Dau Destiny

Gem gymdeithasol yw Destiny medd Daf Prys, a dyna pam nad yw am brofi Destiny 2…

Destiny_20141020001545
Rhai o’r criw yn ‘posio’ wedi curo’r gem nol yn 2014

‘Doedd dim ‘2’ i fod yn y teitl. A mae’r syniad o ‘Destiny’ yn cael ei rhifo yn torri ar y rhamant braidd, fel darllen eich star sign yn Golwg ac yn Y Cymro (dwi am fynd yntau ar wyliau hir *neu* dod o hyd i rhywbeth arbenning wrth aros yn llonydd). Ond dyma ni, tair mlynedd ers i Destiny lanio mae’r dilyniant ar ein pennau. Mae Dr Jones wrthi yn paffio aliens di ben draw ynddi, geith o son am y profiad ei hun, ond dwi eisiau trafod yn union pam does gen i ddim diddordeb profi edefyn Destiny MkII.

Prosiect 10 mlynedd oedd Destiny i fod, mae pawb yn cofio’r hype wrth lawnsio’r gem gyntaf: yr un gem, yr un byd ond y stori yn newid dros ddegawd – modd hollol wahanol o brofi gem ar gonsôl. Dyna oedd y syniad, efo gemau megis World of Warcraft fel ysbrydoliaeth, a hwnna wrth gwrs yn berchen i gyhoeddwyr Destiny hefyd (Activision Blizzard).

Ond mae’r syniad yna ar lawr nawr, efo ail gem yn ymddangos ond 3 mlynedd fewn i’r ‘prosiect’ yn cynnig y dewis i ail-gychwyn wedi i mi syrffedu ar brofi byd Destiny 1 blynyddoedd yn ol. A fy newis i yw i beidio ail gychwyn ac wedi seilio’r penderfyniad yna ar sut wnaeth y gem gyntaf effeithio ar fy mhatrwm bywyd a fy allu i fwynhau gemau eraill di-ri wnaeth ymddangos dros y cyfnod.

Mae gem fel Destiny yn gem dull o fyw, honna yw’r gem mae person yn profi noson ar ol noson, yr unig un, ac yn suddo cryn dipyn o amser i fewn iddi. Mae natur y gem wedi ei adeiladu ar y syniad yna, bod person yn treilio oriau o fewn ei waliau (cudd) a bod y ‘grind’ – y weithred o ailwneud yr un elfennau tro ar ol tro – yn annatod i wella eich cymeriad a’i phethach.

Erbyn hyn well gen i brofi gem fan hyn fan draw, does dim diddordeb gen i mewn ymbalfalu trwy’r un lefel tro ar ol tro gan anelu at gwella fy nghymeriad mymryn bach. Does dim gwerth yn y syniad i mi bellach; mae’n fodel busnes hunanol i gychwyn, gyda mwy na elfen bychan o ymddygiad gormesol gan Activison Blizzard: y mwya mae person yn treilio ei amser o fewn stori Destiny y llai o amser maent wrthi yn profi gemau eraill gan effeithio ar ffrwd gyllid cwmniau eraill. Mae microtransactions – y modd o dalu am eitemau o fewn gem am geiniogau prin – yn rhan bwysig iawn o sut mae corfforaethau mawr yn gweld ei patrymau incwm yn newid, ond wrth gwrs mae’n rhaid bod o fewn y gem i brynu microtransactions, felly gwell iddynt fod o fewn Destiny. Mae sawl gem tebyg wedi ymddangos yn ddiweddar: The Division, Battlefield 1, a hwynt oll yn brwyrdo i gadw’ch sylw.

Destiny_20150824012240
Y bois yn cyrraedd y ‘Lighthouse’

Ond mae’r modd o wneud hyn yn brofiad un donog iawn: does dim modd cadw pob eiliad o unrhyw gem yn ffres ac yn amlwg y penbwynt yw teithio’r naratif hyd y diwedd. Wel mae’r ffrwd neydd o gemau yn ceisio gwrthdroi hyn drwy ailgylchu yr un darnau o’r stori a rheiny yn galluogi tyfinat medry eich cymeriad drwy gasglu adnoddau. Mae’n bosib fod person yn profi yr un tamed o’r stori tro ar ol tro, mae hanes Dr Elidir Jones yn mynd i weld y ffilm The Phantom Menace 10 waith yn y sinema erbyn nawr yn enwog o fewn byd y nyrds Cymreig, felly dychmygwch hwnna wedi ei luosu can gwaith. Iesu a tirion yw’r ddau air. Neu ffor a ffycsec. Ond dyma a wnes yn Destiny un, efo’r syniad o dderbyn arf neu chlogyn newydd yn wythnosol yn clymu fewn at feistrolaeth Pokemon: gotta catch ’em all!

Hefyd rhaid i mi gyfaddef wnes i ddiflannu yn gymdeithasol dipyn tra’n profi Destiny 1, er yr eironi oedd mi oedd yr elfen gymdeithasol arlein yn bwysig iawn wrth ‘gwrdd’ i fyny efo fy nghriw a thrafod pob math o bethau wrth brofi’r gem, atynfa yn ei hun: weithiau yn neud dim yn y gem a ninnau fatha siop siarad bach. Fe aeth sawl awr heibio yn fy nhy bach anghysbell yn Nhalybont, o flaen y tân, yn bwyta swper, yn siarad ar y ffon a Destiny ymlaen: yr awr waethaf pan sylweddolais ei fod wedi effeithio yn negyddol ar fy mherthynas dwethaf wrth i mi fod yn esgeulus efo fy amser.

Fy mai i oedd hwn, nid bai yn y gem ei hun: mae’r profiad yn un penigamp i’r rheiny sy’n mwynhau ac efo amser sbâr, ond wedi profi’r peth y tro cyntaf rownd, sgen i ddim llawer o ddiddordeb mewn disgyn i fewn i’r un patrwm. Wedi dweud popeth, cyfnod o ddysgu oedd i mi: fy MMO cyntaf wedi ei glymu fewn i bywyd weddol unig, felly ffeindio cyfeillion da arlein, a treilio gormod o amser efo nhw yn hytrach na phibl cig a gwaed. Ond mae un peth yn sicr, mae gen i criw o gyfeillion da iawn nawr a rheiny i gyd yn deillio o fy mhrofiad arlein efo Destiny.

Destiny_20150220213459
Y criw yn cael boogie, ‘DafAP dances’…

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s