Comixology: Cariad Ar Yr Olwg Gynta?

Wnes i droi’n 30 yn ddiweddar. Ac er mwyn codi fy nghalon mymryn bach, a chymryd fy meddwl i oddi ar y ffaith bod bywyd yn fyr ac yn dipresing, wnes i brynu tabled.

Yn dilyn gweld y fideo yma, benderfynais i ar yr Nvidia Shield. Mae hwnna’n rhedeg gemau’n well nag unrhyw dabled arall, medda nhw, er does ‘na ddim gymaint o ddewis a gewch chi ar iPad. A dyna wnes i’n syth – lawrlwytho Hearthstone (wrth gwrs), a Threes, a Monument Valley, a llwyth o addasiadau o gemau bwrdd.

Ond wnes i ddim aros ar rheini’n hir. Achos wnes i hefyd gael gafael ar ap Comixology – siop sy’n eich galluogi chi i lawrlwytho comics a’u darllen nhw’n syth ar eich tabled, mewn HD, yn y gwely. Moethusrwydd llwyr.

Roeddwn i’n gwbod bod Comixology yn bodoli cyn hyn – ac mae ‘na ffyrdd eraill o gael gafael ar gomics digidol wrth gwrs, gan gynnwys y gwasanaeth Netflix-esque Marvel Unlimited. Ond mae gwybod amdano fo a’i ddefnyddio fo’n ddau beth gwahanol. Ges i afael ar rif #1 o’r gyfres Star Wars newydd gan Marvel, fel prawf bach… a disgyn mewn cariad yn syth. Gewch chi ddarllen stwff mewn ffordd draddodiadol, tudalen wrth dudalen, neu mewn ffordd mwy sinematig fyddai ddim yn bosib efo comics corfforol. Neu gyfuniad o’r ddwy ffordd.

Yn y gwely. Mewn HD.

Ddudis i hwnna’n barod?

A doedd y ffaith bod y comic Star Wars ddim yn hanner bad ddim yn brifo chwaith. Mae o mor braf gallu mwynhau Star Wars eto, dydi?

Ges i fy synnu braidd gan fy nghariad at yr ap, achos dim fi ydi’r ffan mwya o stwff digidol. Llawer gwell gen i brynu fy llyfrau, gemau, ffilmiau neu gerddoriaeth oddi ar silff na’u lawrlwytho nhw oddi ar ryw gwmwl sinistr. Ond ella bod ‘na resymau personol am hyn. Yn un peth, mae’r gornel bach o fy stafell sy’n berchen i fy nghasgliad comics bellach yn hollol llawn. Alla i ddim gwadu bod pethau fel Comixology yn llawer mwy cyfleus yn hynny o beth. A hefyd, wnes i ddim tyfu i fyny efo siop gomics yn agos, felly does gen i ddim unrhyw gysylltiad sentimental iddyn nhw. Fel rhywun sydd wedi cael siop Recordiau’r Cob ar ei stepan drws, ac amryw o siopau gemau, mae’r syniad o droi fy nghasgliad cerddoriaeth a gemau yn ddigidol yn gwneud i fi deimlo dipyn bach yn sâl. Ond does gen i ddim cweit yr un teimlad tuag at gomics.

Oeddech chi’n gwybod, gyda llaw, bod ‘na bedair siop gemau ym Mangor ar un pwynt? A dydi hynny ddim hyd yn oed yn cyfri’r siopau oedd yn gwerthu gemau ymysg pethau eraill, fel Woolworth’s a WH Smith’s. Oes aur.

Beth bynnag am hynny. Dwi’n argymell Comixology yn harti, os na ‘da chi wedi dyfalu hynny’n barod. Ond mae gan y gwasanaeth ei wendidau hefyd. Mae ‘na sawl comic sydd ddim ar gael drwy’r ap. Ro’n i’n edrych ymlaen at gael gafael ar lyfrau Johnny HiroGame Of Thrones, a Batman: Year 100. Ond na. Dim byd. Dyna un o wendidau gwasanaethau digidol fel’ma, wrth gwrs – ella bod y stwff yma i gyd ar gael o lefydd eraill. Ond dwi isio popeth mewn un lle. Go drapia hi.

Hefyd, mae’r prisiau yn… anghyson. Er eu bod nhw’n rhatach ar gyfartaledd na phrynu llyfrau oddi ar y silff, mae ‘na rai sy’n stiwpid o ddrud. Sylwch, er enghraifft, ar brisiau cyfres The Boys.

the boys

Un neu ddau yn saith bunt, rhai eraill yn £10 neu’n £12… ac eraill eto yn hofran rownd £30. Pam? Dydi hi ddim fel bod rhai yn fwy prin na’i gilydd. Gwirion bost.

Ond ta waeth. Er ei holl ffaeleddau, mae Comixology wedi ailgynnau fy nghariad at gomics, mewn steil. Yn ddiweddar, dwi ‘di bod yn hapusach yn eu darllen nhw – mewn HD, yn y gwely – nag ydw i yn chwarae’r rhestr hir o gemau i’w gorffen ar fy silff. Ac mae hynny’n dweud lot. Dwi’n mwynhau’r gyfres wych Locke & Key ar y funud, ac mae ‘na gymaint o gyfresi eraill dwi’n edrych ymlaen at ddeifio i mewn iddyn nhw – Batman, Chew, Rat Queens, Doom Patrol, a Squirrel Girl, ymysg llawer o rai eraill. Dwi wedi tanysgrifio at Star Wars yn barod, ac fe fydd fy nhanysgrifiad i The Walking Dead yn troi’n ddigidol hefyd.

Mae’n amser da iawn i fod yn ffan o gomics, dwi’n meddwl. Dwi’n ecseited.

Felly, oes rhywun arall wedi defnyddio Comixology, neu wasanaethau tebyg? Oes ‘na unrhyw bwyntiau am yr ap – da neu ddrwg – dwi ‘di anghofio amdanyn nhw? Ac fel arfer, os allech chi argymell unrhyw gyfresi, dwi’n glustiau i gyd.

Dwi off i’r gwely rŵan.

‘Da chi’n gwbod yn iawn pam.

– Elidir

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s