Adolygiad: Pokémon Go

gan Miriam Elin Jones (Pokemon Trainer)

Fy niwrnod cyntaf fel Pokémon trainer GO IAWN. O’r diwedd. Dyma’r freuddwyd fawr. Dwi’n mynd i’w gwneud hi…

Cyrhaeddodd Pokémon Go Brydain yr wythnos hon – er nad yw hynny wedi stopio nifer ohonom i esgus ein bod yn Americanwyr a’i lawrlwytho ta beth – a chyda cymeriadau cyfarwydd yn ymddangos drwy gamera eich ffôn o’ch blaen, mae’r gêm eisoes yn ffenomen newydd.

Mae’r hashtag #PokemonGo yn britho Twitter ac mae Buzzfeed yn rhemp o restrau am pros a cons y gêm. Mae This Morning hyd yn oed wedi bod wrthi’n siarad am beryglon posib, er bod Philip Schofield yn cael modd i fyw yn dal Rattatas. Mae Ifan Morgan Jones eisoes wedi achub y blaen a’i adolygu ar gyfer Golwg360.

Felly beth yn union yw Pokemon Go?

Yn syml, chi’n cwrso Pokemon yn y byd go iawn drwy eich ffôn symudol. Gêm ‘augmented reality’ (realiti estynedig, os gredwn ni gyfieithiad Cysgeir) yw hi, lle mae GPS eich ffôn yn dilyn lle’r ydych chi, ac yn tynnu Pokemon, yn ogystal â chanolfannau arbennig a gyms, i mewn i’r byd hwnnw.

Fel Google Maps interactive, mewn termau syml iawn, iawn.

Bant a fi…

Er ‘mod i fel arfer yn byw yn Aberystwyth, adre yn Llanpumsaint lawrlwythais y gêm… a’i ganfod, yn y fan honno, yn fymryn o anti-climax.

pokemon 1

Doedd ‘na ddim Pokemon yn un man, er i mi chwilio yn y gegin, yn yr ystafell fyw ac ymhob twll a chornel o’r tŷ. Ar ôl dal Bulbasaur yn fy ystafell wely (a’i enwi’n Gwiliam, ar ôl Chief Zombie Y Clychau), dysgais yn ddigon cyflym nad gêm eistedd-ar-fy-nhin oedd hon. Dwi’n gorfod codi o’m heistedd, a gadael y tŷ.

Shock. Horror.

Felly, dyma’r trusty backpack ar fy nghefn, gyda chap wedi ei fenthyg wrth Nhad (dwi mor cŵl –ac mae’n rhaid i bob Pokemon Trainer werth ei halen gael cap!) ac allan a fi i ‘Wild Grasses’ y cae tu ôl tŷ.

Pokemon 2

(Gyda llaw, mae pob Pokemon Trainer o Gymraes yn gwisgo top o Lan Lloft Llanbed.)

Pokemon 3

Chefais i afael ar ddim byd, ond ar ôl cael yr handy hint canlynol wrth Ifan Morgan Jones a deall mwy am sut mae’r gêm yn gweithio:

Dyma fi’n penderfynu mynd i… Landysul.

Crwydro

Yn y car, o bob man, ym maes parcio CK’s Llandysul, y cefais hyd i fy Mhokemon cyntaf, sef… wait for it… Weedle.

Pokemon 4

Wrth grwydro strydoedd Llandysul, ni fues i’n ddigon ffodus i ddod o hyd i fwy o Pokemon. Fodd bynnag, roeddwn yn dechrau gweld manteision i’r gêm. Dwi ‘di cerdded am awr solid yn chwilota, ac fe grwydrais y prif stryd am y tro cyntaf ers blynyddoedd mawr, a dod o hyd i ambell beth newydd  – gan gynnwys siop lyfrau ar un o’r strydoedd cefn.

Fodd bynnag, roedd y panel ‘Pokemon Nearby’ yn fy arwain i fwy o strydoedd cefn, ac ynghyd â gweld y manteision, gellir hefyd gweld anfanteision amlwg i hyn. Ydw i wir eisiau camu i gul-de-sacs random i chwilio am Pokemon? Yr ateb oedd na, felly cafodd yr Eevee addawol iawn yr olwg oedd yn cuddio yno lonydd. Nid oes rhyfedd fod mudiadau megis NSPCC yn poeni am blant sy’n chwarae Pokemon Go heb lygad barcud rhiant yn cadw golwg arnynt.

Yn ogystal â hynny, roedd y grid ‘Pokemon Nearby’ hefyd yn anodd i ddarllen pa mor agos oedd ‘agos’ ar y panel bach hwnnw. Amlygir hyn eisoes gan yr erthygl hyn ar wefan Forbes a oedd yn ddefnyddiol tu hwnt a finnau ffili ffeindio’r un Pokemon yn Llandysul, er bod lot ohonynt i fod o gwmpas.

Ar ôl diwrnod mor aflwyddiannus, mae gyda fi lot fwy o barch at Ash Ketchum a’r criw.

Fy argraffiadau cyntaf

Felly, pethau a ddysgais ar fy niwrnod cyntaf fel Pokemon Trainer:

  1. Dyw Pokemon Go – tmbach fel Tinder – ddim yn gweithio’n dda iawn mewn mannau gwledig.
  2. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o fatri, neu charger symudol, achos mae hon, fel pob app da, yn llyncu pwer yn awchus o’ch ffôn. Dychmygwch Dracula yn gwledda ar waed dyn sylweddol ei faint. Fel ‘na.
  3. Cymerwch ofal – mae’n wir bod gwylio’r gêm yn gallu mynnu eich holl sylw – ac mi fyddwch ar ryw adeg yn cerdded slap-bang mewn i bolyn lamp stryd. (Do, fe wnes i hynny heddiw…)

Er bod sawl Pokemon Gym yn Llandysul, dwi’n styc ar Lefel 2 o hyd, felly wedi methu mynd i frwydro… y cam nesaf ar fy antur fawr?

Mynd i ddinas

Yn y cyfamser, dwi am bwdu na allaf ymuno yn yr hwyl, a phwdu fod Daf (yn Aberystwyth) ac Elidir (ochrau Bangor) yn cael lot fwy o hwyl arni nag ydw i.

Dwi’n croesi ‘mysedd a ‘mysedd traed bydd fy ail ddiwrnod yn fwy llwyddiannus… Cewch wybod, peidiwch chi â phoeni. Fe gewch wybod.

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s