Adolygiad: Star Wars – The Force Awakens

Wnes i fynd i weld The Force Awakens am hanner nos neithiwr ac mae ‘mhen i dal yn troi. Wna i drio peidio mwydro gormod, a chadw’r adolygiad ar drac, ond fydd hynny braidd yn anodd, dwi’n meddwl. Mae ‘na lot i’w drafod.

A does ‘na ddim byd yma fydd yn sbwylio’r ffilm i chi, heibio i’r stwff sydd yn y trelyrs yn barod. Felly ymlaciwch, da chitha.

Star_Wars

Reit. I gael o allan o’r ffordd: mae’n ffilm dda. Dwi ddim yn meddwl bod The Force Awakens yn cyrraedd uchelfannau’r ffilmiau gwreiddiol, ond mae hon ben ac ysgwydd uwchben y prequels, ac yn llawn haeddu ei lle yn y saga. Os dyna’r oll oeddech chi isio gwbod, gewch chi gerdded i ffwrdd yn hapus rŵan. Ond os ydych chi isio mymryn bach mwy o wybodaeth…

Mae dros 30 mlynedd wedi pasio ers digwyddiadau Return Of The Jedi, ac mae’r frwydr rhwng da a drwg yn parhau yn y galaeth pell, pell i ffwrdd. Mae gweddillion yr Ymerodraeth yn dal i greu hafoc, gyda Kylo Ren (Adam Driver), ffigwr dirgel sy’n gryf yn y “Force”, ar flaen y gâd. Ar ôl cael ychydig o “close encounter” efo Ren, mae’r peilot carismatig Poe Dameron (Oscar Isaac) yn llwyddo llusgo dau gymeriad newydd i mewn i’r frwydr – Finn (John Boyega), y stormtrooper gyda chalon o aur, a’r ferch amddifad Rey (Daisy Ridley), hithau gyda chefndir braidd yn gymylog. Ac wrth gwrs, wedi i’r gwynebau newydd ymddangos, dydi’n hen ffrindiau i gyd ddim yn bell ar eu holau…

Dyma ffilm sy’n teimlo fel Star Wars, mewn ffordd doedd y prequels ddim. O gwbwl. Sy’n beth da, wrth gwrs. Ond dyma un o brif wendidau’r ffilm hefyd – ar brydiau, mae’n teimlo fel teyrnged i’r ffilmiau gwreiddiol yn hytrach na ffilm sy’n sefyll ar ei thraed ei hun. Mae ‘na gymaint o bethau sydd wedi eu rhwygo’n syth allan o’r drioleg sanctaidd, ac mae nhw’n gweithio’n grêt, ond dwi yn gobeithio y gwneith y bennod nesa drio bod ychydig yn fwy gwreiddiol.

Mae ‘na ddarn yng nghanol y ffilm – sydd ddim yn y trelyrs, felly wna i ddim sôn llawer amdano fo – sydd ddim fel unrhywbeth ‘da ni wedi ei weld yn y gyfres o’r blaen. Ac mae o’n un o fy hoff ddarnau. Mae’n ddigri, ac yn frawychus, ac yn gyffrous, yn teimlo fel croes rhwng Star Wars, Alien, a gweithiau H.P. Lovecraft… os oeddech chi’n meddwl bod bwystfilod y Rancor a’r Sarlacc yn ddrwg, ‘da chi ddim ‘di gweld unrhywbeth eto! Ro’n i’n ysu am fwy o stwff cwbwl wreiddiol fel’na.

Ond hyd yn oed pan mae’r ffilm yn teimlo’n gyfarwydd, mae’n gymaint o hwyl. Ar ddiwedd yr act gynta, mae’r Millennium Falcon yn byrstio’n ôl ar y sgrîn mewn steil, sy’n debyg o wneud i bawb godi ar eu traed a chymeradwyo. Ac mae’r hen ffefryn ‘na, y frwydr lightsaber, yn plesio hefyd – ac yn teimlo’n wahanol iawn i unrhyw un ‘da ni wedi ei weld o’r blaen. Mae’r coreograffi yn wych.

At y cymeriadau newydd – o ran y bobol dda, Finn sy’n sefyll allan. Dyma gymeriad sydd ag ochr dywyll iddo fo, ond hefyd mae’n fwy digri na bron iawn i unrhyw gymeriad arall yn y saga. Dyma un o fy hoff bethau am y ffilm – mae’r hiwmor oedd mor absennol o’r prequels yn ôl… ac yn wir, ella’n gryfach nac mewn unrhyw ffilm Star Wars arall. Mae Poe Dameron yn bywiogi’r ffilm bob tro mae o ar y sgrîn, er nad oes ‘na lawer o ddyfnder i’w gymeriad, ac mae’r un peth yn wir am Rey… er bod ‘na fwy i’w ddatgelu amdani hi, dwi’n meddwl. Hefyd, mae’n rhaid rhoi mensh bach i Maz Kanata (Lupita Nyong’o) – croes ryfedd rhwng Yoda a Jabba The Hutt, sy’n un o greadigaethau gorau’r ffilm. Dwi’n gobeithio gweld llawer mwy ganddi hi.

O ran y bobol ddrwg, dydi General Hux (Domhnall Gleeson), Captain Phasma (Gwendoline Christie) a Supreme Leader Snoke (Andy Serkis) ddim yn cael lot i wneud yn The Force Awakens, ond dwi’n siŵr gawn ni fwy gan rai ohonyn nhw yn y bennod nesa. Ond does dim ots am hynny. Mae’r holl ffilm yn gorwedd ar ysgwyddau Kylo Ren. Dyma gymeriad sy’n ei sefydlu ei hun fel un o’r baddies sinematig mwya eiconig erioed, bron yn syth. Mae’r cymeriad yn gyfuniad o sawl un ‘da ni wedi ei weld o’r blaen – mae’r adleisiau o Darth Vader yn gryf, mae’n teimlo fel ryw fath o anti-Luke Skywalker ar adegau, a ges i hyd yn oed fy atgoffa o berfformiad Hayden Christensen fel Anakin Skywalker yn y prequels… ond mewn ffordd dda. Dyma fersiwn o’r cymeriad yna ‘da ni i fod i’w ddrwglicio. Mae Adam Driver rywsut yn llwyddo i fod yn arswydus, yn sinistr, yn bathetig, yn sympathetig, a hyd yn oed yn ddigri, i gyd ar unwaith. Dyma, heb os, y cymeriad fydd yn ganolbwynt i’r gyfres newydd ‘ma, yn union yr un ffordd ag oedd Darth Vader yn ganolbwynt yr hen un.

O ran ein hen ffefrynnau… peidiwch a mynd i mewn i’r ffilm yn disgwyl gormod gan C3PO, R2-D2, na Luke Skywalker. Mae ‘na un neu ddau o leins digri gan Threepio, ac mae ei ymddangosiad byr yn well na’i holl ymddangosiadau yn y prequels, ond cameos sydd gan y ddau arall, i ddweud y gwir. Ond eto, mae’n gosod y sail ar gyfer mwy ganddyn nhw yn y dyfodol. Mae Carrie Fisher yn rhoi perfformiad solet fel Princess / General Leia yn rhan ola’r ffilm. Wnes i anghofio, rhag fy nghywilydd i, gymaint o actores dda ydi hi. Ac mae gweld hi’n rhannu’r sgrîn efo Harrison Ford unwaith eto yn un o uchafbwyntiau’r ffilm, yn bendant.

A, Harrison Ford. Mae ‘na gymaint o sôn wedi bod am ddiogrwydd ei berfformiadau diweddar. Roedd y rhan fwya’n meddwl bod sbarc ei berfformiadau cynnar fel Han Solo ac Indiana Jones wedi mynd yn llwyr. Dwi mor, mor hapus i riportio bod y sbarc yn ôl yn The Force Awakens. Os Kylo Ren ydi canolbwynt y ffilm o ran yr “Ochr Dywyll”, Han Solo ydi ei gyfatebydd ar yr ochr arall. Mae ‘na ddatblygiad pendant wedi bod yn y cymeriad, o sgeptig A New Hope i ddyn sydd – eto, heb sbwylio unrhywbeth – â’r “Force” bellach yn ran mawr iawn o’i fywyd. Ac eto, does ‘na ddim byd wedi newid. Mae cecru a chyfeillgarwch Han a Chewie mor gryf ag unrhywbeth yn The Empire Strikes Back. Dim byd llai na gwyrth.

Mae hyn i gyd yn newyddion da. Ond mae’n rhaid dweud fy mod i wedi teimlo ychydig yn anfodlon ar ddiwedd y ffilm. Fymryn bachAr ben yr holl homages at yr hen ffilmiau, mae ‘na lot fawr iawn o setup ar gyfer y bennod nesa. Mae’r cliffhanger ar y diwedd mor, mor greulon, ac yn gwneud i chi ysu am weld y ffilm nesa’n syth… llawer iawn mwy na diweddglo The Empire Strikes Back, hyd yn oed. Mae ‘na gymaint o fanylion am y prif gymeriadau eto i’w ddatgelu, ‘da ni byth cweit yn siŵr pa mor gryf ydi’r “First Order” mewn gwirionedd, nac ym mha stâd mae’r rhan fwya o’r galaeth, ac mae ‘na hyd yn oed flash-forwards at ddigwyddiadau sydd (dwi’n cymryd) eto i ddod yn y gyfres. Dywedwch be hoffech chi am y prequels, ond o leia roedd bob ffilm yn teimlo fel profiad cyflawn. Dydi hwn ddim.

Ond mae hynny’n broblem ar gyfer heddiw. Dwi’n siŵr, unwaith y gwelwn ni Bennod 8, y bydd The Force Awakens yn slotio’n neis i mewn i’r saga. Mae digon o gwestiynau ganddon ni rŵan, ond dwi’n sicr y bydd y cwestiynau yna’n cael eu hateb, ac y bydd y ffilm – er ei bod yn gryf yn barod – yn gwella gydag amser. Dwi’n medru dweud yn hyderus bod ‘na ddyfodol disglair i’r gyfres Star Wars. Alla i ddim disgwyl i weld lle mae nhw’n mynd â ni nesa.

– Elidir

Advertisements

3 Comments Add yours

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s