Allwch chi goelio bod 2015 bron ar ben? ‘Da ni bellach heibio i ffiniau’r ffilmiau Back To The Future. Dim byd i wneud rŵan tan i holl ddigwyddiadau Total Recall ddod yn wir. Yn 2084.
Wrth i ni ddisgwyl, be am gymryd golwg yn ôl ar holl uchafbwyntiau nyrdaidd y flwyddyn a fu? Heddiw, gymra i olwg ar y gêm fwrdd, y comic, a’r llyfr gora, cyn symud ymlaen rhywdro eto at ffilmiau, cerddoriaeth, a theledu. Ac yna dwi’n siŵr ga i a Daf gyfle i drafod ac i ddadlau am y gêm fideo gorau un, mewn lot gormod o fanylder.
Wrth gwrs, fy marn bersonol i ydi hyn i gyd. Ond dwi’n siŵr eich bod chi oll yn parchu hynny. Dyma’r we, wedi’r cwbwl.
Gêm Fwrdd: Spyfall
Dwi wedi gwneud adolygiad llawn o Spyfall cyn hyn, ond rhag ofn eich bod chi’n rhy brysur neu ddiog i’w ddarllen, mae’n gêm barti i 3 – 8 o bobol. Fe fydd y rhan fwya’n chwarae gweithwyr gonest mewn lleoliad penodol – ond mae un chwaraewr yn chwarae ysbïwr, heb gliw lle mae nhw’n gweithio. Bwriad yr ysbïwr ydi darganfod y lleoliad, tra bod pawb arall yn trio gweithio allan pwy ydi’r ysbïwr, ac mae’r holl ddirgelwch yn cael ei ddatrys wrth i bawb ofyn cyfres o gwestiynau hurt.
Dydi’r rhesymeg y tu ôl i’r gêm ddim cweit yn gwneud synnwyr, fel mae’r fideo yma gan y wefan Shut Up & Sit Down yn ei esbonio. Ond mae pob un gêm o Spyfall yn cynnwys sawl moment sy’n bur debyg o wneud i bawb wlychu eu hunain yn chwerthin. Mae’n syniad mor syml, ac mae o mor hawdd dysgu’r rheolau, ond mae ‘na hwyl diddiwedd yn y bocs bach ‘na.
Dewis Arall: Codenames
Gêm o ddyfalu geiriau mewn timau, efo thema eitha tebyg i Spyfall. Mae’n swnio’n sych, ond mae’n gêm barti grêt arall, ac yn berffaith ar gyfer y Nadolig. Hefyd, mae’n rhaid sôn yn sydyn am Pandemic Legacy. Mae gen i gopi, ond heb ei chwarae eto – ‘da ni yn gobeithio gwneud fideo (neu gyfres o fideos) am y gêm yn y man. Ond mae’r geiriau “y gêm fwrdd orau erioed” wedi eu taflu o gwmpas. Mae’n rhaid talu sylw i heip fel’na…
Comic: Star Wars
Dyma’r flwyddyn gynta i mi allu darllen comics misol yn rheolaidd, diolch i wasanaeth Comixology. Dwi ddim yn arbenigwr ar gomics o bell ffordd, a ddim yn treulio lot o amser nac arian arnyn nhw, ond o’r rhai dwi yn eu darllen, dwi’n meddwl mai’r gyfres Star Wars newydd gan Marvel ydi’r fy hoff un.
Mae ‘na rai yn mynnu bod y gyfres Darth Vader yn well. Dwi’n anghytuno. Mae’r gyfres yna yn cynnwys cymeriad sy’n debyg i Sherlock Holmes ym mhopeth ond ei enw, a fersiwn benywaidd, Star Wars-aidd o Indiana Jones, a fersiynau seicotig o C3PO ac R2-D2… mae’n iawn, ond ychydig yn goofy, yn enwedig wrth gysidro mai Darth chyffing Vader ydi’r prif gymeriad.
Mae’r prif gyfres Star Wars, ar y llaw arall, yn dal holl ysbryd y ffilmiau gwreiddiol. Mae ganddoch chi Luke yn ymladd bwystfilod, Han a Leia’n dadlau, Chewbacca yn rhwygo breichiau pobol i ffwrdd… mae’n ffordd berffaith o’ch cynhyrfu’ch hun o flaen y ffilm newydd. Os oedd angen unrhyw help arnoch chi.
Dewis Arall: The Walking Dead
Mae’n wir bod y gyfres The Walking Dead wedi arafu dipyn yn ddiweddar… ond dwi’n eitha hoff o hynny. Dyma ni olwg ar fyd flynyddoedd ar ôl i’r don gyntaf o zombies ymddangos, ymhell ar ôl i bob un ffilm arswyd golli diddordeb. Ond wrth gwrs, dyma The Walking Dead. Dydi trychineb a thorcalon byth yn bell i ffwrdd. Diolch byth am hynny.
Llyfr: George R.R. Martin – A Knight Of The Seven Kingdoms
OK, mae’r straeon yn y gyfrol yma wedi eu cyhoeddi eisoes. Ond dim yn yr un gyfrol, a heb y darluniau hyfryd, felly mae o’n cyfri. Stopiwch ddadla. Dyma berl o gyfrol ffantasi i’w darllen cyn i’r llyfr nesa yn y gyfres A Song Of Ice And Fire gyrraedd. Pryd bynnag fydd hynny.
Yn A Knight Of The Seven Kingdoms, fe gawn ni gyfarfod Duncan “Dunk” The Tall ac Aegon “Egg” Targaryen – dau arwr sy’n crwydro tiroedd Westeros bron i ganrif cyn digwyddiadau A Game Of Thrones. Mae’r stori gyntaf, The Hedge Knight, dipyn symlach na’r nofelau, ac yn darllen ychydig mwy fel chwedl yn hytrach na ffug-hanes cymhleth y prif gyfres. Dim bod hynny’n wendid o gwbwl. Ond wrth i ni gyrraedd y stori olaf yn y gyfrol, mae’r holl dywyllwch a’r trais a’r cynllwynio gwleidyddol yn ôl… ac mae ‘na hyd yn oed ymddangosiadau gan rai cymeriadau ‘da ni’n gyfarwydd â nhw yn barod…
Hanfodol i unrhyw ffan o’r gyfres. A hyd yn oed os ydych chi’n newydd i Westeros, dydi hwn ddim yn le ffôl i ddechrau.
Dewis Arall: Limmy – Daft Wee Stories
Llyfr o straeon byrion gan y digrifwr cwlt o’r Alban, Brian “Limmy” Limond. Os ‘da chi ddim yn gyfarwydd efo’i waith… wel, pam ddim? Ar eu cryfaf, mae’r straeon yn y gyfrol gystal ag unrhywbeth ar Limmy’s Show. Wnewch chi chwerthin mwy yn darllen hwn ar fore Dolig na wnewch chi yn gwylio be bynnag mae nhw ‘di sticio ar y teli…
Mwy o bigion y flwyddyn wythnos nesa… a pa ffilm fydd ar ben y rhestr, sgwn i? Star Wars: The Force Awakens, o bosib? Chi fydd y cynta i wybod pa mor dda ydi’r ffilm, yn nes ymlaen wythnos yma. Achos dwi’n mynd i’w weld. Nos fory.
*gwich*
– Elidir
[…] ddiwylliannol. Os fethoch chi fi’n mwydro am gemau bwrdd, comics, a llyfrau, clic clic fan hyn. Ond os ‘da chi’n barod am y rownd nesa, ‘co ni off. […]
[…] drwy fy newisiadau o ran gemau bwrdd, comics, llyfrau, cerddoriaeth, teledu a ffilmiau gorau 2015. Fan hyn a fan hyn, i fod yn […]