Chwarae efo Cariad

gan Elidir Jones

Mae chwarae gemau, yn ôl pob stereoteip dan haul, yn orchwyl digon unig. ‘Da ni gyd yn ymwybodol iawn o’r delweddau poblogaidd – yr hogyn tew, chwyslyd, mewn crys T kooky sy’n rhy fach iddo fo, yn eistedd mewn selar damp yn gweiddi rhegfeydd i mewn i headset drwy’r dydd a’r nos.

Y… dwi ddim yn siarad o brofiad fanna. Nac ydw wir.

Ond be sy’n digwydd pan mae’r amhosib yn digwydd, ac mae’r chwaraewr gemau yn – dychmygwch y peth – dod o hyd i gariad? A be sy’n digwydd wedyn pan mae’r cariad yna yn cael ei gyflwyno / chyflwyno i fyd myrci gemau fideo, a’r degawdau o hanes sydd ‘na i sortio drwyddo fo bellach? Lle yn y byd mae dechrau?

Gadewch i ni gamu i’r adwy unwaith eto. Dyma rai – jest rhai! – o’r gemau gwych allech chi chwarae efo’ch hanner arall, pwy bynnag ydyn nhw.

Gemau Telltale

Y peth arferol i’w wneud heddiw, medden nhw, ydi snyglo efo’ch cariad ar y soffa a gwylio box set, boed ar Blu-Ray, DVD, VHS, neu – *poeri!* – yn ddigidol. Ond mae “Netflix and chill” mor passe bellach. Be tyswn i’n dweud wrthych chi ei bod hi’n bosib cael yn union yr un profiad, ond un y medrwch chi ei chwarae?

Am flynyddoedd bellach, mae cwmni Telltale wedi bod yn cynhyrchu gemau antur o safon, sydd fwy neu lai fel gwylio dramâu ar y teledu, ond eich bod chi’n gwneud y penderfyniadau i gyd. Perffaith i unrhyw un sydd erioed wedi gwylio ffilm arswyd, a thaeru y bydden nhw ddim mor wirion â mynd i lawr i’r selar. Rŵan gewch chi’r siawns i brofi yn union pa mor wirion ydych chi.

Mae ‘na ddigon o ddewis o gemau. Game of Thrones, yn dilyn set newydd o gymeriadau, ar draws stori sy’n rhedeg yn baralel i’r gyfres deledu. The Wolf Among Us, gêm am werewolves yn seiliedig ar gyfres o gomics, efo dilyniant ar y ffordd. Neu’r dadi – y gemau The Walking Dead, sy’n llwyddo i fod yn llawer, llawer gwell na’r comics a’r gyfres deledu ill dau.

The-Walking-Dead-A-New-Frontier-Telltale-Games

Oriau o ddiddanwch yn dadlau dros fai pwy ydi o bod popeth yn y gêm wedi mynd yn hollol, hollol Horlics. Be well?

Super Mario Galaxy

Os does gan eich cariad ddim profiad o gemau o gwbwl, mae ‘na gwpwl o gyfeiriadau allech chi fynd. Mae’r gemau Lego, er enghraifft, yn rhoi’r cyfle i chi neidio o gwmpas cant a mil o lefelau gwahanol yn seiliedig ar Star Wars, Lord of the Rings, Harry Potter, Indiana Jones, y bydysawd Marvel, ac eraill, heb lawer o risg o farw na gorfod dechrau eto na thaflu’r rheolydd yn erbyn y wal.

Ond brenin y math yma o beth, dwi’n meddwl, ydi’r gemau Super Mario Galaxy. Tra bod un chwaraewr yn rheoli Mario, mae’r llall yn medru anelu Wiimote at y sgrîn, ei chwifio’n weddol ddibwrpas er mwyn casglu eitemau, a chwerthin ar eu partner yn disgyn i’w marwolaeth am y canfed tro. Hanner ffordd rhwng chwarae a gwylio gêm, mae’n wir, ond allech chi ddim mynd o’i le efo mymryn o Mario, dim ots faint ‘da chi’n cymryd rhan.

Portal

mmd___companion_cube___portal_2_by_crafterbazimon-d4xx8pb

Er nad ydi bodiau pawb wedi eu hyfforddi i symud yn chwim dros reolydd, mae gan pawb sy’n darllen hwn – gobeithio – ymennydd sy’n gweithio. Mae pawb yn medru datrys posau… neu’n meddwl y medren nhw, o leia. Felly, tra bod y chwaraewr profiadol yn eich partneriaeth yn symud yn braf drwy Portal 1 2, fe ellith y llall eistedd yn ôl, astudio’r gêm, a dweud wrthyn nhw yn union lle mae nhw’n mynd yn rong. Achos os am chwarae gêm bosau, waeth i chi chwarae’r rhai gorau erioed ddim.

Ac os ‘da chi’n cael blas ar hynny, mae Portal 2 hefyd yn cynnig yr opsiwn o chwarae drwy ran arbennig o’r gêm, wedi ei chynllunio’n arbennig ar gyfer dau chwaraewr. Os ellith eich perthynas chi wrthsefyll hynny, fydd gennych chi ddim problemau yn mynd ymlaen.

The Sims

Weithiau, mae perthynas jyst yn mynd yn stêl. Yn disgyn i mewn i rhythm diflas o waith tŷ a siarad gwag. Ac weithiau mae angen ffeindio ffordd – unrhyw ffordd – o ddianc.

Be am droi felly at un o’r cant a mil o gemau The Sims? Allwch chi greu’ch cymeriadau eich hun, a byw bywyd o ffantasi llwyr. Ac wrth gwrs, mae’n berffaith bosib chwarae efo’ch gilydd, a gweld eich afatars yn y gêm yn blaguro i fod yn sêr roc, neu’n gewri’r byd busnes, moethusrwydd enfawr o’ch cwmpas ym mhobman, heb drafferthion o unrhyw fath yn y byd.

Ac wedyn, fe fydd y berthynas yn y gêm hefyd yn disgyn i mewn i rhythm diflas o waith tŷ a siarad gwag, a fyddwch chi’n nôl i lle ddechreuoch chi. Ond roedd o’n dda tra parodd o.

WarioWare

WarioWare-+Smooth+Moves-gameplay-screenshot-1

Roeddwn i’n byw efo cwpwl unwaith, yng Nghaerdydd. Un o’r cyplau od ‘na lle ‘da chi byth yn siŵr pam yn union eu bod nhw efo’i gilydd.

(Dydyn nhw ddim bellach, gyda llaw.)

Doedd ‘na erioed lawer o chwerthin rhyngddyn nhw, na sgwrsio. Perthynas o gyfleustra, os oedd ‘na un erioed.

Ond un tro, dwi’n cofio i mi sticio WarioWare: Smooth Moves ar y Wii ymlaen, a rhoi’r rheolyddion iddyn nhw. Ac yn sydyn, dyma’r holl vibe yn newid, wrth i’r ddau frwydro eu ffordd drwy’r dwsinau o ‘feicro-gemau’ hurt bost sy’n bownd o godi gwên, dim ots pwy ydych chi. Ar ben bob dim, mae Smooth Moves hefyd yn cynnwys ambell gêm sy’n gofyn i ddau chwaraewr, ym… glosio, allwn ni ddweud, a sefyll yn annaturiol o agos wrth i chi smalio sgipio rhaff. Bach yn lletchwith os ‘da chi ddim yn nabod rhywun, ond yn berffaith ar gyfer cyplau.

Be amdanoch chi? Oes gennych chi unrhyw brofiad o chwarae gemau efo eich partner? Pa gemau sydd wedi ticio’r holl focsys? Rhowch wybod yn y sylwadau.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s