Ffeitin Ffantasi

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Chwefror 12, 2014.

Math gwahanol o gemau fydd gen i dan sylw heddiw. Gemau sydd ddim ar sgrin, nac ar fwrdd…

…ond yn eich DYCHYMYG.

Ac ar dudalennau llyfr.

O, caewch hi.

Yn 1982, gyda chyhoeddi The Warlock of Firetop Mountain gan Steve Jackson ac Ian Livingstone, fe ddechreuodd y gyfres Fighting Fantasy. Dwi’n siŵr bod lot ohonoch chi’n gyfarwydd efo’r gyfres. Ond os ‘da chi ddim – a gyda llaw, ‘da chi wedi wastio’ch bywyd – roedd Fighting Fantasy yn ymgais i efelychu’r profiad o chwarae rwbath fel Dungeons & Dragons, ond ar eich pen eich hun, yn pwyntio fflachlamp at dudalennau’r llyfr, o dan ddillad y gwely.

Eto. Wedi wastio’ch bywyd.

Efo dau ddis, pensel, a rhwbiwr, roeddech chi’n neidio’n wyllt o gwmpas y llyfr, yn dewis i ymladd bwystfilod neu i ddianc ohonyn nhw, yn datrys posau, ac yn symud yn ara deg tuag at lwyddiant neu (yn fwy tebyg na pheidio) methiant llwyr. Roedd y gyfres yn dipyn o ffenomenon am flynyddoedd maith, Jackson a Livingstone wedi cael cenhedlaeth o blant i ddarllen lle oedd pawb arall wedi methu – gyda Christnogion, wrth gwrs, yn cyhuddo’r gyfres o fod yn waith Satan fel canlyniad. Mae’r holl hanes i’w gael yma.

Aeth y gyfres wreiddiol ymlaen tan 1995. Erbyn hynny, roedd poblogrwydd y peth wedi hen ferwino, er fy mod i wedi cario mlaen i’w prynu nhw ymhell ar ôl hynny. Ond am dros ddeng mlynedd bellach mae lot o’r hen gyfres wedi eu hailargraffu, llyfrau newydd wedi eu hysgrifennu, a rhai o lyfrau mwya poblogaidd y gyfres wedi eu trosi’n ddiweddar i iOS ac Android, gyda chryn lwyddiant. Ac er mai dim fi ydi ffan mwya gemau symudol, mae hynny’n sicr yn beth da. A chwarae teg, mae nhw’n edrych yn briliant.

A dim dyma’r tro cynta i lyfrau’r gyfres gael eu haddasu fel gemau cyfrifiadur. Gafodd Deathtrap Dungeon ei ryddhau ar y Playstation nôl yn 1998. Mae o’n edrych dipyn bach yn rybish. Gafodd The Warlock of Firetop Mountain gêm Nintendo DS yn 2009, sydd hefyd i fod ychydig bach yn crap. Ac, wrth gwrs, roedd ‘na gyfres o gemau Fighting Fantasy i’r Commodore 64 a’r ZX Spectrum yn yr 80au.

Jacpot.

Ond wnaeth Ian Livingstone yn iawn am holl gamau gweigion Fighting Fantasy yn y byd digidol wrth greu Tomb Raider. Ac ar ben hynny, Jackson a Livingstone gychwynnodd cwmni Games Workshop, sydd ella’n fwya adnabyddus am roi Warhammer i ni. Mae nhw’n dduwiau i nyrds dros y byd.

Fedra i ddim gorbrisio dylanwad Fighting Fantasy arna i. Er bod ‘na lyfrau yn y gyfres wedi eu lleoli mewn byd sci-fi, ac yn y byd go-iawn, roedd y rhan fwya wedi eu lleoli mewn byd ffantasi o’r enw Titan. Rhein afaelodd yn fy nychymyg i. Er bod Titan dipyn yn ystrydebol o ran byd ffantasi, yn llawn Orcs a chorachod ac ati, a ddim yn cynnig unrhywbeth hollol newydd, wnes i ddarllen llyfrau Fighting Fantasy cyn i fi ddarllen unrhyw lyfrau ffantasi eraill. Wnes i ddechrau darllen gwaith J.R.R. Tolkien yn uniongyrchol achos ‘mod i wedi mwynhau Fighting Fantasy gymaint – ac o fanno (ar ôl dipyn o frêc), wnes i symud ymlaen at George R. R. Martin, a Jack Vance, a Steven Erikson (peidiwch â boddran), a Daniel Abraham, a Joe Abercrombie. A Zelda. A Skyrim. A Dark Souls. Ac yn y blaen. Ffantasi ydi’r genre dwi’n dychwelyd ato fo drosodd a throsodd. Fy lle hapus.

A dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y llyfr swmpus am y gyfres sy’n dod allan. Tysa fo ddim drosodd yn barod, fyswn i’n deud wrthoch chi i gyfrannu at yr apêl Kickstarter. Ond ‘da chi’n rhy hwyr, dydach? Dim fel fi. Cŵl dŵd.

Felly cwpwl o gwestiynau i orffen:

1) Fysa Fighting Fantasy yn gweithio tysa fo’n cael ei lawnsio heddiw?

Wel. Bysa, dwi’n meddwl, os ydi llwyddiant yr aps diweddar yn profi unrhywbeth. Fysa angen eu cyhoeddi nhw’n ddigidol, wrth gwrs, achos bod plant heddiw’n colli eu meddyliau’n llwyr pan ‘da chi’n sticio rwbath oni bai am iPad o’u blaena nhw. Ond mae apêl y gyfres yn dal i fod yn un cryf: yn gyfuniad perffaith o ddarllen a gemau cyfrifiadur, ac yn gyflwyniad perffeithiach fyth i fyd yr Orcs a’r Corachod a’r Be Bynnag Ydi Elves Yn Gymraeg. Ac ar y nodyn yna…

2) Fysa rwbath tebyg yn gweithio yn Gymraeg?

Reit. Dwi angen help famma. Achos dwi’n meddwl ‘mod i’n cofio llyfrau tebyg yn Gymraeg amser maith yn ôl. Oedd ‘na lyfr yng nghyfres y Llewod oedd yn gadael i chi ddewis cwrs y stori, ta dwi’n gwneud hwnna i fyny? Dwi’n siŵr fy mod i’n cofio llyfr Cymraeg tebyg hefyd am Robin Hood… neu Twm Siôn Cati… neu rywun. A dwi’n gwbod bod y llyfra ‘ma (os ydyn nhw’n bodoli) yn y tŷ yn rwla. Ond mae rhai o stafelloedd y tŷ ‘ma’n debyg i’r stordy ar ddiwedd Raiders of the Lost Ark, felly dwi ddim yn debyg o’u ffeindio nhw’n fuan.

Fysa plant Cymru heddiw’n debyg o fod isio rwbath fel Fighting Fantasy? Fysa llyfra fel’na’n achub yr iaith Gymraeg, unwaith ac am byth?

A fysa rywun yn fodlon talu ffortiwn fach i fi sgwennu un?

Ta ydi’r byd wedi newid gormod, a phlant Cymru ddim yn fodlon talu unrhyw sylw i unrhywbeth ond eu ffonau, a’u dolia Miley Cyrus, a’u “gemau cyfrifiadurol” bondigrybwyll?

Damia nhw.

Anghofiwch yr holl beth. Dwi’n mynd i chwara Fallout: New Vegas.

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s