Byw Mewn Byd Ffantasi

Mae hi’n adeg ara deg ym myd y gemau, efo dim ond Grim Fandango Remastered Majora’s Mask 3D yn ticlo fy ffansi dros y mis a hanner nesa. Be am droi, felly, at bwnc hollol wahanol?

Dwi’n hoff iawn o ffantasi. Ffantasi pylp. Ffantasi parchus. Fighting Fantasy. Bob math o stwff. Y cewri, wrth gwrs, ydi J.R.R. Tolkien a George R.R. Martin. Os ‘da chi erioed ‘di darllen gwaith yr un o rheini…

1) Rybish. ‘Da chi’n deud celwydd.
2) Be ‘da chi’n wneud yn darllen hwn?
3) Go-iawn? ‘Da chi o ddifri? Waw. ‘Da chi ‘di wastio’ch bywyd.
4) Ewch i ddarllen nhw. Rŵan.

Ond os ydach chi wedi gwneud, ac isio twrio dipyn yn ddyfnach i mewn i’r genre, lle ddylsach chi droi?

Stopiwch boeni, wir Dduw. Dwi yma i’ch helpu chi.

Daniel Abraham – The Long Price

51fI-yXgf+L

Oni bai am y cewri efo “R.R.” yn eu henwau, dyma fy hoff awdur ffantasi. Does ‘na ddim dreigiau, na chorachod, na dewinod traddodiadol yma. Ond mae o’n grêt beth bynnag, ac yn antidôt da i gymhlethdod dwys A Song Of Ice And Fire.

Yn gyfres o bedwar llyfr, mae The Long Price yn dilyn dau ffrind (sydd, o bryd i’w gilydd yn y gyfres, yn ddau elyn), o’u plentyndod i’w henaint, wrth iddyn nhw chwarae rôl bwysig yn hanes eu byd nhw. Mae’n fyd ffantasi hollol unigryw, wedi ei ddylanwadu mwy gan draddodiadau a diwylliant y dwyrain na ffantasi mwy “Ewropeaidd” Tolkien a’i ddilynwyr. Y prif bŵer yn y byd – a ddylsa hyn fod yn gyfarwydd i ni’r Cymry – ydi’r beirdd. Ond, yn wahanol i’n beirdd ni, sydd byth yn gwneud unrhywbeth mwy pwysig na chael sgôr o naw a hanner ar y Talwrn, mae’r beirdd yma yn gallu siapio a rheoli realaeth ei hun.

Wrth ddisgrifio syniad yn berffaith, mae nhw’n gallu rhoi corff dynol i’r syniad yna, a’i reoli – er bod y syniad, neu’r andat yn nherminoleg y llyfrau, wastad yn trio dianc o’u rheolaeth nhw. Mae’r llyfr cynta er enghraifft, A Shadow In Summer, yn canolbwyntio ar Seedless, andat sydd ar un llaw yn gallu rheoli cnydau’r gelyn hanner ffordd ar draws y byd, ond hefyd yn medru gwneud pobol yn anffrwythlon jyst wrth feddwl am y peth. A dydi o ddim isio ufuddhau i’w feistri…

Syniad gwych. Llyfrau gwell. Dwi’n bwriadu troi at stwff arall Daniel Abraham yn fuan, ond dwi’n amau alla fo gyrraeth gwreiddioldeb y gyfres yma. Mae o’n cael sêl o gymeradwyaeth Fideo Wyth. Os ydi hwnna’n meddwl unrhywbeth.

Jack Vance – The Dying Earth

sam_1501-e1325387474664

‘Da ni’n mynd yn ôl mewn amser efo hwn. Yn gyfres o straeon byrion mewn pedair cyfrol, wedi eu cyhoeddi rhwng 1950 a 1984, mae rhain ymysg ffefrynnau George R.R. Martin. Sut dwi’n gwbod? Achos ddudodd o wrtha i ei hun.

Ia. Dyna fi, @ElliotSquash ar Twitter, wedi cael ryw fath o gysylltiad efo’r dyn ei hun. Cerwch i grafu.

Dydi The Dying Earth, chwaith, ddim yn ffantasi traddodiadol. Mae ‘na rai darnau, yn wir, sy’n fwy tebyg i ffuglen wyddonol, a does ‘na ddim gymaint o ddyfnder i’r byd a gewch chi gan awduron eraill. Ond all neb wadu bod Jack Vance yn feistr ar adrodd stori. Hoff lyfrau’r rhan fwya o bobol yn y gyfres ydi’r ddau yn y canol, The Eyes Of The Overworld Cugel’s Saga, sy’n dilyn anturiaethau Cugel The Clever, un o’r gwrtharwyr gorau mewn llenyddiaeth. Ffwl stop.

Ac os oeddech chi’n meddwl bod [SPOILERS] marwolaeth Ned Stark yn Game Of Thrones yn dro annisgwyl mewn stori [DIWEDD SPOILERS], disgwyliwch tan i chi orffen The Eyes Of The Overworld. Wnewch chi un ai gymeradwyo Jack Vance am ei ddewrder, taflu’r llyfr ar draws y stafell, neu fynd yn wallgo.

Joe Abercrombie – The First Law

the-first-law-the-blade-itself-joe-abercrombie

Stwff dipyn bach mwy traddodiadol fan hyn, ac er dydi’r tri llyfr yng nghyfres The First Law ddim yn cyrraedd uchelfannau gwaith Daniel Abraham, mae nhw dal yn werth sgan.

Mae ganddoch chi ddewinod. Mae ganddoch chi frenhinod llwfr. Mae ganddoch chi farbariaid o’r gogledd.

A wir, pam bod nhw bob tro o’r gogledd? Shenanigans.

Y cymeriad gora o bell ffordd ydi Glokta, cyn-arwr milwrol sydd wedi ei arteithio gymaint, prin mae o’n gallu cerdded… a be well i wneud, felly, na dod yn arteithiwr ei hun? Fyswn i’n darllen mwy o lyfrau amdano fo mewn amrantiad.

Mae ganddoch chi’r holl gynhwysion ar gyfer ffantasi da. A, gan amla, mae Joe Abercrombie yn llwyddo i dynnu popeth at ei gilydd yn neis. Mae ‘na ddigon i’w fwynhau yma, cyn belled a’ch bod chi’n mynd i mewn yn deall bod diwedd y gyfres ddim yn gorffen pethau’n foddhaol. O gwbwl.

Ond dyna ni. Does ‘na neb yn berffaith. Gan gynnwys fi, coeliwch neu beidio.

A dyna rai o fy ffefrynnau. Oes ganddoch chi lyfrau ffantasi ‘da chi’n hoff ohonyn nhw sydd ddim yma? Rhowch wbod yn y sylwadau, neno’r tad.

A cyn gadael y pwnc yma, be am roi sylw – achos yn ôl cyfreithiau Hywel Dda, mae’n rhaid i fi – i’r prinder o ffantasi epig yn y Gymraeg. Mae ganddoch chi stwff fel Igam Ogam gan Ifan Morgan Jones, ond mae gan y llyfr yna un droed yn y byd go-iawn – ella yn debycach i Harry Potter na Lord Of The Rings. Dim bod unrhywbeth yn bod efo hynny. Ac, wrth gwrs, llyfrau Robin Llywelyn – ond dwi ddim yn bersonol yn gweld unrhyw ddyfnder yn rheini. Dwi ddim yn gweld llawer o arwydd bod o wedi meddwl am hanes a diwylliant ei fyd – mae’r broses yna, worldbuilding, sydd mor bwysig i unrhyw ffantasi da, ar goll yn llwyr, i fi weld. Ryw amrywiaeth ar y chwedl sydd ganddo fo, dwi’n meddwl, a dim “ffantasi”, fel ‘da ni’n deall y term heddiw.

Waw. Mae petha ‘di mynd yn ddwys yma. Ac ella ‘mod i’n siarad drwy fy het. Fydd criw Gwyddonias yn gwbod mwy am hyn na fi, dwi’n siŵr. Ond mae hi’n hen bryd i rywun sgwennu ffantasi epig Cymraeg. ‘Sa chi’m yn deud?

Hint hint.

Digon o nonsens. Ewch i ddarllen.

– Elidir

3 comments

  1. Cwpl o fy ffefrynnau:

    ‘The Book of the New Sun’ gan Gene Wolfe. Mae’n gyfres o bedwar nofel sy’n fach fel Jack Vance — mae’r stori wedi ei lleoli ymhell yn y dyfodol, ac mae ‘na elfennau o ffuglen wyddonol a ffantasi ynddynt. Maen nhw’n adrodd fel y daeth yr arteithwr Severian yn ymerawdwr (ac efallai Meseia) ar ffurf hunangofiant, ond er bod cof Severian yn berffaith, nid yw’n adrodd y gwirionedd trwy’r amser…

    Mae nofelau Guy Gavriel Kay yn dda hefyd — mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n nofelau ffantasi sydd wedi seilio’n agos ar gyfnodau hanesyddol. Mae’r ddau ddiweddaraf, ‘Under Heaven’ a ‘River of Stars’, sydd wedi selio ar hanes Tsiena (cwymp y Tang yn y nofel gyntaf, a chwymp y Song Gogleddol yn yr ail) yn arbennig o dda. Kay oedd y boi wnaeth helpu Christopher Tolkein i olygu’r ‘Silmarilion’, ac mae’n dangos.

    Fe ysgrifenwyd nofel ffantasi Tolkeinaidd yn y Cymraeg gan Andreas Milward yn 90au, ond sai’n cofio llawer amdano. Un o’r problemau gyda genre llenyddol fel ffantasi (ac, i ddweud y gwir, ffuglen wyddonol hefyd) yw ei fod yn rhyw fath o drafodaeth — mae Moorcock a le Guin (e.e.) yn ymateb i Tolkein, neu Abercrombie i Martin, neu Michael Swanwick (yn ‘The Iron Dragon’s Daughter’ — llyfr gwych ond tywyll iawn) i elfenau sylweddol o ffantasi yn cyffredinol. Os nad oes neb yn y byd llenyddol Cymraeg yn gwybod llawer am y trafodaeth yma, does dim llawer o gynilleidfa am nofel sy’n rhan ohoni.

    Fe ysgrifennwyd nofel ffantasi Tolkeinaidd yn y Gymraeg gan Andreas Milward yn 90au, ond sai’n cofio llawer amdano. Un o’r problemau gyda genre llenyddol fel ffantasi (ac, i ddweud y gwir, ffuglen wyddonol hefyd) yw ei fod yn rhyw fath o drafodaeth — mae Moorcock a le Guin (e.e.) yn ymateb i Tolkein, neu Abercrombie i Martin, neu Michael Swanwick (yn ‘The Iron Dragon’s Daughter’ — llyfr gwych ond tywyll iawn) i elfennau sylweddol o ffantasi yn gyffredinol. Os nad oes neb yn y byd llenyddol Cymraeg yn gwybod llawer am y drafodaeth yma, does dim llawer o gynulleidfa am nofel sy’n rhan ohoni. Heddiw mae ffantasi yn fwy ‘mainstream’, felly efallai nad yw hyn yn gymaint o broblem ag oedd hi, ond i gael rhywfaint o ffantasi Tolkeinaidd sydd yn ddigoneddol wreiddiol ac sydd o safon dda, mae rhaid cael marced dda sydd yn llawn o nofelau crap (ac yn y Saesneg, mae ‘na fwy o nofelau ffantasi crap na sêr yn y nen) fel rhyw fath o sylfaen er mwyn cadw’r drafodaeth yn fyw. Does dim llawer o syniad ‘da fi am beth i wneud am hyn, ond hoffwn i weld mwy o lyfrau (a straeon byrion) ffantasi yn y Gymraeg. (Dwi wedi dod i hoffi nofelau hanesyddol ond dydyn nhw ddim cweit yr un peth…)

    • Gwych! Diolch am y sylw. Wna i fynd i chwilota am lyfr Andras Millward – wedi darllen un neu ddau o’i bethau SF flynyddoedd yn ôl.

      Pwynt da am ffantasi yn Gymraeg. Dwi’n meddwl y byddai beirniadaeth o ffantasi Gymraeg yn diodde, yn sicr, gan bod gan y rhan fwya o lenorion “parchus” ddim clem am y genre. Ond dwi’n meddwl ella bod ‘na gynulleidfa erbyn hyn. Ond ia, bosib bod y diffyg traddodiad a chystadleuaeth yn broblem. Dal i fwriadu mynd ati i wneud straeon byrion yn eitha buan… ac ella mai fi fydd yr awdur rybish sy’n ysgogi’r rhai gwell!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s