Adolygiad: Ghostbusters (2016)

gan Miriam Elin Jones

Cyfarwyddwr: Paul Feig
Actorion: Kristen Wiig, Melissa McCarthy, Chris Hemsworth, Leslie Jones, Kate McKinnon.

ghostbusters

Mae’r Ghostbusters gwreiddiol yn glasur. End of. Roedd nifer yn teimlo taw taw risg braidd – ac i ryw raddau’n amharchus – oedd ail-ymweld (neud ‘remake’) a hi gwta dri deg mlynedd ar ôl y gwreiddiol. Codwyd sawl gwrychyn, ac roedd penderfyniad Paul Feig y cyfarwyddwr i gastio merched i gamu i ‘sgidiau’r pedwarawd gwreiddiol wedi ysgogi sawl dadl danbaid. Ciw siarad am ffeministiaeth a misoginistiaeth. Roedd nifer o ffans o’r ffilm gwreiddiol yn gwrthod cydnabod bodolaeth y fersiwn newydd. Fodd bynnag, roeddwn innau wrth fy modd – wmff Girl Power yn dod i fyd y Ghostbusters, o’r diwedd! – ac yn gyffrous i weld Kristen Wiig a Melissa McCarthy wrth lyw’r ffilm hon.

Felly, beth am gamu oddi wrth alw’r ffilm yn ‘remake’? Achos nid ail-wneud na disodli’r gwreiddiol yw’r bwriad yn y fan hon. Roedd yna sawl winc tuag at Ghostbusters yr ‘80au – yn wir, ar adegau, mae fel petai’r Ghostbusters newydd yn boenus o ymwybodol o’r holl drafod a chwyno y bu ynglŷn â hi. Mae cameos y cast gwreiddiol – yn enwedig ymddangosiad Bill Murray a rôl ei gymeriad yntau – wedi eu gosod yno, i ryw raddau, i fynnu rhoi sêl bendith ar y cwbwl, nid fod wir angen gwneud. Ynghyd â hynny, ymddangosiad Ozzy Osbourne yw’r peth mwyaf dibwynt i mi ei weld mewn ffilm erioed.

Er fy mod wedi gwirioni’n lân wrth feddwl am gyfarwyddwr a phrif actorion y ffilm Bridesmaids yn rhan o’r ffilm hon, doeddwn i ddim eisiau gweld y romcom yna eto… a dyna deimlais fy mod yn ei wylio yn ystod ugain munud cyntaf y ffilm. Suddodd fy nghalon wrth i Dr Erin Gilbert (Wiig) sgipio o gwmpas yn ffysian fod ei llyfr am ysbrydion yn dod i weld golau dydd ac wrth i Dr Abby Yaters (McCarthy) dynnu ei choes yn dragwyddol. Fodd bynnag, unwaith y daw Patty Tolan (Leslie Jones) i’r adwy, wedi darganfod ail ysbryd yn y ddinas, mae pethau’n dechrau poethi.

Er mai Wiig a McCarthy yw’r enwau mawr ynghlwm â’r ffilm, Leslie Jones ac yn arbennig Kate McKinnon sy’n serennu. Jill Holtzmann (McKinnon) oedd mastermind holl declynnau’r criw ac roedd hi’n hyfryd o ecsentrig, yn ychwanegu bach o liw a hiwmor naturiol i’r pedwarawd. Un o olygfeydd gorau’r ffilm yw hi, solo, yn ymladd byddin o ysbrydion.

mckinnon

Serch hynny, mae’r cymeriadau fymryn yn brennaidd, gyda dim ôl-stori o gwbwl gan Holtzmann, a storïau digon simsan gan y cymeriadau eraill. Byddai llai o gags gwag a mwy o hanes y pedwarawd wedi gwneud byd o les. Mae’r un olygfa lle cyfeirir at gred Erin ynglŷn ag ysbrydion yn uffernol o cringey.

Fodd bynnag, rhaid cofio mai’r sioe fawr a’r effeithiau arbennig sy’n denu nifer i weld ffilm antur fel Ghostbusters. Nid yw’r CGI yn siomi. Mae gweld yr ysbrydion yn meddiannu’r ddinas yn anhygoel, ac yn edrych tipyn yn fwy snazzy nag oedd yn y gwreiddiol ond heb fynd dros ben llestri chwaith. (Ni welais y fersiwn 3D, ond dwi’n gallu dychmygu ei fod yn hynod o effeithiol.) Roeddwn wedi ymgolli’n llwyr yn y ffilm erbyn hynny, ac wedi hen anghofio am y slip-ups cychwynnol. Mae’r sgript yn datblygu’n dda, a gan drio beidio datgelu gormod, mae rôl Chris Hemsworth fel yr ysgrifenyddes anobeithiol yn hilarious ac yn datblygu i ffurfio un o dwists gorau’r plot. Ac, wel… os ydych chi’n lico’r fath ‘na o beth, dyw e ddim yn grwtyn salw i’w wylio ar sgrin fawr chwaith.

chris hemsworth

Mae’r drws ar agor ar gyfer dilyniant, ac er i mi fwynhau hon ar y cyfan, mae ‘na ran ohonof yn gobeithio na fydd hynny’n digwydd. Roeddwn wrth fy modd gyda’r syniad o gyflwyno arwresau newydd ac wedi mwynhau’r y spectacle o spectres, gan sgipio allan o’r sinema yn hapus iawn fy myd… ond y trac sain wreiddiol roeddwn yn ei ganu, ac nid fersiwn newydd Fall Out Boy a Missy Elliot. A dwi’n meddwl fod hynny’n dweud y cyfan.

a587f3e1c0d858573dc2f3572f6311fd8902df5785fdd0e34f055cc3b279fae8e

2 comments

  1. Hwyl ysgafn oedd y peth i fi – a nes i malu’r hen dap VHS gwreiddiol drwy wylio cymaint! Mwynhais y jocan ‘selfwaware’ am y sylwadau YouTube ayb ‘fyd. merched ar y brig a un bys i bawb oedd yn cwyno!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s