Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Chwefror 7, 2014.
O’n i’n ffan mawr o’r gêm Dungeon Keeper ar y PC yn fy ieuenctid. Deud y gwir, roedd lot o betha gan Bullfrog yn grêt, Theme Park a Theme Hospital ymysg y goreuon.
Felly ges i fy siomi’n fawr wrth ddysgu am fethiant llwyr y fersiwn diweddara o Dungeon Keeper, wedi ei ryddhau’n ddiweddar ar Android ac iOS. Yn lle darllen be sgen i i ddweud am y peth, jyst gwyliwch y fideo yma (rhybudd – lot o regi blin):
Waw. Gêm sydd, ar yr wyneb, am ddim i chwarae, ond sy’n eich fforsio chi i wario ffortiwn fach i wneud… wel, unrhywbeth. Gêm mor wael, mae o wedi ffeindio ei ffordd ar safle newyddion y Beeb. Ac ar ben popeth, mae’r gêm yn trio’ch tricio chi i roi adolygiadau pum seren iddo fo – yn llwyddiannus, yn ôl y fideo uchod, er bod defnyddwyr Metacritic ychydig yn llai hawdd eu twyllo.
Yn lle prynu’r rybish yna, ewch i wefan Good Old Games a gwario jyst dros saith bunt ar y Dungeon Keeper 1 & 2 gwreddiol.
Ond ydi hwn yn symptomatig o broblem fwy?
Wel, ydi, wrth gwrs, neu fyswn i ddim yn boddran sgwennu hwn.
I fi, os ydi rwbath fel Skyrim neu GTA 5 neu Super Mario 3D World fel cinio Dydd Sul, mae Dungeon Keeper neu Angry Birds yn bryd o McDonald’s, neu’n sosej rôl o Spar: rwbath i’w fwynhau am bum munud cyn taflu’r gweddillion i’r bin, wedi anghofio amdanyn nhw’n llwyr.
Dwi ddim yn gwbod sut i fynd ymlaen efo’r fetaffor yna, felly wna i anghofio amdano fo.
Wna i ddim mynd ar rant am gemau digidol. Mae ‘na fanteision iddyn nhw, yn amlwg – heb gostau isel rhyddhau gemau yn ddigidol, fysa Fez a Flower a Super Meat Boy ddim yn bodoli. Ac mae chwarae gemau bwrdd ar yr iPad yn briliant. Ond yn bersonol, mae’n lot gwell gen i fynd i siop a phrynu gêm ar ddisg, yn ei focs, gyda chyfarwyddiau. Mae’n well gen i feddwl am gêm fel rwbath sy… ‘da chi’n gwbod… yn bodoli. O ‘mhrofiad i, dydw i ddim yn talu digon o sylw i gemau dwi ‘di lawrlwytho. Ar fy Xbox 360, mae gen i Braid a Magic The Gathering: Duels of the Planeswalkers wedi eu lawrlwytho, a prin dwi ‘di eu cyffwrdd nhw. Mae’r un peth yn wir am The Secret of Monkey Island: Special Edition, Fallout 1 & 2, Lure of the Tempress, Battlefield 2 a Beneath a Steel Sky ar y PC.
Ac ar y ffôn:
Settlers of Catan
Monopoly (dwi’n gwbod, dwi’n gwbod…)
Carcassonne
MX Mayhem
Minecraft: Pocket Edition
Townsmen 6
Spirits
Dungeon Village
Angry Birds
The Forest of Doom
A mi o’n i ‘di anghofio bod hanner rheini gen i.
Dwi’m yn gwbod sut mae plant heddiw’n meddwl. Ella’u bod nhw’n trysori’r ffeils digidol ar eu iPhones fel o’n i’n trysori fy nghopi sgleiniog o Batman ar y NES flynyddoedd yn ôl… ond dwi’m amau hynny rywsut. Dwi’n amau hefyd fyswn i’n caru gemau gymaint ag ydw i rŵan tyswn i ‘di chwarae’r fersiwn diweddara o Dungeon Keeper pan o’n i’n chwech yn hytrach na Super Mario Bros. Dwi’n licio’r profiad o gracio gêm ar agor ac ista o flaen teledu mawr, controller yn fy llaw, yn edrych ymlaen at 30+ awr o gynnwys, a ddim isio i’r profiad yna ddiflannu. Sori, ond dydi jabio at ffôn efo’ch bawd ar drên ddim yn cymharu. A pan ‘da chi’n adio gorfod talu pris ychwanegol am elfennau cwbwl syml i’r gêm – fel y gallu i’w chyffing chwarae o – dwi allan.
Mae rhai [Citation Needed] wedi cymharu tyfiant gemau bwrdd i lwyddiant y “Slow Food Movement”, gyda phobol yn ymhyfrydu yn y teimlad o’r cardiau a’r dîs yn eich dwylo, a’r elfen gymdeithasol sy’n dod o gasglu rownd bwrdd efo’ch ffrindiau a chymryd eich amser dros gêm. Ella fydd angen symudiad tebyg ar ryw bwynt yn y dyfodol os ‘da ni isio i gemau consol a chyfrifiadur “traddodiadol” barhau fel mae nhw.
Ond am y tro, mae nhw’n dal yma. Dwi am olchi blas drwg Dungeon Keeper allan o ‘ngheg rŵan efo Assassin’s Creed IV. Allan o focs. Yn fy mhants. Fel mae petha i fod.