Daw’r Dydd, Daw Destiny Dau

gan Elidir Jones

Heddiw, ar Fedi’r 6ed, mae obsesiwn newydd Fideo Wyth yn cyrraedd.

Ella.

Destiny oedd enillydd gwobr Gêm y Flwyddyn cynta Fideo Wyth, nôl yn 2014. Dyma’n hymateb braidd yn ecstatig ar ddiwedd y flwyddyn honno. A dyma’n Daf ni yn adolygu’r gêm ar ffurf fideo. Achos dyna be ‘da ni’n ei wneud rownd ffordd hyn.

 

Aethon ni mor obsesd, wnaethon ni hyd yn oed greu clan. Ac fe wnaeth rai pobol hyd yn oed ymuno. Gwallgofrwydd.

Ond mae’n deg dweud bod ein barn ar Destiny wedi suro braidd yn y tair mlynedd…

(O, mam bach, ‘da ni’n hen.)

… ers i’r gêm gael ei rhyddhau. Fe wnes i bara tan yr ail estyniad o bedwar. Wnaeth Daf bara’n sylweddol hirach na hynny, ac yntau a’r anrhydeddus Dr Joe Hill wedi llwyddo i nabio’r troffi platinwm ‘na. A dyna’r broblem, dwi’n meddwl. Wnaethon ni roi misoedd – blynyddoedd – i mewn i Destiny, ac yn ôl, mae’r gêm wedi rhoi… wel, dim lot.

Oni bai am ambell ffrind wnaethon ni gyfarfod tra’n chwarae’r gêm, yn digwydd bod. Ond ta waeth am hynny.

Mae ‘na deimlad bach yn wag yn dod o chwarae Destiny am gyfnod hir. Teimlad gwacach byth os does gennych chi neb i gadw cwmni i chi tra’n gwneud. Heb ffrind wrth eich hochr yr holl amser, roedd crwydro coridorau’r gêm yn saethu gelynion yn y pen drosodd a throsodd (a throsodd) yn teimlo braidd yn ddi-bwynt.

Boddhaol iawn, cofiwch. Does ‘na’r un gêm wedi llwyddo i ddal fyny efo Destiny pan mae’n dod at saethu gelynion yn y pen. Ond di-bwynt, yn dal i fod.

Gawn ni weld a fydd Destiny 2 yn wahanol.

Ia wir. Destiny 2. Yn glanio heddiw, ac yn cynnig… yr un peth, fwy neu lai. Graffeg mymryn mwy sgleiniog (ella), ysgrifennu lot gwell (gobeithio), ond oni bai am hynny, yr un fformiwla’n union. Ac – och a gwae – dwi wedi rhag-archebu’r gêm. Erbyn hyn, rydw i wedi chwarae ychydig o oriau. Yn llawer rhy gynnar i roi unrhyw fath o farn call, wrth gwrs. Ond mae ambell beth wedi newid yn y profiad yn barod.

Yn un peth, roedd cymaint o bleser y Destiny cynta yn dod o weithio’n allan yn union sut roedd chwarae’r gêm. Roedd cyn lleied wedi ei esbonio, a’r endgame – y broses hir (hir, hir) o chwarae ac ail-chwarae wedi i’r prif ymgyrch gael ei orffen – yn fwy dryslyd byth. Mewn ffordd dda. Roedd o’n annog siarad rhwng chwaraewyr, gofyn cwestiynau, mentro ateb gwirion neu ddau. Y tro yma, dwi’n amau, fydd yr holl gwestiynau wedi eu hateb ymhell cyn i fi allu eu gofyn nhw. Wedi eu plastro ar Wikis dros y we wrth i chwaraewyr ledled y byd ruthro i fod y cyntaf i ddrysu holl bosau Destiny 2.

A dyna newid arall. Fydd gen i ddim lot o amser i chwarae dros y wythnosau nesa, a’r rhai fydd yn chwarae efo fi yn debyg o fod ymhell, bell o fy mlaen. Dwi’n disgwyl i’r profiad fod yn gymaint mwy unig nac oedd Destiny 1. A fydd gen i unrhyw fynadd i gario ‘mlaen yn chwarae Destiny 2 fwy neu lai yn solo, a phigo drwy’r peth yn ara deg yn hytrach na’i lowcio mewn un cyfnod byr?

Dwi hefyd wedi colli gafael ar y stori’n llwyr. Nid bod gen i lot o afael beth bynnag – gawn ni beidio anghofio bod yr ysgrifennu yn y Destiny gwreiddiol, i ddechrau o leia, yn uffernol. Ond efo gymaint o amser wedi pasio, sut fydda i’n handlo neidio’n ôl i fyd y Vex, y Cabal, a dwi’m yn cofio pwy arall?

Chi fydd y cyntaf i wybod. Disgwyliwch lot mwy am Destiny 2 gennym ni, er gwell neu waeth.

Here we go again…

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s