, gawn ni fod yn ffrindiau.
Alla i ddim cweit esbonio’r peth. Alla i ddim cweit esbonio pam fy mod i’n ffeindio’r weithred o chwarae golff ar gyfrifiadur neu gonsol mor hwyl. Yn enwedig pan dydi’r fformiwla ddim wir wedi newid mewn degawdau. Ar ei symlaf, ‘da chi’n pwyso un botwm i gychwyn eich shot, un i ddewis y cryfder, ac un arall i fod mor fanwl â phosib. Dyna ni.
Ond mae’r weithred yna’n medru llyncu oriau, coeliwch chi fi, wrth i chi feistroli bob un twll a chornel o’r llond llaw o gyrsiau sy’n llenwi pob gêm. Fel rhywun sy’n hoff o gemau ara deg, mae’r profiad fel manna o’r nefoedd.
Wnaeth yr holl beth ddechrau efo PGA Tour Golf ar y Sega Game Gear. Does gen i ddim syniad pam wnes i ddewis y gêm yna dros bob un arall yn y byd, ond dyma fi’r Elidir bach yn ffeindio ei hun yn ei chwarae’n ddi-baid, yn dysgu geiriau newydd fel ‘dogleg’ a ‘bogey’ (er fy mod i’n ddigon cyfarwydd efo ystyr arall y gair, wrth gwrs…). Mae’n edrych yn chwerthinllyd o syml erbyn hyn, ond dyma oedd dechrau carwriaeth hir.
Dyna glasuron eraill wedyn fel Mario Golf: Toadstool Tour ar y Gamecube. Lot mwy ffantasïol, mae’n wir, ond fedrwch chi ychwanegu Mario at unrhywbeth, fel ‘da ni wedi ei brofi’n ddiweddar. Wnes i erioed orffen hwn, achos fel y mwyafrif llethol o gemau Mario, mae’r diweddglo’n wirion o anodd. Ond sut allech chi wrthod y fath rialtwch?
Tiger Woods PGA Tour 10 oedd nesa, ar y Nintendo Wii. Profiad mymryn yn wahanol, wrth i fi orfod chwifio’r Wiimote o gwmpas yn hytrach na phwyso botymau. Ond o’r holl gemau ar y Wii, ella wir mai dyma’r un oedd yn siwtio’r system reoli orau. Dyma oedd y gêm golff cynta, hefyd, i weithio efo’r Wii MotionPlus, yn gwneud eich symudiadau’n llawer mwy manwl. Wnes i dreulio gymaint o amser yn sefyll yn fy stafell fyw yn chwifio ffon golff dychmygol o gwmpas, yn teimlo fatha rêl boi. Tan i rywun arall gerdded mewn, a gwneud i fi deimlo fatha rêl idiyt.
Mae ‘na ambell un rybish wedi bod, hefyd. Wnawn ni ddim sôn am The Golf Club ar y PS4. Ac i fod yn onest, mae’r genhedlaeth yma wedi bod braidd yn rybish yn gyffredinol pan mae’n dod at gemau golff. Tan rŵan.
Mae’r wythnos yma wedi gweld rhyddhau Everybody’s Golf – y diweddaraf yn y gyfres hir o gemau Playstation sy’n edrych fel ei fod am wneud gemau golff yn grêt eto. Dim ond chydig o oriau o chwarae dwi wedi ei gael hyd yn hyn, ond fedra i weld yn barod bod y gêm am sugno dyddiau.
Yr hwc mawr tro ‘ma ydi system ddofn o lefelu eich cymeriad, sy’n gwneud i Everybody’s Golf deimlo mwy fel gêm chwarae rôl nac un chwaraeon ffwrdd-â-hi. Rhwng hynny a llond y lle o offer ac opsiynau i chwarae efo nhw, yn ogystal â llwythi o ddewisiadau pan mae’n dod at chwarae ar-lein, ac fedra i ddim disgwyl tan cael deifio ymhellach i mewn i’r gêm. Dwi wedi disgwyl digon.
Oes unrhyw gemau golff sydd wedi sefyll allan i chi dros y blynyddoedd? Ta ydi o’n wâst mwy o amser mewn gêm fideo nac ydi o mewn bywyd go-iawn? Trafodwch yn y sylwadau, da chithau. Ac os ddim, wela i chi ar y lincs.
‘Lincs’. Ydi hwnna’n air? ‘Lincs’? Dim math o syniad.
[…] wedi sôn o’r blaen am fy hoffter anesboniadwy tuag at gemau golff, ac wedi aros mor hir am un gwerth […]