Ymddiheuriadau – mae hi wedi bod yn sbel ers y cofnod diwetha. Ond dwi newydd ddod yn ôl o drip bach i ffwrdd. Gweithio oedd prif amcan y daith, ond fel unrhyw nyrd da, wnes i hefyd droi fyny efo bag llawn gemau bwrdd. Ges i dri diwrnod o chwarae, oedd yn profi drosodd a throsodd pam mai chwarae gemau bwrdd efo ffrindiau ydi’r peth gora yn y byd.
A roedd o hefyd yn profi, unwaith ac am byth, mai nid ennill ydi bob dim.
Ond mae’n rhaid i ddeud hwnna. Achos dydi fy record i dros y dyddiau diwetha ddim… ddim yn grêt.
Wnewch chi ymuno efo fi ar siwrne o hwyl a siomedigaeth?
DYDD GWENER
Zombie Dice
Gêm syml iawn, ond ella’r gêm fwrdd dwi wedi ei chwarae fwya. Mae Zombie Dice yn berffaith i gychwyn sesiwn, neu hyd yn oed i gyflwyno pobol i gemau.
Fyddwch chi’n zombies yn rowlio dîs, yn trio cael brêns blasus ac osgoi cael eich saethu. Y strategaeth – yr unig strategaeth – ydi stopio rowlio cyn i chi gael eich saethu dair gwaith, sy’n gwneud i chi golli’ch brêns i gyd (wel, fysa fo, bysa?). Mae’n neis ac yn ysgafn. A wnes i ennill. Ond jyst achos mai gêm o lwc ydi o. Peidiwch a chodi eich gobeithion.
Fi: 1 Gweddill y Byd: 0
Hanabi
Ennillydd gwobr Spiel Des Jahres (Gêm y Flwyddyn) 2013, mae Hanabi yn gêm gardiau lle mae’r chwaraewyr yn gweithio efo’i gilydd i drefnu’r sioe dân gwyllt orau posib. Allwch chi sgorio rhwng 1 a 25 o bwyntiau, neu golli’n gyfangwbwl os ‘da chi’n gwneud gormod o gamgymeriadau. Rŵan, unwaith dwi wedi chwarae Hanabi o’r blaen, a gawson ni 18 o bwyntiau. I fi, felly, fysa unrhywbeth rhwng 18 a 25 o bwyntiau yn fuddugoliaeth.
17 o bwyntiau gawson ni.
Wel, bygyr.
Fi: 1 Gweddill y Byd: 1
Chinatown
Ar ôl i adolygiad gwefan Shut Up & Sit Down o Chinatown wneud i’r gêm edrych yn dda iawn, iawn, fe ddois i o hyd i gopi, a’i chwarae am y tro cynta fan hyn. A dydi o ddim yn dda iawn, iawn.
Mae o’n well na hynny.
Yn fewnfudwyr i Efrog Newydd yn y 60au, fyddwch chi’n brwydro efo’ch gilydd i adeiladu ardal Tseiniaidd y ddinas, wrth brynu clytiau gwag o dir i ddechrau, ac yna adeiladu busnesi arnyn nhw. Ond dim ond fframwaith ydi hwnna ar gyfer prif apêl y gêm: bargeinio a ffraeo efo’ch gilydd dros berchnogaeth ohonyn nhw. Dychmygwch gêm o Monopoly, ond yn llawer, llawer mwy agored. Roedd ‘na rannau o’r gêm lle roedd ‘na dri neu bedwar ohonom ni yn trio bargeinio efo’n gilydd ar unwaith, a sawl gwaith lle oedd ‘na ddwy drafodaeth ffyrnig yn digwydd ar draws y bwrdd. Er bod fy ffrindiau yn ansicr am y gêm i ddechra, dyma oedd uchafbwynt y penwythnos yn sicr. Ewch chi ddim o’i le efo Chinatown.
Ond dim fi ennillodd. Trydydd o bedwar o’n i. Fydda i ddim yn symud i Efrog Newydd yn fuan, ‘lly…
Fi: 1 Gweddill y Byd: 2
Mancala
Wedi i bawb arall fynd i’r gwely, roedd boi o’n i’n aros efo fo o’r enw Declan isio dal i chwarae. Felly wnaeth o fy nghyflwyno i Mancala – un o deulu o gemau sydd ymysg y rhai hyna yn y byd.
Mae’n anodd esbonio’r rheolau heb weld y gêm yn cael ei chwarae, ond mae o i fod i efelychu’r broses o ffermio. Fyddwch chi’n symud “hadau” (peli pren) o “fferm” i “fferm” (tyllau yn y bwrdd), yn trio dwyn rhai y chwaraewr arall. Roedd o’n rhyfeddol o hwyl. Dwi isio darganfod mwy am gemau hynafol, i ddeud y gwir. Ac ar ôl colli ddwywaith, wnes i ddod yn ôl mewn steil i gipio’r gêm ola. Ond doedd y noson ddim drosodd…
Fi: 2 Gweddill y Byd: 4
Backgammon
Wnaeth Declan estyn bwrdd Backgammon o rhywle. Isio buddugoliaeth arall, debyg, achos do’n i erioed wedi chwarae hwn o’r blaen chwaith. Ond wyddoch chi be? Achos bod ‘na elfen gref o lwc yn ran o’r gêm…
… ac ella – ella – achos bod Declan wedi fy helpu i…
… wnes i ennill mewn steil. Nos da, bawb.
Fi: 3 Gweddill y Byd: 4
DYDD SADWRN
Backgammon (eto)
Y bore wedyn, wnes i a Declan chwarae Backgammon eto, yn defnyddio rheolau dipyn bach yn wahanol. Ac, yn dangos bod beginner’s luck yn beth hollol wir, wnes i golli’n handi. Damia.
Fi: 3 Gweddill y Byd: 5
Mancala (eto)
Gêm arall o Mancala ddaeth nesa, rhwng fi a fy ffrind Rhys. Colli oedd fy hanes i. Ddim yn ddechrau gwych i Ddydd Sadwrn…
Fi: 3 Gweddill y Byd: 6
Machi Koro
I’r dafarn wedyn, i watshiad pêl-droed. Ond doedd y pêl-droed ddim ymlaen. Be well, felly, na chwipio gêm arall allan?
Mae Machi Koro yn gêm o Siapan lle fyddwch chi’n adeiladu tre fach ciwt ac yn rowlio dîs i gael arian, yn dibynnu ar ba adeiladau sydd ganddoch chi. Mae o’n sylfaenol debyg i gemau fel Settlers Of Catan, ond yn defnyddio cardiau yn hytrach na bwrdd, a ddim yn mynd ymlaen mor hir. Roedd ‘na gymaint o heip cyn rhyddhau hwn, efo termau fel “un o’r gemau gorau erioed” yn cael eu taflu o gwmpas y lle, wili-nili. Dydi o ddim cweit yn byw i fyny i’r broliant yna, ella, ond mae ‘na estyniadau ar y ffordd sy’n gaddo rhoi bywyd newydd i’r gêm. Ond mae o dal yn lot o hwyl, cofiwch, ac yn werth ei gael. A wnes i ennill!
Fi: 4 Gweddill y Byd: 6
DYDD SUL
Game Of Thrones: The Card Game
Am rai misoedd bellach, dwi a fy ffrind Nick wedi bod yn dysgu chwarae’r gêm gardiau Game Of Thrones. Ryw wyth o gemau’n ddiweddarach, ‘da ni’n gallu chwarae heb y rheolau o’n blaena ni. Dim dyma’r gêm symla yn y byd. Ond mae o werth yr ymdrech, achos sut arall allwch chi ddarganfod pwy fysa’n ennill ffeit rhwng y Brenin Joffrey a Hodor?
Hefyd, ‘da chi byth yn siŵr sut mae’r gemau’n mynd i fynd – allen nhw fod yn hynod o unochrog, neu’n newid yn gyfangwbwl o fewn un rownd. ‘Da ni wedi cael gemau lle roedd un ohonom ni’n sicr o ennill, ond yna’n colli ar y foment ola.
Y sgôr ar ddiwedd y gêm yma?
15 – 1 i Nick.
Fi: 4 Gweddill y Byd: 7
Munchkin
I orffen yr holl sioe, wnaeth Declan gynnig ein bod ni’n chwarae ei gopi o Munchkin – gêm sy’n efelychu’r profiad o chwarae rhywbeth fel Dungeons & Dragons, ond heb unrhyw fath o chwarae rôl, ac efo pawb yn brwydro yn erbyn ei gilydd yn hytrach na chydweithio. Ac efo dôs go hegar o hiwmor stiwpid.
Rŵan, er ‘mod i’n berchen ar Munchkin hefyd, do’n i’m yn siŵr iawn o’n i isio chwarae. Dydi o ddim yn gêm ffasiynol iawn ar y funud. Does ‘na ddim lot fawr iawn o strategaeth, a dydi o ddim wedi ei ddylunio’n dda iawn – ar bwrpas, ella. Mae ‘na amryw o reolau yn gwrthddweud ei gilydd, ac mae’n rhaid i’r chwaraewyr ddadlau drostyn nhw byth a beunydd. Ac mae’r rheolau’n gymhleth yn gyffredinol. Triwch chi esbonio’r peth i rywun sy’n newydd i’r peth. Hunllefus.
Ond dyma’r peth. Ar ôl dechra dipyn bach yn anodd, aeth pawb i ysbryd y peth, a gawson ni lot fawr iawn o hwyl. Achos mae ‘na gemau da a gemau gwael, oes, ond mae’r profiad ‘da chi’n debyg o’i gael yn dibynnu mwy ar y chwaraewyr na’r gêm ei hun. Ellith criw o surbychiaid diflas sbwylio gêm o Chinatown neu Machi Koro, tra bod criw da yn gallu rhoi bywyd newydd i gemau fel Munchkin neu Monopoly.
Wel… ella ddim Monopoly.
Ac mae’n falch gen i ddweud bod yr hogia a’r genod oedd efo fi’r diwrnod yna yn griw da iawn, iawn. Mae profiadau fel’na yn crisialu pam dwi’n chwarae gemau yn y lle cynta. Dydi o ddim am bwy sy’n ennill a cholli, wedi’r cwbwl.
Ond mae’n rhaid i fi ddeud hwnna, does? Achos er ‘mod i wedi trio taflu popeth at Nick, i ddial dros Game Of Thrones… fo ennillodd eto.
Fi: 4 Gweddill y Byd: 8
O, wel. Tro nesa.
– Elidir
[…] i Fryste, lle wnes i chwarae llwyth o gemau bwrdd. A cholli’n racs. Hei, dyma’r darn fan hyn. Rhybudd: dwi’n mynd braidd yn sopi ar y […]
[…] ni wedi sôn droeon ar f8 am gemau bwrdd modern, a pa mor hollol, hollol briliant ydyn nhw. Wir yr. Fedrwn ni’m stopio mynd ymlaen am y […]