gan Elidir Jones
Wyddoch chi bod ‘na fwy o gemau’n bodoli na jyst Pokemon Go?
Fyddwn ni’n trafod hwnna yn y man. Peidiwch a phoeni. Am y tro, beth am rhywbeth hollol wahanol? Adolygiad fideo o Duelyst – gêm gardiau sy’n llwyddo gwahanu ei hun rhag Hearthstone a mawrion y genre, ac o bosib yn gwella ar y fformiwla hefyd. O, ac mae o am ddim.
Cymerwch olwg. Ac os ‘da chi’n licio be ‘da chi’n weld, ewch draw fan hyn i gael eich bysedd blewog ar y gêm.
Ac os ‘da chi’n un am ddarllen adolygiadau yn hytrach na’u gwylio nhw… wel, ‘da chi’n un od. Ond dyma chi beth bynnag.
Byth ers i’r gêm gardiau Hearthstone gael ei ryddhau ryw ddwy flynedd a hanner yn ôl, gan roi leisans i Blizzard brintio pres… wel… leisans arall, o leia… mae pob cwmni gemau a’u neiniau wedi bod isio rhan o’r pei hefyd. Mae ‘na bob math o rip-offs un ai ar y ffordd neu yma’n barod. Hex (na fi chwaith), Solforge (na fi chwaith), The Elder Scrolls Legends… hyd yn oed Rabbids Heroes, yn serennu y cymeriadau cydli gan Ubisoft does… neb lot yn malio amdanyn nhw. Bob lwc efo hwnna.
A gan bod Hearthstone fwy neu lai yn glôn o Magic: The Gathering ei hun, mae’n cymryd gêm braidd yn arbennig i drio gwneud rwbath newydd a sefyll ar wahân i’r dorf. A… sibrydwch y peth… bosib iawn mai Duelyst gan Counterplay Games ydi’r gêm yna.
Gawn ni gael y pethau llai gwreiddiol allan o’r ffordd gynta. Wrth gwrs, mae Duelyst yn gêm am ddim sy’n cael ei chwarae efo cardiau digidol ‘da chi’n eu casglu, fel yn Hearthstone. Mae ‘na ddewis o amryw o garfannau neu ddosbarthiadau gwahanol, fel yn Hearthstone. Os does ganddoch chi ddim casgliad mawr o gardiau, fedrwch chi wastad chwarae y ‘Gauntlet’, sy’n rhoi dewis ffresh o gardiau i chi, ac yn cicio chi allan ar ôl colli deirgwaith. Mae o’n union fel yr ‘Arena’ yn Hearthstone. Fysa Blizzard yn gallu siwio.
Ond. Ond ond ond. Ddylsa hi hefyd fod yn gwbwl glir, ar ôl sgan arwynebol o’r gêm, sut mae Duelyst yn wahanol. Dydi’ch cardiau chi ddim yn aros yn gardiau wedi iddyn nhw gael eu chwarae, ond yn hytrach yn troi i mewn i ffigyrau bach – a ffigyrau bach pixelart hyfryd hefyd – sy’n cael eu dympio ar grid fel bwrdd gwyddbwyll. Ac yn sydyn, dyna adio haen newydd a syfrdanol o ddwfn o dacteg at y fformiwla. Rhaid i chi feddwl yn ofalus iawn lle i roi eich bois bach, lle fydd y gelyn yn debygol o symud nesa, fyddwch chi’n cael eich cornelu heb unrhywle i fynd… mae hwnna’n digwydd lot. I fi, o leia.
Dwi’n rybish efo gwyddbwyll a gemau fel’na sy’n golygu i fi feddwl am fwy nac eiliad, ond mae hyn wir yn fy nghyffroi i. Yn sydyn, dydi’ch ymennydd chi ddim ar autopilot dim mwy. Mae ganddoch chi wastad ddwsinau o benderfyniadau bach i’w gwneud, a ‘di rheini ddim yn gyfyngiedig i’r bwrdd yn unig.
Meddyliwch am Hearthstone. Neu Magic. Neu’r rhan fwya o gemau tebyg. Fel arfer, ‘da chi’n tynnu un cerdyn o’ch dec bob rownd, a dyna ni. Yn Duelyst, ar y llaw arall, ‘da chi’n tynnu un ar ddechrau’r rownd, un ar y diwedd, ac mae ganddoch chi hefyd y dewis o swopio un cerdyn o’ch llaw efo un ar hap o’r dec. Ac yn sydyn reit, dyna dynnu’r cwyn mwya sydd gan bobol am y gemau ‘ma, sef eu bod nhw’n dibynnu gormod ar lwc. Bellach, mae ganddoch chi lot mwy o reolaeth dros be ‘da chi’n ei chwarae, efo ffrŵd cyson o gardiau’n dod i’ch llaw, a mwy fyth o ddewis. ‘Di Duelyst ddim yn gêm lle fedrwch chi flyffio eich ffordd i’r top. Mae’n gêm fedrwch chi ei feistroli. Mae’n rhaid bod hynny’n beth da.
A fedra i fynd ymlaen. Fyddwch chi’n chwarae fel arweinydd neu ‘gadfridog’ eich carfan, bob un efo ei bŵer arbennig ei hun. Mae rhai’n medru iachau eu dilynwyr, er enghraifft, neu gynyddu eu cryfder eu hunain. Ac yna, wedi cyrraedd lefel arbennig, ‘da chi’n datgloi ail arweinydd i bob carfan. Yr un cardiau, ond pŵer cwbwl wahanol, gan ychwanegu lefel arall o strategaeth.
Ar ben hynny, mae ‘na bob math o sialensau bach – rhai er mwyn eich cyflwyno chi i systemau a geirfa’r gêm, a rhai dyddiol er mwyn eich cadw chi ar flaenau’ch traed. Os hoffech chi, fedrwch chi ddeifio i mewn i’r stori y tu ôl i’r cardiau. Mae ‘na hyd yn oed fap – map! – sy fel manna o’r nefoedd i nyrd ffantasi fel fi. Ac os ‘da chi yn llwyddo i gasglu’r cardiau i gyd – sydd ddim yn debygol, achos bod ‘na dros 300 ohonyn nhw, a fedrwch chi gael tri chopi o bob un – fydd y set nesa ddim ymhell i ffwrdd. Yn wahanol i gemau eraill tebyg, sy’n rhyddhau setiau newydd o gardiau cwpwl o weithiau’r flwyddyn, mae Duelyst yn pwmpio rhai newydd i mewn i’r gêm bob mis, gan wneud yn siŵr bod pethau byth yn mynd yn rhy stêl. Mae nhw ‘di meddwl am bopeth.
Gwrandwch. Dwi’n gwbod bod chi’n bobol brysur. Fedrwch chi ddim fforddio cael eich sugno i mewn i ormod o gemau mawr ar unwaith. Hei, dwi ddim yn ddyn prysur, a fedra i ddim fforddio fo. Dwi’n gyndyn i daflu fy nghasgliad enfawr Hearthstone i un ochr, a dechra eto. Mae nhw’n galw gemau fel’ma yn lifestyle games am reswm: mae nhw’n dueddol o lyncu’ch bywyd a phopeth ynddo fo. Ond os ydi unrhyw beth fan hyn yn apelio, fyswn i’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n rhoi go i Duelyst. Mae’n haeddu lot mwy o sylw a chysidro bod o… ‘da chi’n gwbod… fwy neu lai ‘di datrys holl broblemau’r genre ar unwaith. Yn syml i’w bigo fyny ond yn anodd ei feistroli, yn ddwfn o ran cynnwys ac o ran cymhlethdod, yn hollol chyffin gorjys… o na. Dwi’n mynd i ddod yn gaeth i hwn hefyd, dydw?
Mae Duelyst ar gael rŵan, am ddim, ar duelyst.com. Am fwy o drafod gemau – yn Gymraeg – sticiwch efo ni yma ar fideowyth.com.