Casgliadau Retro (neu: Ffyrdd Gwych o Anwybyddu’r Etholiad)

gan Elidir Jones

Heddiw ydi dyddiad rhyddhau The Disney Afternoon Collection ar y PC, PS4, a’r Xbox One. Mae’n gasgliad o hen gemau Disney, fel mae’r enw’n awgrymu – Duck Tales 1 & 2, Chip ‘n’ Dale Rescue Rangers 1 & 2, TaleSpin, Darkwing Duck – wedi eu rhyddhau’n wreiddiol ar yr NES.

Sy’n gwneud i chi feddwl pam dydi’r casgliad ddim allan ar y Switch na’r 3DS. Ond ta waeth.

Mae gen i atgofion melys am ambell un o’r rhain. Mae’r Duck Tales cynta, yn arbennig, yn siŵr o ddod â deigryn i lygad unrhyw blentyn yr 80au (y gerddoriaeth yna!), ac mae Chip ‘n’ Dale Rescue Rangers hefyd yn berl bach sy’n haeddu mwy o sylw. Ar ben popeth, dwi wrth fy modd efo casgliadau retro fel’ma. Coeliwch neu beidio, wnes i chwarae mwy o Sonic Mega Collection ar y Gamecube nac unrhyw gêm arall ar y system.

Fydda i’n rhuthro adra o’r gwaith heno, felly, er cael teimlo fel plentyn wyth oed eto. Be arall sy’n newydd?

Ac mae’r holl beth wedi gwneud i fi feddwl pa gasgliadau eraill o gemau retro fyswn i’n hoff o’u gweld yn taro’r silffoedd corfforol / digidol. Achos bod gen i flog, dwi’n mynd i’w rhestru nhw. Ac achos bod chi’n ei ddarllen o, ‘da chi’n mynd i nodio’ch pen yn synfyfyriol tra’n mynd “Mmmmm” o bryd i’w gilydd.

Mother Trilogy

(Peidiwch â chynhyrfu wrth weld enwau ar y casgliadau yma, gyda llaw. Fi sy ‘di gwneud nhw fyny. Fel rêl boi.)

b8c7d033e8388878c85466e7556b42c1

Earthbound ar y SNES ydi fy hoff gêm erioed. Er bod gan y gêm ddilyniant cwlt enfawr erbyn hyn, roedd Earthbound (neu Mother 2 yn Siapan) yn fethiant llwyr yn ôl yn y dydd. Chafodd y gêm ddim ei rhyddhau yn Ewrop tan 2013 (!), a hynny’n ddigidol. Cymharwch hynny efo’r gemau eraill yn y gyfres – doedd ‘na ddim fersiwn Saesneg o’r gêm cyntaf tan 2015, a dydi Mother 3 erioed wedi ei ryddhau y tu allan i Siapan, er bod ‘na lu o ffans fyddai’n hapus i dalu pres gwirion er mwyn ei chwarae.

Mae’n hen bryd i Nintendo dynnu eu bys allan a rhyddhau pecyn newydd. Mother 1, 2 3, ar un cerdyn Switch bach hyfryd, mewn Saesneg, plis.

Neu Gymraeg. Dwi’n fodlon cyfieithu.

O, ac os ydyn nhw isio cychwyn ar Mother 4 unrhywbryd cyn i Donald Trump chwythu’r byd i fyny, neu i Theresa May ein etholiadu i farwolaeth, fysa hynny’n cŵl ‘fyd.

Capcom Beat-em-Up Collection

Dwi wrth fy modd efo’r hen steil o gemau ymladd – scrolling beat-em-ups yn Saesneg – lle mae’r cymeriadau’n todlo o un ochr o’r sgrin i’r llall yn cicio llwyth o elynion mewn spandex llachar yn y gwyneb. Mae ‘na rywbeth eithriadol o hypnotig amdanyn nhw, er dydi’r profiad chwarae ddim yn ddwfn mewn unrhyw ffordd. Ac er bod gemau fel Streets of Rage Double Dragon yn grêt, meistri’r genre yma, heb os, oedd Capcom.

26009c1519cb6a63e94e973bbcbedcc4

Fysa casgliad o’r gemau Final Fight yn bril, ond mae ‘na gymaint o gemau eraill ar ben hynny. The King of Dragons, X-Men: Mutant Apocalypse, Armored Warriors, Cadillacs & Dinosaurs… a fy ffefryn personol i, Knights of the Round‘Da chi’n chwarae fel y Brenin Arthur a / neu ei farchogion, ac yn brwydro eich ffordd drwy gasgliad o hen chwedlau Arthuraidd Cymreig.

Na. Jôc. Drwy fydd canoloesol generic. Ond mae’n lot o hwyl beth bynnag.

Nid fy mod i isio rheswm arall i orwedd ar y soffa’n catatonic am oriau, ond dyna’n union be wna i os ydi rhywbeth fel hyn erioed yn cael ri ryddhau. Gwnewch iddo fo ddigwydd, Capcom.

The Dizzy Legacy

Er fy ‘mod i wedi chwarae digon o’r gemau Dizzy yn blentyn, mae rhywbeth yn dweud wrtha i eu bod nhw ddim wedi heneiddio’n dda iawn. Felly ymarfer mewn nostalgia fyddai rhyddhau’r holl gemau eto (ac mae ‘na lot ohonyn nhw) mewn un pecyn sgleiniog, efo graffeg HD, cwbwl newydd. Ond dyna’r union fath o ymarfer dwi’n licio.

Mae’n hawdd anghofio pa mor boblogaidd oedd Dizzy yn yr 80au. Ym Mhrydain, o leia. Dydi o ddim yn edrych fel lot, ond yr ŵy yma mewn menyg bocsio oedd un o eiconau cynharaf gemau. Mae ‘na ran ohona i isio i genhedlaeth newydd gael eu cyflwyno i Dizzy, jyst er mwyn eu drysu nhw.

Ond y prif reswm i ailryddhau Dizzy ydi Kwik Snax – y sbin-off gwych efo un o’r traciau sain gora erioed:

Ooh yeah. Dyna’r stwff. Deud y gwir, jyst rhyddhewch Kwik Snax HD, a fydda i’n hapus.

Unrhyw syniadau gennych chi am fwy o gasgliadau, y tu hwnt i’r holl stwff amlwg? Rhowch wybod yn y sylwadau. Rŵan sgiwsiwch fi. Dwi’n mynd i bartïo fel ei bod hi’n 1989.

3 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s