gan Elidir Jones
Dwi wastad wedi bod yn ffan o gasglu pethau’n gorfforol. Llyfrau, ffilmiau, cerddoriaeth, ac wrth gwrs, gemau… does ‘na ddim byd tebyg i’r teimlad o siopa am rhywbeth yn y byd go-iawn, mewn siop go-iawn. O sganio’r silffoedd, a dod allan efo cant a mil o bethau doeddech chi ddim eisiau o gwbwl, ar ben yr un peth oeddech chi ar ei ôl yn y lle cynta.
Cymharwch hwn i’r weithred o lawrlwytho albym (neu sengl heddiw, siŵr o fod) o iTunes.
(Oes unrhyw un hyd yn oed yn defnyddio iTunes bellach? Sgen i’n wirioneddol ddim syniad.)
Ta waeth. ‘Da chi’n logio mlaen, dewis eich cynnyrch, a… dyna ni. Dim hwyl. Dim teimlad eich bod chi’n darganfod rhywbeth newydd. Diflas.
A wedyn dyna’r syniad o berchnogaeth. Prynwch rhywbeth corfforol, ac mae’n perthyn i chi am byth, gan roi’r posibilrwydd o ladrad / tân / llifogydd / ymosodiad gan Godzilla i un ochr am y tro. Ond mae ‘na gymaint o straeon am gynnyrch digidol yn cael eu tynnu oddi ar y silffoedd. Yr enghraifft enwoca’ o fyd y gemau ydi P.T., y gêm arswyd gan Konami oedd i fod yn rhagflaenydd i Silent Hills. Ond, wedi iddi ddod yn glir bod Silent Hills byth am ymddangos, a bod Konami a creawdwr y gêm, Hideo Kojima, ddim yn ffrindiau gora, fe ddaeth hi’n gerffyffl. Isio chwarae P.T. heddiw? Tyff. Fedrwch chi ddim. Sori.
Dyna Netflix wedyn, lle mae ffilmiau a rhaglenni’n diflannu’n rheolaidd, heb reswm. Shambls.
Ac oes ‘na unrhyw beth gwell na cherdded i mewn i gartref rhywun a gweld eu casgliad o ffilmiau, llyfrau, gemau neu gerddoriaeth? Dwi wastad wedi meddwl amdanyn nhw fel math o arddangosfa gelf, yn unigryw i chi. Eich personoliaeth, mewn ffordd, wedi ei stacio’n drefnus (ac yn nhrefn yr wyddor, yn amlwg) ar y wal.
Yn ddigidol, does ‘na ddim byd felly. Os na ‘da chi isio mynd drwy gyfri Netflix rhywun i weld be mae nhw wedi bod yn ei wylio. Sy’ fymryn bach yn cripi.
Ond. Ond ond ond. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n dechrau newid fy meddwl fymryn bach am hyn i gyd. Dwi yn y broses o symud ar hyn o bryd, ac mae’n troi allan bod llwyth o stwff yn… wel, mae’n dipyn o boen. Pwy fysa’n meddwl?
Mae ‘na rywbeth mawr i’w ddweud dros gael eich holl gasgliad wedi ei storio ar gonsol yn barod, hyd yn oed os ydych chi’n gorfod ail-lawrlwytho byth a beunydd pan ‘da chi isio lawrlwytho hen gêm. Dim symud bocsys o un lle i’r llall, jest iddyn nhw gael casglu llwch yn rhywle cwbwl newydd. Moethusrwydd pur.
Ac mae ‘na rywbeth arall hefyd. Achos er gymaint dwi ‘di rhamantu siopau gemau, mae’n wir bod y broses o siopa ar y stryd fawr wedi bod braidd yn hunllefus am sbel bellach. A fedra i esbonio pam efo un gair.
Game. Neu GAME, os ‘da chi isio bod yn idiyt am y peth.
Erbyn hyn, prin allwch chi ffeindio siop gemau arall ar y stryd fawr. Mae’n swnio fel nonsens erbyn hyn, ond ar un pwynt, roedd ‘na bedair siop gemau ym Mangor. Ym Mangor. Ond mae Game bellach wedi eu llyncu nhw i gyd.
Dydi mynd yna ddim yn beth syml. Allwch chi ddim jest prynu gêm. O, na. Mae’n rhaid i chi yswirio’r disg. A phenderfynu ydych chi isio archebu gêm arall ar gyfer y dyfodol. A defnyddio’r cerdyn teyrngarwch. A gwario £36 ar y clwb aelodaeth arall, sydd hyd yn oed yn fwy ecsgliwsif.
Neu allech chi wrthod hyn i gyd, wrth gwrs. Mewn theori. Alla i ddim, ond ella fyddwch chi’n medru.
Mae’r broses o brynu consol, yn hytrach na gêm, yn hirach byth. I osgoi hyn i gyd, fysa chi yn medru defnyddio eu gwefan nhw… ond dydi hwnna ddim yn dryst iawn, chwaith. Ges i a Daf ein harchebion ar gyfer y PSVR wedi eu canslo, am ddim rheswm, yn gwbwl annibynnol i’n gilydd. Mae’r math yna o beth yn digwydd yno yn rhyfeddol o aml.
Ac, yn y misoedd diwetha, daeth y newyddion bod chwarter stocs Game wedi eu prynu gan Mike Ashley – y dyn busnes sydd wedi gwneud y penawdau yn ddiweddar oherwydd yr amgylchiadau hunllefus yn ei fusnes arall, Sports Direct.
Hyfryd o foi.
Rhwng hynny a’r ffaith eu bod nhw hefyd yn amlwg yn casau’r iaith Gymraeg, a dwi’m yn meddwl fydd fy nghenedlaetholwr mewnol yn gadael i fi siopa yna’n llawer hirach.
Digidol amdani felly, siŵr o fod. Er mor ddienaid ydi’r profiad. Ac er eich bod chi ddim wir yn berchen ar unrhyw beth ‘da chi’n ei brynu. Ac er bod un neu ddau o gemau yn llenwi dreif y Nintendo Switch yn gyfangwbwl.
Och. Dwi’m yn gwbod. Helpwch fi. Be ydi’ch teimladau chi am hyn i gyd? Ydych chi’n dal gafael ar eich casgliad Laserdisc, ta wedi bod yn lawrlwytho ac yn ffrydio cyn i chi allu cerdded? Rhowch wybod yn y sylwadau.
Mae’r byd modern yn fy nrysu i. Dwi’n mynd i orwedd lawr.