Pasg y Podlediadau

gan Elidir Jones

‘Da chi gyd, dwi’n siŵr, yn disgwyl yn eiddgar am bennod nesa ein podlediad, Pod Wyth.

Mae’n dod. Dwi’n gaddo.

Dwi erioed wedi sôn yn benodol am bodlediadau ar f8, sy’n beth digon od a chysidro ‘mod i’n gwrando arnyn nhw drwy’r amser. Dwi’n sicr yn bwriadu dal i fyny ar bodlediadau (a gemau!) dros y Pasg. Ond os ‘da chi ddim yn siŵr iawn pa rai nyrdaidd sydd werth eich amser…

… oni bai am Pod Wyth, plis gwrandwch ar Pod Wyth, mae’n bril, onest…

… dyma rai awgrymiadau.

Gamers With Jobs

Mae’n anoddach dod o hyd i bodlediad cyffredinol am gemau na ‘da chi’n ei feddwl. Mae ‘na ddigon ohonyn nhw, wrth gwrs, ond rhai da? Pob lwc.

(Pod Wyth. Dal ar gael.)

Dwi ‘di setlo ar Gamers With Jobs o’r diwedd, er bod ‘na broblemau fan hyn ‘fyd. Mae ‘na fwy o bwyslais ar gemau PC na fyddwn i’n ei hoffi. Byddwch yn barod i glywed trafodaethau ar yr un gemau – Europa Universalis IV, Kerbal Space Program – drosodd a throsodd. Mae ‘na fymryn bach o snobyddiaeth, ella, tuag ambell gêm neu gyfres, ar gonsols yn enwedig.

Ond ar y cyfan, mae’n bodlediad deallus, aeddfed, gan bobol sy’n gwybod eu stwff. Ac mae hynny’n beth prin.

Jyst… peidiwch a sôn am Pokemon Go. Byth.

The Angry Chicken

Mae’n wir ‘mod i’n sôn am Hearthstone bob cyfle ga i. Ac mae’n wir bod The Angry Chicken yn bodlediad sy’n sôn am Hearthstone a dim byd arall. Ond mae’n wirioneddol dda. Sibrydwch y peth – dwi’n meddwl mai dyma fy hoff bodlediad. Ffwl stop.

Mae’n help os ‘da chi’n lled-gyfarwydd efo’r gêm, ‘thgwrs. Ond mae personoliaethau’r tri cyflwynydd – Garrett Weinzerl, Willie ‘Dills’ Gregory, a Jocelyn Moffett – yn ddigon i gario unrhywun drwy’r peth, hyd yn oed os ‘da chi ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Sludge Belcher a Tar Creeper.

Ho ho. Dychmygwch y peth.

Mae’n bodlediad aeddfed arall, yn rhydd o lot o’r nonsens plentynnaidd sy’n nodweddiadol o fyd y gemau. Braf hefyd ydi gweld dynes yn rhan ganolog o’r criw. #teamjoce am byth.

Hefyd gan lot o’r un criw – podlediadau am World of Warcraft, Overwatch, Heroes of the Storm, a mwy. Ewch i sianel Amove.tv ar Youtube i nyrdio allan am byth.

Shut Up & Sit Down

Os ‘da chi’n gyfarwydd efo gemau bwrdd modern o gwbwl, fyddwch chi’n ymwybodol o’r wefan Shut Up & Sit Down. Mae nhw’n cynhyrchu deunydd print, deunydd fideo, a phodlediad misol.

Swnio’n gyfarwydd?

I fod yn berffaith onest, roedd Shut Up & Sit Down yn ddylanwad mawr ar f8, felly os ‘da chi’n ffan o’n stwff ni – a ‘da chi’n darllen hwn, felly ‘da chi’n sicr yn ffan mawr o’n stwff ni – ddylsech chi gael golwg (neu wrandawiad) arnyn nhw hefyd.

Ar y podlediad, mae Quintin Smith, Paul Dean a Matt Lees (neu gyfuniad ohonyn nhw) yn trafod popeth mae nhw wedi bod yn ei samplo o fyd mawr gemau bwrdd. Un rhan cŵl o’r sioe ydi “Folk Game of the Month”, lle mae’r tîm yn trafod y gemau rhyfedd sy’n cael eu chwarae mewn eglwysi Sul, clybiau ieuenctid, trŵps o actorion ac ati. Y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ffilth llwyr.

I Was There Too

Mae ‘na ddigonedd o bodlediadau yn trafod ffilmiau nyrdaidd mawr. Dwi ‘di colli cyfri o’r troeon dwi ‘di gwrando ar rhywun yn rhoi sbin kooky ar Star Wars neu Back To The Future. Mae I Was There Too yn disgyn yn fras i mewn i’r categori yma, ond yn ddigon gwahanol i haeddu sylw.

Yn yr un yma, mae’r cyflwynydd, Matt Gourley, yn cyfweld â’r holl actorion ‘na ‘da chi’n cofio o’r blocbystyrs mawr… jyst. Felly gewch chi glywed gan Tom Wilson (Biff o Back To The Future), neu Stephen Tobolowsky (Ned Ryerson o Groundhog Day), neu’r actorion oedd yn chwarae Ewoks, neu jyst yn ecstras mewn rhai o’r golygfeydd mwya eiconig erioed. Y bobol oedd yna hefyd, eu straeon ddim wedi eu hadrodd o’r blaen.

A’r bennod ddiwetha, wedi ei rhyddhau chydig o ddyddiau’n ôl? Ahmed Best. Jar Jar Binks ei hun.

Mae hynny ‘di cael eich sylw chi, do?

Hollywood Babble-On

Beth bynnag ‘da chi’n feddwl o ffilmiau Kevin Smith, mae’n deg dweud bod y dyn yn medru siarad. Ac allan o’r cant a mil o bodlediadau mae’r boi yn eu pwmpio allan bob wythnos, dwi’n meddwl mai Hollywood Babble-On ydi fy ffefryn.

Mae Babble-On wedi bod yn rhedeg am flynyddoedd, ac yn mynd o nerth i nerth. Wedi ei recordio o flaen cynulleidfa fyw, a’i gyflwyno gan Kevin a’i ffrind Ralph Garman, mae’r ddau yn rhedeg drwy’r holl newyddion o fyd ffilmiau, teledu a cherddoriaeth, ond efo lot o Kevin yn crwydro oddi ar y testun, lot o Ralph yn gwneud dynwarediadau, a lot fawr o jôcs budr.

Fy hoff rannau i? Wel, dyna “Geek News”, lle mae’r ddau yn colli eu cŵl yn llwyr dros y trelyrs neu’r newyddion diweddara o fyd y nyrd. “No Thanks, We’ve Already Got One”, lle mae Ralph yn tynnu sylw at remake di-bwynt arall sydd ar y ffordd – ac mae ‘na wastad un ar y ffordd. Ac wrth gwrs, y rhan arbennig yna o’r sioe lle ‘da ni’n dal i fyny efo’r pethau cwbwl uffernol mae Justin Bieber wedi eu gwneud yn ddiweddar. Unwaith eto, mae ‘na ddigon o ddewis fanna.

Fe allwn i wneud cofnod arall fel’ma’n hawdd. Ond mae’n wyliau’r banc, ac mae gen i Hearthstone i’w chwarae. Ella rywdro eto.

Be amdanoch chi? Unrhyw bodlediadau gwych ddylswn i fod yn gwrando arnyn nhw? Achos dwi ddim yn gwrando ar ddigon yn barod, yn amlwg.

Pwyntiau arbennig i unrhywun sy’n cynnig Pod Wyth.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s