Mae hi’n amser eitha da i fod yn ffan o’r gyfres The Legend Of Zelda. Mae ‘na gêm newydd ar y Wii U yn cyrraedd cyn diwedd y flwyddyn, fersiwn 3D o Majora’s Mask newydd ei ryddhau ar y 3DS (a hyfryd iawn ydi o hefyd), ac mae Netflix hyd yn oed yn edrych i mewn i’r posibilrwydd o gynhyrchu rhaglen deledu yn seiliedig ar y gyfres. A do’n i byth yn meddwl bysa unrhywbeth felly’n digwydd.
Felly pa amser gwell i edrych yn ôl ar 30 mlynedd o atgofion o’r gyfres ora erioed™? Mae’n rhoi esgus i ni bostio ein hoff glip fideo eto, wedi’r cwbwl.
Ocarina Of Time: y dechrau
Dychmygwch y peth: ‘da chi’n 13 oed, a newydd agor Ocarina Of Time ar fore Dolig. ‘Da chi ddim eto’n gwybod yn union pa mor dda fydd y gêm, nac y bydd lot o bobol, yn y blynyddoedd i ddod, yn dadlau mai dyma’r gêm gora erioed. I gyd sydd ganddoch chi ydi’r profiad. Y profiad o ddeffro yn eich gwely a chrwydro o gwmpas goedwig y Kokiri, niwl yn gorchuddio’r llawr, pryfaid tân yn dawnsio drwy’r awyr. Y profiad o frwydro eich ffordd drwy berfeddion y Great Deku Tree, yn un o’r lefelau mwya eiconig mewn gemau erbyn hyn. Ac yna, ar ôl bymblo o gwmpas am ryw awr, ‘da chi’n gadael y goedwig am y tro cynta, ac mae’r byd mawr tu hwnt yn cael ei ddatgelu am y tro cynta.
Mae’n foment sydd wedi ei efelychu mewn sawl gêm wedi hynny, fel Oblivion a Fallout 3. Ond Zelda wnaeth o gynta. Bythgofiadwy.
Majora’s Mask: y dechrau (eto)
Ac os ydi dechrau Ocarina Of Time yn freuddwydiol ac yn llawn gobaith, mae Majora’s Mask, y gêm nesa yn y gyfres, yn hunllefus. Yn dilyn diwedd Ocarina, mae’n harwr wedi gadael ei gartref ar ôl a bellach yn crwydro’r goedwig yn chwilio am ei ffrind Navi, y tylwyth teg… sydd hefyd wedi ei adael. Wedyn mae ‘na ddiawl bach yn dwyn ei geffyl ac yn trawsffurfio ei siâp. Ac yna, i goroni popeth, mae o’n cyfarfod yr Happy Mask Salesman, un o’r cymeriadau mwya crîpi mewn gemau.
Mewn gêm llawn darnau bach hyfryd a thywyll, mae’n cychwyn pethau mewn steil, ac yn bygwth taflu cysgod dros weddill y peth. Ond dydi o ddim. Mae Majora’s Mask yn grêt.
Ond peidiwch a chymryd fy ngair i am y peth. Mae Keza MacDonald o Kotaku wedi sgwennu am y gêm yn lot gwell na fi. Fan hyn, ylwch.
The Wind Waker: y siwrne o dan y dŵr
Mae ‘na deimlad o ryddid i The Wind Waker sy’n debyg iawn i’r teimlad ‘da chi’n gael o grwydro byd Ocarina Of Time. Er ei fod o’n mynd braidd yn undonog erbyn diwedd y gêm, mae’r tro cynta ‘da chi’n hwylio’r môr mawr yn brofiad i’w drysori. Bron na allech chi deimlo’r gwynt yn eich gwallt. Ond be sy’n digwydd o dan y dŵr, hanner ffordd drwy’r gêm, sy’n wirioneddol arbennig.
‘Da chi’n gwneud eich ffordd i lawr at hen gastell Hyrule, wedi ei rewi mewn amser, cerfluniau o arwr Ocarina Of Time dros y lle. Ac yna ‘da chi’n camu tu allan, ac o’ch blaen chi mae’r hen deyrnas, caeau a bryniau gwyrdd yn ymestyn o’ch blaen chi.
Allwch chi ddim eu crwydro nhw, wrth gwrs, ond mae’n olygfa sy’n llwyddo eich atgoffa o gemau fel Ocarina, a thynnu sylw at gryfderau Wind Waker ar yr un pryd.
A Link To The Past: y byd tywyll
A Link To The Past oedd y gêm Zelda cynta i fi chwarae, ac mae’n un sydd wedi dylanwadu’r gemau ddaeth ar ei ôl mewn sawl ffordd – o ran adeiladwaith, a stori, a chynllun. Sawl gwaith wedi’r un yma, mae byd y gemau Zelda wedi eu rhannu’n ddwy ran mewn ryw ffordd, o orffennol a dyfodol Ocarina Of Time, i fyd mawr a byd bach The Minish Cap, i’r byd “twilight” sy’n torri drwy fyd mwy confensiynol Twilight Princess. Ond fe allwch chi ddadlau bod byd “golau” a byd “tywyll” A Link To The Past yn eu taflu nhw i gyd i’r cysgod.
Cysgod. Dallt?
Sori. Doedd neb wedi gweld unrhywbeth tebyg mewn gemau o’r blaen. Mae’r byd “golau” ar gychwyn y gêm yn ddigon mawr, ond i ddarganfod ychydig o oriau i mewn bod y gêm ddwywaith mor fawr, a’ch bod chi’n gallu neidio rhwng bydoedd i ddatrys posau mewn ffordd gwirioneddol wreiddiol? A bod holl elynion a chymeriadau’r byd tywyll yn wahanol i’r rhai yn hanner arall y gêm? Athrylithgar.
Skyward Sword: y diwedd
Dwi ddim yn meddwl bod Skyward Sword ymysg y gemau Zelda gora. Mae rheoli’r peth yn gallu bod yn lletchwith, dydi’r byd ddim yn fawr iawn, a ‘da chi’n dueddol o wneud yr un pethau drosodd a throsodd. Ond o ran y stori, bosib iawn bod o heb ei ail. Fel y gêm Zelda cynhara yn gronolegol, mae’n gosod seiliau ar gyfer yr holl gyfres i ddod, o’r berthynas rhwng Link a Zelda, i rôl y Triforce yn y byd, i hanes y Master Sword – un o’r arfau mwya eiconig mewn gemau.
A’r cleddyf yna – neu’n hytrach, ysbryd y cleddyf, sydd wedi bod yn eich cynghori ar hyd y gêm – sy’n gyfrifol am foment mwya emosiynol yr holl gyfres. Ar ôl i chi drechu’r bos ola, mae hi’n diolch i chi am eich ymdrechion, cyn mynd i gysgu am byth. Dyma’r olygfa fan hyn, os oes ganddoch chi focs o hancesi papur yn handi.
Ar ben hyn i gyd, mae ganddoch chi dro yn y stori reit ar y diwedd wnes i ddim gweld yn dod, lot o gyfeiriadau at y gemau eraill, a dros y credydau, y fersiwn gora o thema’r gemau Zelda sydd erioed wedi ei recordio. Wna i fynd yn bellach na hynny, a chynnig mai dyma’r gerddoriaeth orau mewn unrhyw gêm. Ffwl stop.
Steddwch nôl felly. Rhowch eich traed i fyny, a’r tecell mlaen. A mwynhewch.
Da ‘di Zelda.
– Elidir