gan Elidir Jones
Ymddiheuriadau bod pethau wedi bod braidd yn od ar f8 yn ddiweddar, ond dyna be sy’n digwydd pan mae Daf a finnau yn mentro draw i Ffrainc ar adegau gwahanol. Gobeithio’ch bod chi wedi bod yn mwynhau ein cyfres fideo f8 yn Ewro 2016 tra ‘da ni wedi bod i ffwrdd, beth bynnag.
Ac yn ystod ein amser yn Ffrainc, mae’n deg dweud bod ‘na… lot wedi digwydd. Wnawn ni ddim sôn fan hyn am Y Peth Mawr, achos mae’n bwysig (trio) aros yn weddol bositif. Ella y bydd ‘na erthygl am sut mae o’n debyg o effeithio ar y diwydiant gemau ym Mhrydain yn dilyn.
Mae Sioe Gemau Cymru wedi mynd a dod, a ninnau wedi gorfod ei sgipio am y tro cynta, oedd yn dipyn o siom. Ond mae ‘na sioe fymryn bach mwy hefyd wedi pasio, sef E3, digwyddiad mwya’r flwyddyn ym myd y gemau. Fyddwn ni’n hollol hurt tysa ni ddim yn ei drafod.
Doedd hi ddim yn glasur o sioe, yn ôl pob sôn. Yn sicr ddim yn cyrraedd uchelfannau gwyllt sioe flwyddyn diwetha. Fyddwn ni ddim yn eich cadw chi’n rhy hir, felly, ond mae ‘na ddigon o uchafbwyntiau i’w trafod ta waeth…
The Legend Of Zelda: Breath Of The Wild
Reit. Gwyliwch y trelyr yma. A wedyn gawn ni siarad.
Gêm y sioe, yn ôl trwch helaeth o’r newyddiadurwyr gemau oedd yn trafod E3, a dydi hi ddim yn anodd gweld pam. Ar ben cael ei ryddhau ar y Wii U, mae The Legend Of Zelda: Breath Of The Wild yn bownd o gychwyn bywyd y consol newydd gan Nintendo, “NX”, mewn dipyn o steil.
Mae ‘na gymaint o adroddiadau am y gêm, ac ychydig iawn sy’n riportio’r un pethau. Mae’n gêm enfawr, yn ddeg gwaith mwy na Skyrim, yn ôl rhai, ac yn troi’r fformiwla Zelda ar ei phen yn llwyr. Mae’r trelyr yn edrych fel cyfuniad o fyd agored gêm fel Xenoblade, systemau RPG rhywbeth fel Dark Souls, a’r teimlad o ddarganfyddiad oedd mor amlwg yn y Zelda cynta. Ydi hi’n risg mentro gwneud pethau mor wahanol i’r gemau Zelda diweddar? Ella. Ond roedd y gyfres yn sicr angen rhywfaint o newid, ac os ydi gambl Nintendo yn mynd yn iawn, mae’n bosib mai dyma fydd y gêm Zelda pwysica ers Ocarina Of Time.
Dishonored 2
Oni bai am ychwanegiadau braidd yn anghyffrous at Fallout 4, a fersiwn sgleiniog newydd o Skyrim (dwi wedi gaddo wrth fy hun na fydda i’n chwarae hwnna eto, ond…), ein golwg go-iawn cynta ar Dishonored 2 oedd y peth mwya oedd gan Bethesda i’w gynnig yn E3. A dydi hynny ddim yn beth ffôl, oherwydd mae’n edrych yn wych.
Ydi Dishonored 2 yn edrych yn wahanol iawn i’r un cynta? Wel, na… oni bai am y ffaith y medrwch chi chwarae fel cymeriad benywaidd, Emily Kaldwin, ar ben arwr y gêm gwreiddiol, Corvo Attano. Ac mae pawb am wneud hynny, wrth gwrs. Ond does dim angen newid llawer, dwi’m yn meddwl. Roedd Dishonored yn gampwaith o gêm sandbox, efo stori afaelgar, a gwaith adeiladu byd sydd mor gyfoethog ag unrhyw nofel ffantasi alla i enwi. Mae Dishonored 2 yn debyg iawn o barhau â’r traddodiad yna.
Mass Effect Andromeda
Felly does ‘na ddim lot o wybodaeth eto am Mass Effect Andromeda. ‘Da ni yn gwybod bod y gêm am adael lot o gonfensiynau Mass Effect 1 – 3 ar ôl, wrth i brif gymeriad newydd – Ryder – arwain ymgyrch ar long ofod o’r enw’r Tempest i alaeth cwbwl wahanol, gan ein cyflwyno i bob math o blanedau, cymeriadau, ac aliens newydd.
Mae rhai ohonom ni yma ar dîm f8 yn credu mai byd Mass Effect ydi’r byd ffug-wydd gorau erioed, felly mewn ffordd mae’r penderfyniad i anghofio’r byd yna bron yn llwyr yn un i achosi chydig o bryder. Ond yn anaml iawn, iawn, mae BioWare yn siomi. Hyd yn oed os dydi Andromeda ddim yn llawn Elkor, Krogan ac Asari, dwi’n siŵr y cawn ni weld rhyfeddodau newydd, yr un mor gyfareddol. Fedra i ddim disgwyl.
Spider-Man
Spider-Man 2 oedd un o’r gemau byd-agored go-iawn cynta… a hyd yn oed heddiw, ella ei bod hi’n un o’r rhai gora. Roedd gwneud eich ffordd o gwmpas Efrog Newydd yn y gêm yna yn gymaint o hwyl, yn lot gwell na’r ffilm (trafodwch), a wnes i ei chwarae hi gymaint es i ymlaen i brynu Spider-Man 3 ar y Wii heb ddarllen unrhyw adolygiadau ac…
Aw. Aw. Roedd hwnna’n brifo.
Ers hynny, dwi ‘di bod yn disgwyl am gêm Spider-Man gwych arall, ac mae hwn yn edrych fel jyst y peth. Eto, does dim llawer o fanylion am y profiad chwarae – er ei bod hi wedi ei chadarnhau, wrth gwrs, mai gêm byd-agored fydd hon – ond o’r trelyr byr, mae’n edrych yn llawn lliw a chymeriad, efo’r systemau ymladd wedi eu dylanwadu gan y gemau Arkham, ella? Gawn ni weld. Ond sut bynnag mae’n chwarae, dwi’n glafoerio wrth feddwl am y syniad o neidio o gwmpas Efrog Newydd mewn steil unwaith eto. Fydd hwn yn ymddangos ar y PS4 flwyddyn nesa, siŵr o fod… jyst peidiwch ac ychwanegu cefnogaeth VR, Sony. Dwi’m yn meddwl all fy ymennydd (na fy stumog) handlo’r fath beth.
Horizon: Zero Dawn
Fe wnaeth y gêm yma (byd ôl-apocalyptaidd lle mae pobl gyntefig yn ymladd deinosoriaid mecanyddol!) dipyn o stŵr yn ystod sioe E3 flwyddyn diwetha, a hyd yn oed mwy flwyddyn yma, os rhywbeth, wedi i ni gael golwg estynedig go-iawn ar Horizon yn cael ei chwarae.
Fedra i ddim cweit rhoi fy mys ar y rheswm pam dwi ‘di cyffroi gymaint dros hwn, achos oni bai am y gwaith celf hollol hyfryd, dydi Horizon ddim yn edrych yn rhy newydd. Ar y funud, mae’r systemau ar waith yn edrych fel cyfuniad o Shadow Of Mordor a Far Cry, ella efo mymryn bach o Fallout wedi ei ychwanegu i’r gymysgedd. Ond mae ‘na rhywbeth sy’n gwneud i fi feddwl bod hwn am godi uwchben yr elfennau yna i gyd, a dod yn gêm eitha unigryw, a reit arbennig. O, a… ‘da chi’n gwbod… yr holl beth efo’r deinosoriaid. Sydd hefyd yn robots. Mae hwnna’n sicr yn ffactor.
Beth amdanoch chi? Unrhywbeth arall wedi dal eich sylw chi flwyddyn yma? Rhowch wybod drwy yrru colomen efo neges, neu sgriblo negeseuon mewn crayon ar ddrws y garej. Neu jyst wrth adael sylw. Mae hwnna’n gweithio ‘fyd.